Y Cyngor Llyfrau
________________________
cyngor3.jpg (24116 bytes)

Yn ôl..

   
LLYFRAU AR GYFER YSGOLION

Cynllun Marchnata gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda chefnogaeth y Swyddfa Gymreig ac ACCAC.
    
Mae Pedwar swyddog yn gweithio ar y cynllun hwn - TRI yn y sector cynraddd ac UN yn y sector uwchradd.  Maent yn ymweld â phob ysgol yng Nghymru er mwyn arddangos llyfrau ac adnoddau Cymraeg a Chymreig sy'n addas ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol a hefyd ddeunydd yn y cartref a'r ysgol.  Ers cychwyn y cynllUn yn yr ysgolion cynradd ym 1992 gwnaethpwyd dros 5,000 o ymweliadau mewn dros 1,600 o ysgolion.

Yn ystod 1998 dechreuodd y swyddog uwchradd fynd o gwmpas ysgolion yn y fan arddangos fawr.

Mae'r fan arddangos fawr yn rhoi cyfle i'r holl athrawon uwchradd weld ac archebu'r adnoddau amrywiol sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, a'r adnoddau Saesneg o ddiddordeb Cymreig, heb symud yr un cam o'r ysgol.

Cefnogir y cynllun gan y Swyddfa Gymreig ac ACCAC.

Mae ymweliad gan swyddog y cynllun ysgolion yn gyfle:

  • i athrawon weld y llyfrau a'r adnoddau diweddaraf heb orfod symud o'r ysgol
  • i athrawon archebu llyfrau
  • i athrawon ddarganfod pa ddeunyddiau sy'n newydd a pha rai sydd ar y gweill.  Sianelir yr archebion trwy siop lyfrau leol o ddewis yr ysgol.


PECYN GWYBODAETH AR GYFER POB YSGOL

Danfonir pecyn cynhwysfawr unwaith y tymor i bob ysgol yng Nghymru.   Danfonir copi hefyd i lyfrgelloedd, ymgynghorwyr a Chyfarwyddwyr Addysg, ynghyd â siopau a chyhoeddwyr.

Yn y pecyn ceir:

  • posteri lliwgar
  • taflenni am awduron
  • gwybodaeth am lyfrau
  • manylion am lyfrau ac adnoddau sydd newydd eu cyhoeddi neu ar y gweill
  • catalog llyfrau plant newydd bob blwyddyn
  • catalog Saesneg o lyfrau o gefndir Cymreig bob dwy flynedd
  • yn achos ysgolion uwchradd, caiff pob adran sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg restr gyflawn o lyfrau ac adnoddau sy'n benodol ar gyfer eu pwnc hwy, o leiaf unwaith y flwyddyn.

YSTAFELL ARDDANGOS

Yng Nghastell Brychan, pencadlys y Cyngor Llyfrau, ceir ystafell fawr braf yn llawn llyfrau plant a gyhoeddwyd yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac sy'n dal mewn print.

Croesewir ymweliadau gan lyfrgellwyr ac athrawon - mae'n gyfle gwych i bori mewn llonydd cyn penderfynu beth i'w archebu ar gyfer yr ysgol neu'r llyfrgell.

Am fwy o wybodaeth ar waith y Cyngor Llyfrau ymwelwch a'u safle: www.cllc.org.uk