Codi Safonau Llythrennedd mewn Ysgolion Cynradd
______________________________________ Yn ôl..

Dogfen SPAEM – Awst 1998

YMATEB YR AWDURDOD ADDYSG

Croesewir y ddogfen hon sy’n disgrifio hanfodion polisi’r Llywodraeth, a hefyd yn cynnig canllawiau ymarferol ynghylch sut y gellir mynd ati i godi safonau mewn llythrennedd.

CRYNODEB O’R PRIF BWYNTIAU

  • Disgresiwn lleol – nid oes angen dilyn yr awr lythrennedd a arfaethir yn Lloegr.
  • Gall athrawon ddewis y strategaethau sy’n addas i’w gofynion.
  • Rhaid i bob AALl lunio strategaeth leol, wedi’i sylfaenu ar yr arferion mwyaf effeithiol.
  • Dylai ysgolion unigol osod eu targedau eu hunain a’u monitro.
  • Mater i ysgolion yw faint o amser y dylid ei neilltuo ar gyfer llythrennedd.
  • Mae angen ymrwymiad i adolygu ac arfarnu cynnydd yn rheolaidd.
CYNNWYS YR ADRODDIAD

t.iii – iv
Ymagwedd Strategol

Llythrennedd Teulu

Blwyddyn Genedlaethol Darllen – o fis Medi 1998

Asiantaeth Medrau Sylfaenol

Cynlluniau darllen gwirfoddol

 

t.v Rhugledd yn Gymraeg a Saesneg

 

 

 

Camau i’r Ysgolion

Yn y pen draw, bydd ein gallu i gyrraedd targedau 2000 a 2002 yn dibynnu ar y camau a gymerir gan yr ysgolion a’r athrawon dosbarth eu hunain.

 

 

 


 

Dylai pob ysgol gynradd:

  • Werthuso ei hymagwedd at addysgu llythrennedd yng ngoleuni tystiolaeth a chanllawiau SPAEM;
  • Rhoi medrau addysgu wrth graidd strategaethau llythrennedd a leolir mewn ysgolion;
  • Pennu targedau ymestynnol ar gyfer gwelliant;
  • … beth bynnag fo lefel bresennol ei pherfformiad, ymrwymo i’r broses o welliant parhaus.

Monitro ac Adolygu

  • mae angen ymrwymiad i adolygu ac arfarnu cynnydd yn rheolaidd.

 

 

 

 

ADRODDIAD SPAEM

Llythrennedd mewn ysgolion cynradd

  • Arferion da wrth addysgu medrau llythrennedd
  • Ffactorau sy’n cyfrannu at dangyflawni mewn llythrennedd
  • Nodweddion yr arferion da a gysylltir â gwelliannau mewn llythrennedd
    – ar lefel ysgol gyfan
    – ar lefel y dosbarth
  • Nodweddion arferion da mewn addysgu a dysgu
    – darllen
    – ysgrifennu
    – siarad a gwrando
  • Enghreifftiau o arferion effeithiol.
YMATEB YR AWDURDOD


Mae tystiolaeth yn dangos y gall llawer o’r elfennau wneud cyfraniad o bwys i helpu plant i wella eu medrau darllen.

Bydd swyddogion ac ymgynghorwyr yn pwysleisio’r modd y gall nifer o fentrau gynorthwyo yn y gwaith o godi safonau. Gwnaed hyn mewn cyrsiau i benaethiaid yn ystod Tymor yr Haf, a phwysleisir yr elfennau eto mewn cwrs hyfforddiant ar gyfer athrawon B3 a B4 yn ystod mis Medi 1998.

Croesewir ymrwymiad y Llywodraeth i wella safonau llythrennedd yn y ddwy iaith. Croesewir hefyd y cyfeiriad at ACCAC a’r Cyngor Llyfrau yn comisiynu gwaith er mwyn sicrhau bod yna ystod mor eang â phosibl o ddeunyddiau a gwerslyfrau darllen Cymraeg ar gael i ysgolion.

Yn naturiol, mae angen i’r camau fod yn seiliedig ar:
Dystiolaeth – am yr hyn sy’n llwyddiannus;
Gwybodaeth broffesiynol – gwybodaeth athrawon am hanfodion datblygiad llythrennedd a hefyd am yr hyn sy’n gwneud addysgu a dysgu effeithiol;
Cefnogaeth leol – gan dîm o swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n gallu targedu’r cymorth i’r mannau lle mae’r angen fwyaf.

Mae pob pennaeth yn ymwybodol o’r angen i osod targedau ar gyfer 1999, 2000 a 2002. Dylai’r drefn fod yn weithredol ym mhob ysgol.

Mae strategaeth codi safonau’r Awdurdod yn nodi’n glir sut y bwriedir rhoi sylw i nifer o’r agweddau a nodir.

Ystyrir dogfen SPAEM yn adnodd gwerthfawr iawn i’r diben o gynorthwyo yn y gwaith.

 

 

 

Mae holl ysgolion yr Awdurdod yn ymwybodol o’r angen i fonitro cynnydd yn rheolaidd. O ganlyniad i gynnwys adran yn yr adroddiadau arolygu newydd a arfaethir o fis Medi 1999 ymlaen, bydd pob ysgol yn rhoi sylw dwys i hunan-arfarnu yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd adolygiadau yn rhoi proffil amlwg i gynlluniau datblygu llythrennedd rhifedd yn yr ysgolion.

 

Croesewir yn arbennig y dystiolaeth a geir gan SPAEM ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am yr agweddau mwyaf llwyddiannus sydd wedi eu datblygu yng Nghymru a thu hwnt.

Amheuthun yw cael crynodebau hwylus i nodi’r ffactorau sy’n cyfrannu at arferion effeithiol.

Gall rhain fod yn sail ardderchog ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau HMS.