Defnyddio Gwirfoddolwyr          Prosiectau a Digwyddiadau
______________________________________ Yn ôl..

Canllawiau ar gyfer sefydlu cyfundrefn darllen grwp

A.  Grwpiau

  • Bydd angen grwpio’r plant yn ôl gallu darllen. Efallai na fydd safonau plant yr un yn y ddwy iaith, felly bydd angen ystyried os oes plant y gellid eu cyfnewid rhwng grwpiau.
                 
  • Tua phump neu chwech ym mhob grwp yw’r nifer delfrydol, ond mae hyn yn dibynnu ar yr adnoddau - e.e. nifer o lyfrau ym mhob set, nifer o glustffonau sydd ar gael a.y.y.b.

B.  Adnoddau a Gweithgareddau

Bydd angen trefnu adnoddau ar gyfer gwahanol grwpiau ymlaen llaw. Bydd angen sicrhau amrywiaeth o destunau ar lefel addas. Gellid amrywio’r gweithgareddau yn dibynnu ar y nifer o grwpiau a’r adnoddau sydd ar gael. Dyma enghreifftiau o weithgareddau y gellir eu cael

  1. Grwp yn darllen ar y cyd efo’r athro/awes neu wirfoddolwr. Bydd angen set o lyfrau ar gyfer y grwp yma gydag o leiaf un llyfr rhwng dau. Gellir defnyddio poster neu lyfr mawr hefyd. Bydd angen trafod a dadansoddi’r testun gan holi’r plant a’u hannog i fynegi barn.
             
  2. Plant yn darllen yn annibynnol - yn unigol neu mewn grwp. Buasai’n gyfle da i blant ail-ddarllen yr hyn a ddarllenwyd gyda’r oedolyn.
                    
  3. Cyfrifiadur - safleoedd ar y we, llyfrau ar gryno-ddisgiau, gemau iaith a sillafu a.y.y.b.
                          
  4. Llyfrau llafar - grwp i wrando ar stori ar dâp. Mae’n hynod bwysig bod y plant yn dilyn y testun yn ogystal â gwrando. Os yw’r stori yn un hir, gellid cadw’r tâp ar un ochr tan y tro nesa, er mwyn osgoi gwastraffu amser wrth geisio dod o hyd i’r un lle ar y tâp.
                 
  5. Llyfrau ffeithiol. Mae angen casglu llyfrau addas mewn un man. Gellir cael set sydd yn ymwneud â thema’r dosbarth a chreu set o gardiau gyda chwestiynau penodol i gyd-fynd â’r llyfrau, er mwyn datblygu sgiliau ymchwiliol a sicrhau bod y plant yn darllen i bwrpas. Nid oes angen nifer fawr o gwestiynau. Mae angen rhoi amser a chyfle i bori mewn llyfrau ffeithiol.
                
  6. Casgliad o lyfrau tebyg neu gylchgronau - e.e. bocs o lyfrau barddoniaeth, llyfrau gan yr un awdur, nofelau am yr un pwnc a.y.y.b. Bydd y grwp yma yn darllen yn annibynnol, ond gellir rhoi tasgau trafod iddynt.

C.  Sefydlu’r gyfundrefn gyda’r plant

  • Mae’n bwysig rhoi canllawiau clir a phendant i’r plant ymlaen llaw, fel eu bod yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt. Mae trafod y rheolau efo’r plant yn bwysig fel eu bod yn cael cyfle i gyfrannu – e.e. dim siarad ar draws ei gilydd, dewis llyfr yn ddistaw, sut i gadw llyfrau ar ol eu defnyddio a.y.y.b.
                  
  • Ar y dechrau, mae cyfnod o tua ugain munud yn ddigon, ond gellir ymestyn hyn fel mae’r plant yn dod i arfer.
                            
  • Ar ddiwedd y cyfnod mae’n bwysig cael trafodaeth ambell dro am yr hyn y mae’r gwahanol grwpiau wedi bod yn ei wneud. Gellir cael gweithgareddau llafar yn gysylltoedig â’r hyn a ddarllenwyd. Mae’n arfer dda i blant gael cyfle i holi ei gilydd.