Darllen
Llenyddiaeth (Storïau a Chwedlau)
______________________________________
Trwy gyfrwng y toreth o chwedlau a storïau sy'n perthyn inni fel
cenedl gallwn gyfoethogi profiadau'r plant a'u helpu i ddod yn ymwybodol o'u treftadaeth
a'u cefndir diwylliannol. Yn ogystal â'u bod yn diwallu angen y plentyn am gynhysgaeth o
ddeunydd storïol maent hefyd yn symbylu gweithgareddau amrywiol mewn cyfeiriadau eraill,
e.e. creu deialogau, trafod cymeriadau, cryhoi'r stori i 50 gair, sioe-gysgodion o un
golygfa, gwaith celf...
Byddwn yn cyflwyno rhai storïau trwy ddarllen, fel bod y plant yn
ymglywed â'r ffurf lenyddol, ac ag arddull y naratif. Dro arall gellir adrodd storïau ar
lafar sy'n rhoi cylfe i athrawon sylwi'n fanwl ar ymateb y plant i'r stori.
Ystod o Ddeunydd
Plant Cyfnod Allweddol 1
storïau sydd ag elfen gref o ffantasi yn perthyn iddynt
storïau tylwyth teg
chwedlau hud a lledrith
storïau am anifeiliaid
Plant Cyfnod Allweddol 2
chwedlau gwerin
chwedlau sy'n bwysig inni fel cenedl
storïau sy'n codi o'r filltir sgwâr
storïau o wledydd eraill
Enghreifftiau o'r math o lenyddiaeth y gellid eu cyflwyno i'r plant:
Y Mabinogion
Storïau am Owain Glyndwr
Chwedl Llyn y Fan
Chwedl Clustiau March
Chwedl Cantre'r Gwaelod
Chwedl Llyn y Morynion
Yn gysylltiedig â lleoedd arbennig mae chwedlau fel Llyn Cynwch
(Dolgellau), Rhita Gawr (Yr Wyddfa), Dwynwen (Ynys Môn), a Meinir (Nant Gwtheyrn).
Llenyddiaeth gyfoes:
Detholion o weithiau fel:
'O Law i Law'
'Te yn y Grug'
'Un Nos Ola Leuad'
Nofelau Mair Wyn Hughes, T. Llew Jones, Irma Chilton
Nofelau 'Project Hanes Cymru' (e.e. Cyffro yn y Cwm/Mwg yn y
Twnel/Gwerfyl Gam...)
Nofelau Project 'Gwreiddiau' (e.e. y Bachgen a'r Alarch/Jig-So/O'r
Tywyllwch)
Y gyfres 'Stori a Chwedl'
Y storïau (nid yr ymarferiadau!) yn Llyfrau Darllen Newydd, T. Llew
Jones. |