Fframwaith Cynllun Gwaith Iaith
Cyd-gysylltydd Iaith
______________________________________
Athrawes/athro â
chyfrifoldeb tros iaith mewn Ysgol Gynradd
PWYNTIAU TRAFOD
Dogfennaeth:
Bod yn gyfrifol am bolisïau ar agweddau o ddysgu iaith - mewn
ymgynghoriad â'r Pennaeth a gweddill y staff e.e. Darllen; Y Gymraeg a'r Saesneg; Ymateb
i Waith Plant a.y.b.
Bod yn gyfrifol am gynllun gwaith ysgol gyfan, a cheisio sicrhau
cysondeb, dilyniant a pharhâd yn rhaglenni gwaith pob dosbarth.
Hyfforddiant Mewn Swydd:
Llunio strategaethau ar gyfer lledaenu gwybodaeth am arfer dda (e.e.
cyfarfodydd Nos Fawrth, arwyddfwrdd y 'Stafell Athrawon)
Trafod esiamplau o waith safon uchel ym mhob oedran er mwyn codi
disgwyliadau athrawon:
(a) fel man cychwyn i drafodaeth (e.e. beth oedd amgylchiadau
ffafriol a ysgogodd y gwaith?)
(b) fel nôd i ymgyrraedd ato.
Codi ymwybyddiaeth y staff o gynnwys cyhoeddiadau a allai fod o
gymorth iddynt wrth gynllunio gwaith iaith e.e.
* Dogfennau Cymraeg a Saesneg y Cwricwlwm Cenedlaethol - tynnu eu
sylw at Y Rhaglenni Astudio a'r Canllawiau Anstatudol
*Dogfennau Gwynedd/Môn ar Lawysgrifen, Darllen a.y.b.
* Cynnyrch Cyngor Cwricwlwm Cymru e.e. Iaith Trafod Iaith
Cynrychioli'r ysgol ar gyrsiau HMS Iaith, ac adrodd yn ôl i weddill
y staff - er mwyn eu hymgyfarwyddo â datblygiadau/syniadau/llyfrau newydd ac yn y blaen.
Codi ymwybyddiaeth o Iaith yn y meysydd cwricwlwm eraill (drwy
ddarllen erthyglau mewn cylchgronnau, a chasgliadau o gyhoeddiadau newydd e.e. "Books
for Keeps".
Arfer Dda:
Sicrhau cysondeb yn y dulliau dysgu drwy gyd-drafodaeth a thrwy godi
ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n effeithiol, h.y. lledaenu arfer dda o ddosbarth i ddosbarth
drwy fonitro datblygiad iaith drwy'r ysgol.
Portffolio'r Ysgol:
Bod yn gyfrifol am bortffolio'r ysgol o esiamplau gwaith plant ar
lefelau gwahanol - ei ddiweddaru, ac ymgynghori gyda'r athrawon eraill ynglyn â'i
gynnwys.
Adnoddau:
Archebu llyfrau a/neu bod yn ffynhonell ar gyfer cynorthwyo athrawon
eraill gyda'u harchebu.
Trefnu ffair lyfrau:
Hwyluso trefniadau ymweliad/ymwelwyr i'r ysgol fel bod plant yn cael
y cyfle i ddefnyddio iaith gyda gwahanol bobl, ac i bwrpasau arbennig - er mwyn ceisio
hybu profiadau ieithyddol byw ac amrywiol i'r plant.
Trefnu ymweliad(au) awdur neu fardd drwy'r cynllun "Awduron ar
Daith".
Rhieni:
Rhannu cyfrifoldeb gyda'r Prifathro/Brifathraes, am gyswllt gyda
rhieni e.e. i egluro polisi darllen yr ysgol i rieni newydd, ac i gyd-gysylltu a
chyd-gordio gwaith gwirfoddolwyr darllen. |