Fframwaith Cynllun Gwaith Iaith
Cyflwyniad a Rhagarweiniad
______________________________________
Ysgogi trafodaeth yw bwriad y ddogfen hon.
Fe'i lluniwyd fel ymateb i alwadau a ddaeth o du'r ysgolion. Nid oes
modd ateb gofynion pob ysgol gynradd mewn un model o Gynllun Gwaith Iaith, ond hyderir y
bydd hon yn fan cychwyn teilwng, a/neu'n gadarnhâd o'r hyn sydd yn yr ysgol yn barod.
Ceisiwyd cadw at arfer dda dysgu iaith yn anad dim arall. Ni cheir
yma anogaeth i ymwneud ag ymarferion di-fudd o werslyfrau, nac i ofyn i blant ddysgu
rhestrau o eiriau di-gyswllt ar gyfer profion sillafu, er enghraifft. Yr hyn geir yma ydi
anogaeth i ddysgu iaith mewn ffordd fywiog/ sy'n rhoi sialens i blant (ac i'w hathrawon);
sy'n eu hysgogi i feddwl; i ymateb i wahanol symbyliadau; i ddefnyddio iaith i bwrpas ac
sy'n rhoi cyfle iddynt adfyfyrio ar eu defnydd hwy, ac eraill, o iaith.
Ni cheir ychwaith argymhellion i ddefnyddio unrhyw un cynllun
darllen na dull arbennig o ddysgu darllen. Argymhellir defnyddio cyfuniad o ddulliau dysgu
darllen gydag ystod eang o lyfrau, fel bod modd ymateb i anghenion plentyn unigol.
Rhaid cofio fod llawer o ddatblygu iaith yn digwydd yn ystod
gweithgareddau eraill: mathemateg a gwyddoniaeth, technoleg a'r dyniaethau, cerdd a chelf,
er enghraifft. Mae angen bod yn ymwybodol o hyn os am ddatblygu iaith y plant.
Bydd angen i'r ysgol unigol ymateb drwy gyd-drafod, addasu ac
adeiladu ar y ddogfen hon, fel ei bod yn adlewyrchu'r hyn a ddigwydd ar lawr y dosbarth.
Rhydd hyn berchnogaeth yr ysgol arni. Da o beth fyddai ychwanegu taflenni defnyddiol a
llyfryddiaeth sydd gan yr ysgol yn barod. Dylai Dogfen Iaith ysgol dyfu allan o'r hyn sy'n
digwydd ar lawr y dosbarth, a dylai ddatblygu a chael ei haddasu wrth i arbenigedd staff
ddatblygu yn y maes.
Craidd y ddogfen hon yw dalennau sy'n cyfeirio at yr amrywiol
agweddau ar Lafaredd, Darllen ac Ysgrifennu. Barnwyd mai priodol oedd enghreifftio un
ddalen gyda'r disgwyliadau ar gyfnodau arbennig, ynghyd â gweithgaredd posib.
Yn ogystal ceir dalennau o arweiniad ar rai agweddau. Unwaith eto
cyfrifoldeb yr ysgol - o safbwynt eu gweledigaeth a'u hathroniaeth - yw derbyn, addasu neu
ddiystyru y rhain. Afraid yw dweud mai arferion llawr-dosbarth fydd yn penderfynu a ydynt
yn cael eu cynnwys fel rhan o ddogfen yr ysgol.
______________________________________
IAITH
Elfennau Creiddiol
Mae iaith yn ddylanwad unigryw yn natblygiad plentyn ac yn sylfaen
pob dysgu ac addysgu.
Braint plant Gwynedd/Môn yw manteisio ar gyfoeth dwy iaith a dau
ddiwylliant a chael datblygu yn addysgol a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r
Saesneg.
Seilir y polisi hwn ar Bolisi Iaith cyfredol Awdurdod Addysg
Gwynedd/Môn ac ar ofynion statudol a chanllawiau'r cwricwlwm 'cenedlaethol'.
Amcan y polisi cwricwlaidd yw gosod seiliau er mwyn datblygu plant i
fod yn hyfedr wrth ddefnyddio dwy iaith i gynhyrchu a chyfathrebu yn y ddwy iaith.
Mae meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y naill iaith a'r llall yn
greiddiol i weithrediad yr amcan hwn. Dylid, yn ogystal, codi ymwybyddiaeth plant o'u
treftadaeth ac agweddau o'r cwricwlwm Cymreig.
Y mae datblygiad iaith yn ymwneud â meithrin sgiliau yn y moddau:
Llafaredd
Darllen
Ysgrifennu
ac ar gyd-ddibyniaeth y sgiliau hyn.
Llafaredd
Dylid sicrhau cyfleoedd cyson i blant ddatblygu eu sgiliau yn yr
agweddau canlynol:
- Sefyllfaoedd Anffurfiol: Siarad am brofiadau a digwyddiadau a mynegi
teimladau, yn arbennig gyda chyfoedion a chyda'r athro/athrawes.
- Sefyllfaoedd Ffurfiol: Trafodaeth ffurfiol, chwarae rôl neu siarad
â rhai o du allan i'r dosbarth; cywair mwy ffurfiol.
- Gwrando a Deall: e.e. ar storiau, darlleniadau ac ar drafodaethau o
wahanol gyfryngau.
- Cyflwyniadau Llafar: Adrodd stori neu ddarn o farddoniaeth; chwarae
rôl a chreu cymeriad; cyflwyno darlleniad a baratowyd.
Darllen
Dylid meithrin plant i fod yn ddarllenwyr brwdfrydig ac annibynnol.
Dylai profiadau'r plant gynnwys yr elfennau canlynol.
- Rhuglder ac Ystod: Medrau sylfaenol; cynyddu'r gallu i ddarllen yn
uchel yn ystyrlon; cynnydd yn y math o ddeunydd a ddarllenir.
- Ymateb i Lenyddiaeth: Ymateb yn werthfawrogol a chreadigol i'r hyn a
ddeallant, drwy lunio adolygiad efallai, gwneud "collage" neu gyflwyniad
llafar/dramatig.
- Uwch-sgiliau Darllen: Cywain gwybodaeth o bob math o ddeunydd
printiedig a gweledol.
- Hyfedredd mewn sgiliau cip-ddarllen/llithr- ddarllen.
- Datblygu'r gallu i fod yn ddarllenwyr beirniadol.
Ysgrifennu
Dylid meithrin plant i fwynhau ysgrifennu, gweld eu hunain fel
awduron, a deall pwrpasau ysgrifennu.
Dylai profiadau'r plant gynnwys yr elfennau canlynol.
- Mynegi Syniadau a e.e. llunio adroddiad, cyfarwyddiadau, cofnodi,
- Gwybodaeth: egluro proses neu drefn mewn agweddau o waith ar draws y
cwricwlwm.
- Ysgrifennu Personol, e.e. barddoniaeth, storiau, dyddiadur, dyddlyfr,
a Dychmygus ac Esthetig: chofnod o brofiad personol (e.e.) ymweliad.
- Mynegi Barn safbwynt, Trafod mater 'dadleuol', ysgrifennu perswadiol,
gosod rhesymu: safbwynt, rhesymu.
- Y Broses a'r Cyflwyniad:Gallu i ail-edrych ar y gwaith a newid
agweddau ohono. Creu ystyr sy'n 'well'.
- Talu sylw i hanfodion atalnodi, sillafu a llawysgrifen.
|