Datblygu Ysgrifennu Creadigol
______________________________________
 Dyma nifer o bwyntiau y gellir eu hystyried wrth ddatblygu gwaith
ysgrifennu creadigol trwyr ysgol.
CA1
1. Cychwyn efor hyn y maer plentyn yn ei wybod ac yn gallu
siarad amdano:
cartref..... teulu..... taith ir ysgol.....
anifeiliaid anwes.....
2. Defnyddio symbyliad y llyfr stori a ddarllenir ir dosbarth:
ail-adrodd rhan or stori ...
disgrifio cymeriad ...
ysgrifennu am rywbeth cymharol ou bywyd eu hunain.
3. Defnyddio profiadau cwricwlaidd i symbylu ysgrifennu:
sefyllfa hanesyddol ...
4. Yr athrawes i arddangos sut mae ysgrifennun digwydd ar fwrdd-gwyn neu
siart-fflip:
adeiladu brawddeg ar y tro ...
defnyddior frawddeg gyntaf fel sail i greur ail ...
ail-adrodd/trafod yr hyn a ysgrifennwyd
5. Caniataur ffurfiau llafar yn y blynyddoedd cynnar
e.e. Mae gen i ...
Roedden nhwn ...
fel ei bod yn haws iddyn nhw ddarllen yn ôl.
6. Annog y plant i ysgrifennu hyn a hyn o linellau or cychwyn cyntaf, yn hytrach na
bodloni ar un llinell, (ar wahân i blant syn amlwg yn cael trafferthion dysgu.)
7. Bod yn ddewisol ynglyn â faint o gywiro a wneir ar y darn.
8. DARLLEN IR PLANT YN GYSON, GYSON.
Ysgrifennu creadigol (Personol/Dychmygol) CA2
a. Ymarfer ffurfiau megis:
stori
dyddiadur
ymson (B6)
llythyr
Yr hyn syn gyffredin iddyn nhw:
a) brawddegau, atalnodi, paragraffau
b) ambell dro ysgrifennu trwyr person 1af
c) cynulleidfa
- gellir smalio mai ysgrifennu ar gyfer yr
hunan a wneir gydar dyddiadur ar ymson.
- mae cynulleidfa fwy penodol ir stori ar llythyr
- GWELLAR BRAWDDEGAU - annog eu cychwyn efo geiriau fel Pan... Er... Os... Wrth...
- annog ymadroddion amser
e.e. Bob hyn a hyn ... Ambell dro ... Ers talwm ...
b) Barddonol:
Pwysig cael y plant i sylwi ar nodweddion barddoniaeth:
- cynildeb (nid brawddegau)
- cyffelybu neu ddelweddu
- fformat o linellau ..... penillion
(dangos sut mae corddin cael eu hargraffu mewn llyfrau barddoniaeth)
- ail-adrodd er mwyn effaith
- rhythm
- odli
Gosodir odli yn olaf oherwydd ei fod yn cyfyngu ar ymdrechion plant i farddoni.
Canllawiau
* cyfyngu o safbwynt sillafau e.e. mesur yr haiku; englyn milwr
di-gynghanedd
* Annog y plant i ddileu pob mae a dyma
* Annog y plant i feddwl am wrthrych y gerdd fel rhywbeth arall, sydd felly yn
gwneud pethau fel y peth newydd hwnnw.
cf y modd y mae Gillian Clarke yn cael y plant i feddwl am wrach wrth greu cerdd am
goeden; brigaun fysedd...canghennaun freichiau....
* creu "darlun mewn geiriau"
* annog y defnydd o fras-gynllunio, taflu syniadau ar bapur bras...a gweithior
gerdd
Len Jones |