Darllen
Strategaethau i helpu plant sydd â thrafferthion darllen
______________________________________
Dadansoddi Darllen Plentyn sydd â Phroblemau Darllen
Dangosodd ymchwil fod plant yn defnyddio nifer o wahanol
strategaethau wrth ddarllen. Cwestiynau i'w hystyried wrth wrando ar blentyn ansicr yn
darllen:
(i) Ydi'r plentyn yn defnyddio ystyr? (Sematig). Os yw'r plentyn yn
darllen yn ystyrlon, ond heb fod yn gywir, yna mae'n defnyddio ei wybodaeth o iaith wrth
ddarllen. Mae hyn yn strategaeth gadarnhaol, ac i'w feithrin, e.e. y plentyn yn darllen
'mynd yn ôl i'r ty' yn lle 'mynd yn ôl adref'.
(ii) Ydi'r hyn mae'n ei ddweud yn gystrawennol? (Syntactig). Os
ydyw, mae ei iaith lafar yn dylanwadu ar ei ddarllen. Os nad ydyw, gall fod oherwydd nad
yw ei 'gystrawen' bersonol yn cynnwys yr un strwythurau â'i lyfr darllen, e.e. plentyn yn
darllen 'catched' am y gair 'caught' am nad yw'n gyfarwydd â'r ffurf gorffennol cywir.
(iii) Ydi o'n defnyddio cliwiau gweledol o'r llythrennau a'r
geiriau? (Graffig, gweladwy). Mae hyn yn strategaeth gadarnhaol wrth ddechrau darllen, ond
nid yw yn ddigonol wrth ddod at destunau mwy cymhleth.
Mae'n bwysig edrych ar bob llithriad, a'r mathau o strategaethau
mae'r plentyn yn eu defnyddio, er mwyn creu darlun cyflawn o'i anghenion.
Gellir rhannu'r mathau o lithriadau i 2 gategori:
(i) llithriadau cadarnhaol, e.e. cyfnewid deallus, sy'n dangos fod y
plentyn yn darllen am synnwyr
(ii) llithriadau negyddol sy'n llyffethair i ddealltwriaeth y
plentyn, pan nad yw'n darllen am synnwyr
e.e. gadael allan rhai geiriau allweddol;
peidio ceisio hunan-gywiro wrth gyfnewid geiriau yn ddiystyr;
gor-ddibyniaeth ar giwiau graffeg/gweladwy.
Y llithraidau mwyaf difrifol yw: gwrthod rhoi cynnig, pan fydd yr
athro/athrawes yn gorfod ymyrryd; a'r cyfnewid gair heb ystyr. Yn ôl ymchwil Cliff Moon,
mae gwahanol raddfeydd o ddifrifoldeb, e.e. y gair "CARTREF", yn cael ei
ddarllen fel:
| ADREF |
TY |
CARIAF |
YFORY |
| |
|
|
|
| gair gwahanol |
gair gwahanol |
gair gwahanol |
gair gwahanol |
| |
|
|
|
| edrych yn debyg gyda'r un ystyr |
edrych yn wahanol ond yr un ystyr |
edrych yn debyg, ystyr gwahanol |
edrych yn wahanol ac ystyr gwahanol |
| |
|
| llai difrifol |
mwy difrifol |
| |
|
| strategaeth gadarnhaol - mae'r
plentyn yn gallu cadw'r ystyr, er nad yw'n hollol gywir. |
strategaeth negyddol - mae'r
plentyn yn colli ystyr yr hyn mae'n eiddarllen. |
|
|
|
| efallai na ddylai'r
athro/athrawes ymyrryd. Pan mae'r gair a newidwyd yn debyg iawn i ystyr y gair gwreiddiol,
efallai na fydd y plentyn yn teimlo'r angen i hunan-gywiro. |
mae angen ymyrraeth yr
athro/athrawes |
Hunan-gywiro
Dyma'r nodwedd gyntaf sy'n dangos meistrolaeth ar ddarllen. Os yw'r
hunan-gywiro yn effeithiol, mae'n dangos arferion darllen da. Os yw'n bresennol ond heb
fod yn effeithiol, mae'n arwydd addawol sydd angen ei feithrin. Os yw'n absennol, yna
mae'n sefyllfa beryglus. Mae lle pendant i'r athro/athrawes ymyrryd, a chynnig
strategaethau fel â ganlyn. Dylid annog y plant i:
(i) edrych ar y llun - beth mae nhw'n feddwl sy'n digwydd?
(ii) trio eto
(iii) meddwl os yw'n swnio'n iawn
(iv) meddwl os yw'n gwneud synnwyr
(v) darllen llythyren gyntaf y gair.
Os yw popeth arall yn methu, dylai'r athro/athrawes ddweud y gair
wrth y plentyn. Mae Cliff Moon, wrth drafod dadansoddi llithriadau, yn manylu ymhellach.
1. A yw'r llyfr yn rhy anodd? - Awgrymu darn haws.
2. A yw'r gair yn un arbennig, fel enw person neu le? - Dweud y gair
wrth y plentyn.
3. A yw'r gair tu allan i brofiad y plentyn? Gofyn beth mae'r
plentyn yn feddwl y dylai'r gair fod - beth sy'n cyd-fynd â'r stori a'r synnwyr. Os oes
cyfnewidiad ystyrlon yn cael ei gynnig, dylid ei dderbyn, gan hefyd, efallai ddweud y gair
cywir, ond gan gadarnhau fod yr ystyr yn debyg.
4. A yw'r gair yn anodd i'w ddadansoddi, ond o fewn profiad y
plentyn?
a. Darllen i ddiwedd y frawddeg/llinell (beth bynnag sydd orau i
ddealltwriaeth y plentyn). Mynd yn ôl i ddechrau'r frawddeg a cheisio ffitio'r gair yn ei
gyd-destun.
NEU Dechrau'r frawddeg eto i gael ei rhediad. Tynnu sylw at y
lluniau. Yr athro/athrawes yn darllen hyd at y gair problemus, gan orliwio'r darlleniad i
gyfleu'r ystyr.
b. Gofyn i'r plentyn beth ddylai'r gair fod, gan ddibynnu ar y
cyd-destun, yna fel rhif 3.
c. Tynnu sylw at y cytseiniaid cyntaf, yna cyplysu â b. uchod.
ch. Tynnu sylw at sillafu a geiriau adnabyddus o fewn y gair e.e.
catamaran, a chysylltu â c. a b.
d. Os yw popeth arall yn methu, dweud y gair wrth y plentyn.
Yn ddelfrydol, sylw un i un a digon o amser fydd y plentyn ansicr ei
angen. Bydd cefnogaeth y cartref ac unrhyw ddarllen ychwanegol a wneir hefo plant/oedolion
eraill yn gymorth. Bydd llyfrau diddorol lle mae'n gweld pwynt darllen er mwynhâd yn
anogaeth hefyd. |