Fframwaith Cynllun Gwaith Iaith
                 
Cynllunio ar gyfer dilyniant a chynnydd
______________________________________ Yn ôl..

Dyfeisiwyd y tudalennau hyn er mwyn cynorthwyo ysgolion i gynllunio ar gyfer dilyniant a chynnydd ym mhrif feysydd y cwricwlwm Cymraeg a Saesneg trwy osod amcanion clir ar gyfer cyflwyniad disgyblion ar ddiwedd pob dwy flynedd yn yr ysgol gynradd. Mewn ysgolion mawr efallai y buasai'n well gan athrawon osod amcanion ar gyfer pob blwyddyn.

Dylid llenwi y fersiwn Cymraeg a'r fersiwn Saesneg o bob dalen oherwydd bydd amcanion cwricwlaidd Cymraeg a Saesneg yn wahanol ar rai adegau yn ôl profiadau ieithyddol y disgyblion. Mae'n bwysig hefyd fod ysgolion yn cynllunio ar gyfer yr holl gwricwlwm yn y ddwy iaith.

Mae'n anodd iawn mynegi amcanion y cwricwlwm Iaith yn ddiamwys. Mewn gwirionedd yng nghyd-destun tasgau penodol yn unig y gellir asesu amcanion.

Argymhellir felly bod ysgolion yn dyfeisio tasgalu yng ngyd-destun y cwricwlwm a fydd yn asesu i ba raddau y cyflawnwyd amcanion yr ysgol.

Gall y tasgau hyn, yn aml, fod yn drawsgwricwlaidd ac yn asesu mwy nag un llinyn neu bwnc ar yr un pryd. Nid profion mohonynt, ond gweithgareddau cwricwlaidd dilys a fydd yn digwydd tros gyfnod o amser yng nghyd-destun normal yr ystafell ddosbarth. Bydd yr athrawes yn 'ymyrryd' ac yn cynnig cynhaliaeth pan fo angen hynny.

Bydd y broses yn tynnu at ei gilydd gynlluniau'r cwricwlwm ac asesu yn galluogi ysgolion i gynllunio ar gyfer asesu'r sgiliau sylfaenol. Bydd y math hwn o asesu yn ffurfiannol ac yn cael effaith ar gynllunio'r cwricwlwm: bydd angen ymestyn rhai disgyblion a chynnig cynhaliaeth ychwanegol i eraill.

Wrth ffurfioli amcanion a llunio tasgau argymhellir bod ysgolion yn dechrau gyda'u disgwyliadau a'r gweithgareddau sy'n bodoli ar hyn o bryd, a gwirio rhain yn erbyn gofynion y cwricwlwm cenedlaethol.

 
Mae tudalennau 10 i 31 ar ddogfen ar wahân - 'IAITH2'