______________________________________

Er
mwyn dangos i blant bod print yn bwysig y mae angen i ddosbarthiadau mewn ysgolion cynradd
roi lle a statws amlwg iddo. Nid fel addurn y dylid synio amdano ond yn hytrach fel rhan
ganolog a phwysig o fywyd dydd-i-ddydd dosbarthiadau. Dylai fod yn ffocws cyson i siarad a
gweithgaredd.
Mae maintioli a phriodoldeb y gofod arddangos sydd ar gael ar furiau dosbarthiadau yn
amrywion fawr ond y mae angen gwneud yn fawr o bob cyfle i wneud print yn
gyhoeddus. Bydd y rhan fwyaf or print hwn, o reidrwydd, felly, yn brint
bras.
Serch hynny y mae angen cofio mai oddi mewn i gloriau llyfrau (a phapurau/cylchgronau
etc) y gwêl plant y rhan fwyaf or print syn rhan ou profiad tu allan
ir ysgol. Ni ddylid anghofio, chwaith, mai hysbysebion, posteri a phethau cryno
or fath ywr rhan fwyaf or print a ddarllenir gennym yn y plân fertigol.
Amgylchedd o Brint
Mae hwn yn cynnwys:
i) Y print syn weladwy gyhoeddus
ii) Y print sydd mewn llyfrau
* * * * *
Print syn weladwy gyhoeddus - ei nodweddion
PRINTIO CLIR
amrywiaeth o liwiau
amrywiaeth o bapur
maintioli priodol
PRINTIO YSTYRLON -
yn ymwneud ag amrywiaeth o destunau (yn haeddu ei le)
brawddegau neu ddarnau cyfan o destunau yn codi o brofladaur plant
PRINTIO SYN CAEL SYLW RHEOLAIDD, BOB DYDD
Sicrhau bod y print a arddangosir yn cael sylw, yn apelgar ac yn ennyn diddordeb y
plant
PRINTIO SYN CAEL El NEWID YN RHEOLAIDD
gan gynnig rhywbeth gwahanol o hyd
LLYFRAU MAWR MEWN DOSBARTHIADAU (Storiau)
Mae angen cael amrywiaeth o lyfrau mawr ymhob dosbarth mewn ysgol gynradd (nid mewn
dosbarthiadau babanod yn unig). Bydd yr amrywiaeth hwn yn cynnwys:
Llyfrau storiau
yn seiliedig ar lyfrau a ddarllenwyd
rhaglenni teledu a welwyd
o ddychymyg y plant
o brofiadaur plant
Llyfrau wediu creu gydar plant (cyd-ysgrifennu)
Llyfrau wediu creu gan y plant
y cloriau
lluniau
testun
Llyfrau confensiynol
Llyfrau consertina
Llyfrau wal
LLYFRAU MAWR MEWN DOSBARTHIADAU (Barddoniaeth)
Amrywiaeth o fathau:
Hwiangerddi
Hoff gerddi
Cerddi cyfarwydd
Cerddi a luniwyd yn y dosbarth
LLYFRAU MAWR MEWN DOSBARTHIADAU (Eu cynnwys yn seiliedig ar fywydaur
plant)
e.e. Llyfr penblwydd
Llyfr gwyliau
Llyfr stryd ni
Llyfr Dydd Sadwrn
Llyfr Nain a Taid
Llyfr Nadolig
Llyfr anifeiliaid anwes
Llyfr brodyr a chwiorydd
Llyfr ein pentref ni
Llyfr ceir
Llyfr tai
Llyfr nin sâl
Llyfr ein hysgol ni
Llyfr pobl drws nesaf etc.
LLYFRAU MAWR MEWN DOSBARTHIADAU (Eu cynnwys yn codi or cwricwlwm]
Llyfr ein llythyrau ni
Llyfr y modelau a wnaethom
Llyfr ein paentiadau gorau
Ein llyfr gwneud:
masgiau
teisennau
cychod
melinau gwynt
barcut etc.
Llyfr am ein hymweliad â
Ein llyfr casglu
Ein llyfr am:
Y Llychlynwyr
Y Celtiaid etc.