Datblygiad yr Iaith Ysgrifenedig
______________________________________ Yn ôl..
        

Mae dwy brif ffrwd o ddatblygiad iaith ysgrifenedig, gyda nodweddion penodol yn perthyn i’r ddwy.

      
A
Mae’r ffrwd gyntaf yn cael llawer o sylw gennym fel athrawon. Efallai ei bod yn cael gormod o sylw anystyriol - heb ystyried anghenion a chyraeddiadau’r unigolyn.

CYWIRDEB

Sillafu

Atalnodi

Cystrawennau

Treigladau

     
Yn amlwg nodweddion ‘gweledol’ arwynebol ydi’r rhain. Maen nhw hefyd yn rhai gweddol hawdd eu cywiro, ond nid mor hawdd, efallai, eu dileu o waith arferol y plant.

        
B
Mae’r ail ffrwd yn llai ‘gweledol’ na’r gyntaf ond eto yn ymwneud â nodweddion sy’n tystio i feistrolaeth - neu ddiffyg meistrolaeth - y plentyn ar iaith ysgrifenedig.

CYWAIR AC ARDDULL

Addasrwydd ffurf

Addasrwydd cywair (ffeithiol gywir, cysact ynteu diddorol? ffurfiol ynteu anffurfiol?)

Cydlynedd brawddegol

Cydlynedd paragraffau

Technegau ‘llenyddol’ (ail-adodd bwriadus, priod-ddulliau)

Cydbwysedd naratif / deialog mewn stori.

    
Mae’r rhain ar lefel arall; yn ymwneud â’r darn fel cyfanwaith, ac yn peri i’r awdur ystyried pwrpas a chynulleidfa.

Len Jones