Dyma ychydig o syniadau hwylus ar gyfer datblygu sgiliau ieithyddol
1) Gweithgareddau Lleol (gallwch newid yr enwau ar gyfer eich ardal chi).
Ganllwyd, Rhydymain, Llanfachreth, Dinas Mawddwy, Arthog, Llanelltyd, Bont-ddu,
Brithdir ...
a. Gosodwch y rhain yn nhrefn yr wyddor.
b. Dosbarthwch nhw yn eiriau deusill a geiriau tri sill.
c. Lluniwch chwilair or enwau hyn.
ch. Croeseiriau
|
G |
| E |
| R |
| R |
I |
C |
H |
A |
R |
D |
|
|
W |
|
I |
|
| A |
N |
| N |
T |
R |
E |
B |
O |
R |
|
H |
| Y |
| S |
Fedrwch chi wneud hyn gydar cwbl or enwau pentrefi? Gwyliwch
ch/dd/ll/th/rh!!
2) Beth am gasglu enwau afonydd, mynyddoedd,
llynnoedd neu leoliadau eraill, a gwneud gweithgareddau a-ch efo nhw?
* Mae gweithgareddau ieithyddol fel hyn yn addas ar gyfer gwahanol grwpiau h.y. does
dim raid i bawb wneud yr un peth yn union. Datblygur sgiliau syn
bwysig.
3) Geiriaduro
Ar gyfer y gweithgaredd yma fe ddylid dangos tudalen neu ddwy o Geiriadur
1 sydd ar gyfer plant ifanc iawn. Yna fe ellid trafod y canlynol:
1) Beth fyddain wahanol mewn geiriadur ar gyfer plant och oed chi?
2) Allwch chi feddwl am fwy o eiriau fyddain dod rhwng melyn a morfil?
3) Lluniwch dudalen o Geiriadur 2 ar gyfer y llythyren b (gyda
brawddeg i egluror geiriau).
Len Jones