Darllen
Defnyddio Testunau a Ffynonellau Gwybodaeth
______________________________________ 
Cyfnod Allweddol 1Dylid dysgu
plant i ddefnyddio llyfrau-cyfair i wahanol ddibenion. Dylid eu dysgu am y technegau a
ddefnyddir i drefnu gwybodaeth yn y llyfrau e.e. tudalen-gynnwys, teitlau, is-deitlau,
capsiynau.
Dylid darparu ar eu cyfer ystod eang o lyfrau-gwybodaeth syml sy'n
cyflwyno deunydd mewn ffyrdd sydd o fewn eu cyrraedd. Dylai'r ystod hwn gynnwys
geiriaduron, llyfrau cyfair, gwybodaeth sy'n cael ei gyflwyno ar ffurff ffuglennol.
Erbyn diwedd CA1 dylai plant allu:
- mynegi barn am syniadau y deuant ar eu traws mewn deunydd
anffuglennol;
- dangos dealltwriaeth o'r prif bwyntiau mewn testun anffuglennol;
- defnyddio'u gwybodaeth o'r wyddor i leoli llyfrau a chanfod
ffeithiau/gwybodaeth.
Cyfnod Allweddol 2
Dylid dysgu plant sut i ganfod gwybodaeth mewn llyfrau a bas-data, a
hynny trwy ddefnydd o ddyfeisiadau trefnyddol e.e. teitlau penodau a phenawdau,
is-deitlau, rhestr geiriau, tudalen gynnwys, mynegeion er mwyn eu galluogi i ddewis a
dethol y rhannau sydd angen eu darllen yn fanwl. Dylent gael eu dysgu sut i ddrllen i
wahanol ddibenion, gan ddefnyddio strategaethau addas ar gyfer y dasg. Dylai'r
strategaethau gynnwys:
llithr-ddarllen i gael argraff gyffredinol o'r cynnwys;
cip-ddarllen i leoli darn penodol o'r cynnwys;
darllen-manwl i gael gwybodaeth benodol.
Dylid dysgu plant i:
- ofyn cwestiynau perthnasol am y testun sy'n cael ei ymchwilio
- arenwi'r wybodaeth fanwl maent am ei ganfod
- gwahaniaethu rhwng ffaith a barn
- ystyried dwy ochr trafodaeth/dadl feirniadol
- gwneud nodiadau cryno-glir
- defnyddio geiriaduron, rhestrau-geiriau, a thesawri i egluro
geirfa anghyfarwydd
- nodi ystyr a defnydd geiriau sy'n newydd iddynt
- ail-gyflwyno gwybodaeth ar ffurfiau gwahanol
- defnyddio systemau dosbarthu llyfrgellyddol, catalogau a
mynegeion.
Dylai deunydd anffuglennol fod ar gael i'r plant yn y Cyfnod
Allweddol hwn, a hwnnw wedi ei ysgrifennu yn dda, yn gyfoes ac yn gywir.
Dylai'r ystod o ddeunydd anffuglennol gynnwys geiriaduron, thesawri,
gwyddoniaduron a llyfrau-cyfair.
Dylai plant ddod yn gyfarwydd â ffynonellau gwybodaeth na fwriadwyd
yn benodol ar gyfer plant e.e. papurau-newydd, taflenni, basau-data, dogfennau, rhaglenni
newyddion.
Erbyn diwedd y Cyfnod Allweddol dylai plant allu:
- dangos dealltwriaeth o syniadau arwyddocaol;
- cyfeirio at y testun mewn manylder i gefnogi eu syniadau;
- lleoli a chanfod syniadau/ffeithiau o ffynonellau amrywiol.
|