Darllen
YMATEB I LENYDDIAETH

______________________________________ Yn ôl..

Cyfnod Allweddol 1

Dylai'r plant gael cyfle i:

* siarad am gymeriadau, digwyddiadau a'r iaith a geir o fewn llyfrau;

* ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf mewn stori; ail-adrodd storïau;

* egluro cynnwys rhan neu destun cyfan;

* ddewis llyfrau i'w darllen ar eu pennau eu hunain a chydag eraill;

* ddarllen llyfrau cyfan;

* ail-ddarllen hoff storïau a cherddi, a dysgu rhai ar eu cof;

* glywed storïau a cherddi yn cael eu darllen iddyn nhw yn aml ac yn gyson;

* baratoi, cyflwyno a dramodi storïau a ddarllenasant.

Erbyn diwedd y Cyfnod Allweddol dylai'r plant:

* gyfeirio at agweddau a hoffant mewn barddoniaeth a llenyddiaeth;

* ddatgan barn am ddigwyddiadau pwysig neu syniadau mewn storïau ac mewn cerddi;

* ddangos dealltwriaeth o brif bwyntiau storïau a cherddi, a datgan hoffter.

 

Cyfnod Allweddol 2

Dylai plant:

* ystyried yn fwy manwl ansawdd a dyfnder yr hyn a ddarllenant ac sy'n cael ei ddarllen iddynt; gael eu hannog i ymateb yn greadigol i gynllun, cymeriadau, syniadau, geirfa a threfniadaeth iaith mewn llynyddiaeth;

* gael eu dysgu i resymu a dod i gasgliadau;

* gyfeirio at rannau perthnasol neu benodol i gefnogi eu barn;

* werthuso'r testunau a ddarllenant, mewn ysgrifen a thrwy drafodaeth;

* ddefnyddio eu darllen fel man cychwyn ar gyfer eu cyfansoddiadau ysgrifenedig neu artistig eu hunain.

Erbyn diwedd y Cyfnod Allweddol dylai'r plant, drwy ymateb i ystod eang o destunau:

* ddangos dealltwriaeth o themâu, syniadau, digwyddiadau a chymeriadau arwyddocaol;

* gyfeirio at y testun er mwyn egluro eu barn, gan dynnu sylw at nodweddion allweddol, a dewis brawddegau, cymalau a gwybodaeth berthnasol i gefnogi eu safbwynt;

* ddangos ymwybyddiaeth o ystyron 'cudd'.

 

DATBLYGU YMATEB I LENYDDIAETH
______________________________________


Gellir mesur ymateb plant i'r llyfrau a ddarllenant drwy:

(i) drafodaeth e.e. mewn cynhadledd ddarllen hefo'u cyfoedion a/neu eu hathro/athrawes; gyflwyno llyfr y maent yn ei fwynhau i weddill y dosbarth.

(ii) gofnodion darllen ac adolygiad llyfrau.

Fodd bynnag, mae modd datblygu ymateb mwy soffistigedig a manwl drwy weithgareddau grwp megis cyfeiriedig sydd ynghlwm wrth y testun. Gellir defnyddio gweithgareddau fel y rhain i gefnogi ac ymestyn dealltwriaeth darllenwyr llai hyderus yn ogystal.

Mae rhai esiamplau yn dilyn.  Gweler Approaches to the Class Novel.