Cyd-Ddarllen
______________________________________ Yn ôl..

       
Beth yw cyd-ddarllen?

Gweithgaredd a arweinir gan athrawes/athro sy’n dwyn ynghyd grwp neu ddosbarth o blant i gyd-ddarllen a thrafod testun sy’n weladwy iddynt. Er mwyn cynnal y weithgaredd ar lefel dorfol gelir gwneud defnydd o siart fflip neu daflunydd tros-ysgwydd.

Beth yw gwerth cyd ddarllen?

Mae’n cynnig cyfle i athrawes/athro gyflwyno model effeithiol o ddarllen. Gellir dangos sut i ddarllen testun yn ystyrlon gan amrywio tôn a goslef llais i’w gyfoethogi, ychwanegu ar yr ystyr a chrrey cymeriadau byw a thestun apelgar.

Wrth ddarllen barddoniaeth a rhyddiaeth gellir darllen mewn modd sy’n cyfleu rhythm a natur y darn.

Drwy gyd-ddarllen gellir cyflwyno a chodi ymwybyddiaeth plant o nodweddion testun.

Gellir codi ymwybyddiaeth o awahanol fathau o brint a thryw gyd-ddarllen mynych fel ellir ymarfer gallu plant i ddarllen yn rhugl.

Gellir cyflwyno a datblygu iaith sy[n berthnasol i drafod pront ac adnabod nodweddion arbennig.

Gellir canolbwyntio ar yr wybodaeth/confensiynau sylfaenol drwy ddefnyddio testun sy’n weladwy i bawb.

Drwy ei chyflwyno a’i defnyddio mewn cyd-destun ystyrlawn gellir datblygu’r eirfa sy’n gysyllitiedig â phrint.

Tudalen
Print
Llinell
Cerdd
Odl
Prif lythyren
Canol
Diweddglo
Atalnod/atalnodau
Marc cwesitwm
Paragraff
Disgrifiad
Bwlch
Ebychnod
Clawwr
Arlunydd/arlunwyr
Meingefn
Lluniau
Awdur/Awdures/Awduron
Deialog
Cymeriad
Pennod
Brawddeg

Gellir codi wymwybyddiaeth fod iaith llyfrau yn wahanol i’r iaith llyfrau yn wahanol i’r iaith lafar.

Gellir dangos, trafod a chyflwyno strategaethau sy’n cynorthwyo darllenwyr i ddadansoddi geiriau anghyfarwydd drwy ragfynegi, rhannu’’r gair yn ôl sillaf a gwneud defnydd o ystyr a chyd-destun ehangach.

* * * * *

Trefniant - Rhai pwyntiau ymarferol.

Dylai’r darnau gael eu cyflwyno’n raenus ac mewn modd eglur gan ddefnyddio’r taflunydd tros ysgwydd neu siart-fflip.

Dylai’r darnau fod yn enghreifftiau o destunau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dylai’r testunau fod yn berthnasol yn ôl y nodweddion/yr wybodaeth sydd i’w datblygu a’i thrafod.

Dylai’r testunau fod yn drawsdoriad o engrheifftiau o ffuglen llyfrau ffeithiol, rhyddiaeth a barddoniaeth.

Trwy ddefnyddio’r dull hwn gellir cyflwyno testunau i’w cyd-ddarllen na fyddai rhai plant yn ymwybodol ohonynt neu na fyddent yn mentro’u darllen eu hunain.

Gall gweithgarwch cyd-ddarllen fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol.

Ar lefel ffurfiol’gellir canolbwyntio ar elfennua penodol ac ar lefel anffurfiol gall y pqyslais fod ar fwynjau cyd-ddarllen ac ymestyn profiadua’r plant o destunau amwywiol. Gellir canolbwyntuio ar synau, llythrennau ac adeiladu ar eirfa weledol plant.

   
Beth am adnoddau?

Dylid casglu cronfa o destunau safonol e.e. chwedlau, barddoniaeth , gweithiau clasurol, nogelau, dramau, resetiau, jocs, dyddiadur, posteri, llythytau, darnau o waith y plant.

Mae’r weithgaredd yn gofyn bod athrawon yn defnyddio un ai siart fflip neu daflunydd tros-ysgwydd i sicrhau bod y testunau o fewn cyrraedd a golwg y plant.

_____________________________________________________ 
Darllen ac Ysgrifennu                                                                        

Beth yw’r cyswllt rhwng darllen ac ysgrifennu?

"We can read without ever having written but we cannot write without ever having read."

"Writing demands an enormous fund of specialised knowledge which cannot possibly be acquired from formal instruction, drill or text books. The only accessible source of that knowledge is the written language which experienced authors have produced. Writing must be learnt by reading."

Frank Smith –
Reading like a writer

Mae perthynas agos rhwng darllen ac ysgrifennu ac mae cysylltiad agos rhwng hyfedredd person fel darllenwr a’i allu fel ysgrifennwr.

Mae darllen ac ysgrifennu’n ddwy weithred bersonol, gweithredoedd ble mae’r darllenwr a’r ysgrifenwr yn ymdrin â symbolau. Wrth ddarllen daw’r darllenwr â’i ystyr ei hun i gyfarfod yr ystyr a roddwyd gan yr awdur yn y gair ysgrifenedig.

   
Pam cysylltu darllen ac ysgrifennu?

Am mai dwy wedd ar yr un peth ydyn nhw. Mae darllen i ysgrifennu fel y mae gwrando i siarad.

Trwy gyflwyno testunau safonol ac amrywiol, (gan gynnwys enghreifftiau o waith plant) fel modelau o ysgrifennu effeithiol, a’u cyd-ddarllen, gellir datblygu’r ysgrifenwyr gwan ac ymestyn yr ysgrifenwyr hyderus.

Wrth gyflwyno testunau gweladwy i bawb, gellir tynnu sylw at nodweddion arbennig er mwyn datblygu gallu’r plant i ysgrifennu. Gellir cynyddu a chyfoethogi ‘repertoire’ geiriau, brawddegau, a syniadau creadigol y plant.

     
Pa nodweddion mewn testun y gellir eu trafod?

Gellir cyflwyno pob math o wahanol weithiau ysgrifenedig sy‘n cyflwyno model o ysgrifennu ‘da’/safonol.

Gellir datblygu a chodi ymwybyddiaeth o ddefnydd geiriau arbennig ac effeithiolrwydd y geiriau hynny. Gellir arwain plant i drin Thesawrws i ganfod geiriau cyfystyr a ‘chwarae’ â geiriau eraill i gadw ystyr y testun.

Gellir trafod amrywiaeth ac effeithiolrwydd brawddegau mewn testun. Gellir tynnu sylw at gydlynedd brawddegol gan drafod sut mae’r brawddegau’n arwain o un i’r llall. Mae natur cydlynedd yn amrywio ac yn wahanol o lyfr i lyfr.

Yn aml iawn mae awduron yn defnyddio brawddegau byr a bachog i greu awyrgylch o densiwn, i godi ofn ac arswyd, i ennyn cydymdeimlad â chymeriadau neu i greu ymdeimlad o siom. Gellir creu a thrafod brawddegau tebyg.

Gellir trafod effeithiolrwydd paragraffu mewn testun.

Gellir cyflwyno plentyn i sut i atalnodi gan gynnwys dysgu pryd i ddefnyddio marc cwesiwn, ebychnod, atalnod, atalnod llawn, collnod, a dyfynodau.

Gellir trafod sut y cyflwynir cymeriadau arbennig trwy ddisgrifiadau uniongyrchol, trwy ddeialog, trwy ddigwyddiadau neu drwy gliwiau cudd yn y testun.

Gellir trafod i ba raddau mae barn yn gytbwys a theg mewn testun a beth yw’r gwahanieth rhwng barn a safbwynt.

Gellir trafod a chodi ymwybyddiaeth plentyn o arddulliau ysgrifennu gwahanol. Mae’r arddull yn ateb pwrpas yr ysgrifennu ac yn ystyried y gynulleidfa.

     
Trefniant – rhai pwyntiau ymarferol.

Gall cyfle godi ar y foment i drafod a chyflwyno model o ysgrifennu i amlygu nodwedd arbennig.

Gall cyfle nodi wrth ddarllen stori’n uchel, o ddarllen y plentyn ac yn uniongyrchol o waith ysgrifenedig y plant.

Gall yr hyn sydd i’w drafod ymwneud yn rheolaidd â mathau penodol o ysgrifennu er mwyn cynnig modelau wmrywiiol a phenodol i’r plant, e.e. dyddiadur, llyfr taith, dramau etc.

_____________________________________________________ 
Gweithgareddau Cyfannu - Y Dull Cloze                                      

Mae’r dull Cloze yn rhan bwysig o arfogaeth athrawon ac yn elfen bwysig mewn unrhyw raglen cyd-ddarllen.

Beth yw’r dull cloze?

Dull o ddatblygu y gallu i ddarllen yn ystyrlon yw’r dull ‘cloze’ neu’r dull ‘cyfannu’. Yn draddodiadol, offeryn asesu oedd ‘ymarferion’ cyfannu ond maent yn weithgareddau gwerthfawr iawn ynddynt eu hunain a dylent fod yn rhan o arfogaeth athrawon i feithrin llythrennedd, yn arbennig y gallu i ddarllen yn ystyrlon.

Beth yw gwerth y dull cloze?

Wrth ddarllen mae’r darllenydd yn dod ag ystyr at y testun a ddarllenir. Mae’r darllenydd profiadol wedi datblygu’r gallu i gysylltu geiriau a’i gilydd i’r graddau y gall drafod clwstwr o eiriau. Mae’n gwybod bod patrwm a dilyniant pendant i iaith felly os oes geiriau yn cael eu hepgor gall dynnu ar gliwiau cyd-destun a ieithyddol i ddyfalu beth sydd ar goll.

Mae gweithgareddau cloze yn caniatau i athrawes/athro arwain y plentyn i ddatblygu ei wybodaeth am iaith a strategaethau i allu darllen yn ystyrlon gan ddefnyddio cliwiau testun.

Gellir arsylwi ar y strategaethau y mae plant yn eu defnyddio i benderfynu ar y geiriau coll. Gellir sylwi ar yr adegau mae plant yn camddeall ystyr testunau ac yn gosod syniadau hollol anghywir, heb gadw ystyr, yn y bylchau. Gall y dewis posibl o eiriau fod yn bwnc trafodaeth grwp neu ddosbarth.

Drwy gyflwyno ac arwain plant drwy weithgareddau cyfannu yn aml, gellir cael darlun gwerthfawr o sut mae unigolion yn dod at ddarllen a deall testunau.

Y gobaith yw y bydd y strategaethau a gyflwynir ac a ddisgrifir drwy weithgareddau cloze yn treiddio i ddarllen annibynnol disgyblion.

      
Rhai pwyntiau ymarferol

Me’r dull cloze yn gwneud defnydd o ddarn o destun gyda geiriau ‘allweddol’ wedi’u dileu er mwyn hybu rhyngweithiad y darllenwyr ag ystyr y testun.

Gellir graddio’r weithgaredd i ateb gallu unigolion grwp neu ddosbarth cyfan.

Gellir gwneud defnydd o stribed comic gan ddatblygu’r gallu i dynnu ystyr o gliwiau gweledol a chyd-destun i wneud ystyr o’r stori. Byddai stribedi comic/cartwn yn apelio at y darllenwyr llai aeddfed.

Gyda darllenwyr mwy profiadol gellir defnyddio testunau mwy swmpus neu arbenigol gan hepgor geiriau’n amlach.

Sut i hepgor geiriau – y dewis

a) Gellir dileu geiriau a chynig ffurf y gair ynghyd â’r llythyren gyntaf.

e.e. Roedd y b wpe19.jpg (908 bytes) wedi tyfu yn yr ardd

b) Gellir cynnwys ffurf y gair yn unig.

e.e. Neidiodd Sian i’r wpe14.jpg (881 bytes) gyda sblas.

c) Gellir cynnwys y llythyren gyntaf a hyd y gair i ddangos sawl llythyren gyntaf a hyd a gair i ddangos sawl llythyren sydd ynddo.

e.e. Safair’ b_ _ _ _ ar ochr y mynydd moel.

ch) Gellir cynnwys hyd y gair yn unig.

e.e. Rhedodd Iwan cyn gyflymed â _ _ _ _ _ _ _ _.

d) Wrth i’r darllenwr ddod yn fwy hyderus gellir dileu geiriau heb gynnig cliwiau gweledol. Rhaid dibynnu ar gliwiau o fewn y testun y tro hwn.

e.e. yn ystod y swper fe gymerodd _________ a’i dorri. Rhoddodd damaid i bob un o’i ddisgyblion.
Yna rhoddodd win iddyn nhw i’w yfed.

Peth pwysig o du’r athrawes/athro yw sicrhau nad yw ef/hi yn mynnu‘r ateb cywir. Ni ellir derbyn ateb ‘gwirion’ neu ddi-sail ond fe ddylid derbyn syniadau synhwyrol. Ambell waith gall yr awgrymiadau a geir fod yn ‘well’ na’r geiriau gwreiddiol.

Oes angen trefniant arbennig?

Mae gofyn ymyrraeth synhwyrus yr athrawes/athro, fel bod sylw’r plant yn cael ei dynnu at y cliwiau ystyr yn y testun yn ogystal â thynnu ar wybodaeth flaenorol y gellir dibynnu arni i ddeall testun.

Gellir trafod a rhannu testun penodol sy’n weledol i grwp neu ddosbarth drwy ddefnyddio’r taflunydd.

Yn draddodiadol, gweithgareddau ysgrifenedig llenwi bylchau oedd ymarferion cloze. O’u hystyried fel gweithgareddau llafar yn seiliedig ar gyd-ddarllen, mae i’r weithgaredd fwy o werth. O gyflwyno testun i ddosbarth neu grwp o blant mae’r posibiliadau geiriol yn hyrwyddo trafodaeth. Mae gofyn i’r plant gytuno ar ystyr a ‘chywirdeb’ eu syniadau a’r testun ‘newydd’.

Oes angen adnoddau arbennig?

Dylid gwneud defnydd o amrywiaeth o destunau gan ddileu geiriau penodol neu allweddol e.e. barddoniaeth, straeon, cartwnau, llythyrau a.y.y.b.