Datblygu Iaith y Plentyn Ifanc (Dan 5 oed)
______________________________________ Yn ôl..

Bydd iaith y plentyn ifanc yn datblygu trwy chwarae. Bydd cynllunio cyfleoedd addas i ddibenion datblygu iaith yn gofyn am sefyllfaoedd chwarae amrywiol a diddorol.

Nodir isod y sgiliau sydd angen eu datblygu gyda’r plentyn ifanc.

  • Y gallu i gyfathrebu’n hyderus.
  • Cymdeithasu’n rhydd a hapus.
  • Datblygu gallu dychmygol y plentyn - yn gyntaf mewn sefyllfaoedd (strwythuredig) yn yr ysgol e.e. y t bach twt, gwisgo i fyny, gemau tu allan.
  • Y gallu i ddysgu hwiangerddi, cerddi, rhigymau - i ymarfer siarad (yn gyntaf) ac yna dod yn ymwybodol o sn a rhythm iaith.
  • Cynorthwyo’r plentyn i allu ailadrodd stori ynglyn â rhyw ddigwyddiad neu brofiad personol.
  • Helpu’r plentyn i ddatblygu’n gorfforol, i ddatblygu sgiliau cydweithredol (meim, drama, addysg gorfforol a dawns).
  • Datblygu yn y plentyn ifanc ymwybyddiaeth o rythm mewn miwsig, trwy guro dwylo, stampio, offerynnau taro syml.
  • Datblygu diddordeb mewn llyfrau - dweud storïau, edrych ar lyfrau, darllen storïau.
  • Datblygu meddwl ymchwilgar - Pam? Sut? Pryd? Beth?

 

Sut i helpu’r plentyn ennill sgiliau iaith?

  • Siarad gyda’r plentyn mor aml ag sydd bosibl. Siarad am bethau yn y cartref, teganau, anifeiliaid anwes, ffrindiau, dillad, bwyd. Pethau yn yr ardd, allan ar y stryd, yn y parc. Mae tynnu sylw at bethau o’n cwmpas yn bwysig.
  • Siarad am y pethau mae’r plentyn yn gallu clywed, gweld, cyffwrdd, trin, arogli. Mae cyffwrdd, trin, arsylwi a gweld yn bwysig. Mae plant bach yn dysgu trwy’r pethau hyn i gyd. Mae’r cartref/ysgol, yr ardd, y stryd yn llawn o bethau diddorol. Rhaid dangos y rhain i’r plentyn, sgwrsio amdanynt a’i helpu i gymryd diddordeb.
  • Gwrando ar y plentyn (mae gwrando yn sgil arbennig). Mae plant bach yn dynwared pobl. Mae’n bwysig iddynt ddynwared yn gywir. Bydd i oedolyn wrando ar y plentyn yn rhoi hyder iddo/iddi siarad a rhannu profiadau.
  • Dweud a darllen storïau i’r plentyn. Mae helpu’r plentyn i wrando yn bwysig hefyd. Gellir gwneud hyn trwy ddweud neu ddarllen stori syml. Gall lluniau fod yn help mawr, gall plentyn siarad am y darlun ac am y stori y mae newydd glywed.
  • Helpu’r plentyn i ddysgu hwiangerddi a rhigymau. Mae gan lawer o hen hwiangerddi a rhigymau rhythm a sn. Mae’r sn yn bwysig a gall dysgu’r rhigymau hyn fod yn hwyl. Maent yn rhoi digon o ymarfer i’r plentyn ifanc ymarfer siarad, a dweud.
  • Dangoswch eich diddordeb yn y plentyn ifanc trwy drosglwyddo y rhodd o iaith. Mae plant ifanc yn dysgu siarad yn y cartref ac yn yr ysgol. Rhaid i iaith gael ei datblygu a’i hymestyn yn y blynyddoedd cynnar.

IAITH, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU

MATHEMATEGOL

GWYBODAETH A DEALLTWRIAETH O’R BYD

Siarad

Gwrando

Darllen

Ysgrifennu

Defnyddio iaith fathemategol mewn cyd-destun perthnasol.

Cofio rhigymau, caneuon storïau

Siarad am eu cartref a ble maent yn byw.

Deall defnydd nifer o ffynonellau gwybodaeth.

Defnyddio iaith wyddonol

IAITH FEL GRYM I DDYSGU

PERSONOL A CHYMDEITHASOL

CREADIGOL

CORFFOROL

Cyd chwarae, cydweithio.

Mynegi teimladau

Gwrando ar storïau

Ymateb yn gadarnhaol i brofiadau ieithyddol newydd

Arsylwi a gwerthfawrogi eu gwaith eu hunain ac eraill.

Hybu datblygiad :

Sgiliau mynegiannol a chyfathrebu

Cyd chwarae

Gwrando ac ymateb

Len Jones