*Mae cysylltiadau rhwng cartref a'r ysgol yn cefnogi gwaith yn y
dosbarth. Mae rhieni yn cael eu hannog i ddarllen i'w plant ac efo'u plant mor aml ac sy'n
bosibl, ac fe'u hysbysir yn fanwl am y cynnydd a wneir gan y plant.
*Mae'r rhaglen ddarllen wedi ei chynllunio'n dda ac yn weithredol.
Mae athrawon yn sicrhau fod plant yn darllen amrywiaeth eang o ffuglen, barddoniaeth ac,
yn arbennig yn CA2, yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth sy'n cynnwys llyfrau cyfair,
cylchgronau, mapiau, diagramau a ffeiliau-data i gefnogi eu gwaith.
*Yn CA1 mae dysgu ac ymarfer cyson ar waith ffonig a sgiliau
dad-ddynodi yn ffurfio rhan o'r rhaglen.
*Mae monitro ac arweiniad gofalus gan yr athro/athrawes yn sicrhau
cyfatebiaeth rhwng anghenion darllen a galluoedd datblygol y plant; mae'r gyfatebiaeth hon
mewn perthynas â darllen yn cael ei weld ar draws y cwricwlwm.
*Mae'r cysylltiad agos rhwng yr addysgu mewn darllen ac mewn
ysgrifennu, fel bod y naill yn atgyfnerthu'r llall.
*Mae'r ysgrifennu a'r darllen yn cael eu hatgyfnerthu gan ddefnydd
da o'r dechnoleg prosesu geiriau.
*Mae trefn dda i'r darllen, gyda llwybrau datblygol clir sy'n
sicrhau fod plant yn ymweld ag ystod rhesymegol o dasgau darllen, a hynny ar gyflymder
priodol.
*Mae'r athro/athrawes yn mynnu fod defnydd da yn cael ei wneud o'r
cyfnod darllen. Dysgir y plant i ganolbwyntio ar y dasg a'i gorffen hi.
*O'r cyfnod cynnar mae'r plant yn cael cyfleoedd digonol i weld
a chlywed testun darllen ar yr un pryd; er enghraifft, mewn gweithgareddau sy'n
ymwneud â thapiau a testunnau cyfochrog; gwaith darllen grwp gydag oedolyn.
*Mae yna gydbwysedd da rhwng darllen unigol a darllen grwp, darllen
yn uchel i 'gynulleidfaoedd' amrywiol a gwrando ar eraill yn darllen. Mae'r athrawon yn
peri i lenyddiaeth fod yn werthfawr ac yn ddiddorol i'r plant, er enghraifft, trwy
ddarllen deunydd safonol fel man-cychwyn i waith arall.
*Atgyfnerthir pwysigrwydd darllen trwy achlysuron a digwyddiadau
arbennig e.g. awduron preswyl, ffeiriau llyfrau, wythnos lyfrau, ymweliadau gan adroddwyr
storïau, cynhyrchiadau drama a pherfformiad o waith plant.