Defnyddio Llyfrau Cyfair
______________________________________ Yn ôl..
      

ADRAN 1
_____________________________________________________ 
Beth yw Llyfrau Cyfair?                                                                       

Llyfrau a fwriadwyd yn unig, neu yn bennaf, ar gyfer rhoi (cyfiwyno) gwybodaeth.

Nid llyfrau yn unig ond:

TAFLENNI
PAMFFLEDI
AMSERLENNI
DOGFENNAU
COFNODION
CYLCHGRONAU

Maen nhw’n wahanol i lyfrau ffuglen:

yn y ffordd y maen nhw’n gweithio
(ffuglen - o’r dechrau i’r diwedd, llyfrau cyfair - yn dibynnu ar natur y llyfr a’r wybodaeth a gyflwynir.)

yn y berthynas rhwng llun a gair
(mwy o ddiagramau a ffotograffau mewn llyfrau cyfair, mwy o waith dychymygol artistiaid mewn ffuglen)

yn yr iaith a’r arddull
(iaith llyfrau cyfair yn uniongyrchol, yn fwy moel ac yn cynnwys termau technegol)

yn yr amrywiaeth sydd i’w gael ohonyn nhw
(mae llyfrau cyfair yn derm am amrywiaeth mawr o lyfrau - unrhyw lyfr sy’n cyfrannu gwybodaeth)

_____________________________________________________ 
Amrywiaeth  Mathau                                                                            

Ni ellir eu rhestru i gyd, ond dyma’r prif rai a geir mewn ysgol:

1. Llyfrau categoriaidd sy’n seiliedig ar drefn yr wyddor e.e.

il Y Geiriadur

ii) Y Gwyddoniadur

iii) Yr Atlas

iv] Y Llyfr Ffôn

2. Llyfrau ffeithiol yn amrywiol feysydd gwybodaeth e.e.

ii Llyfrau ar destunau neu wrthrychau penodol

e.e. Y Llong Ofod / Y Draffordd

ii) Llyfrau amfeysydd neu themau cyffredinol

e.e. Y Gofod / Trafnidiaeth

iii) Llyfrau sy’n gasgliadau e.e. Awyrennau yr all ryfel byd / Ceir a Loriau

iv) Llyfrau Cyfarwyddyd

e.e. Teisennau a Chacennau

 

Y mae defnyddio’r llyfrau yn rhif 1 yn llwyddiannus a di-ffwdan yn rhagdybio gwybodaeth o drefn yr wyddor.

Y mae’r llyfrau sydd yn rhif 2 yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, ond mae modd dod atyn nhw wrth ddilyn rhai egwyddorion sylfaenol.

_____________________________________________________ 
Sut i ddod at Lyfrau Cyfair                                                                 

Y mae "dod at" lyfrau cyfeirio yn rhagdybio bod yna bwrpas penodol i’r gweithgarwch.

Beth bynnag yw’r maes/thema/pwnc, beth bynnag yw’r sefylifa, y mae plant yn dod atynt:

- gyda’r wybodaeth sydd ganddyn nhw o’r pwnc neu’r maes

- gyda’r ddealltwriaeth sydd ganddyn nhw o gyd-destun y chwilio am wybodaeth, rhan o weithgarwch thema etc.

- gyda disgwyliadau sy’n seiliedig ar brofiadau blaenorol o’r pwnc/thema

Rhaid cofio hefyd y bydd y plant yn amrywio yn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r maes dan sylw ac yn eu gallu i ddarllen.

Yng ngoleuni hyn y dylid trefnu gweithgareddau i blant ddod yn gybyddus a’r llyfrau.

_____________________________________________________ 
Gweithgareddau Ymgydnabod 
                                                       

Y mae’r gweithgareddau ymgydnabod hyn yn ymwneud yn bendodol â’r llyfrau sydd yng nghategori 2 ar dudalen 2 sef llyfrau ffeithiol yn amrywiol feysydd gwybodaeth.

Y maen nhw’n rhagdybio hefyd fod yna bwrpas penodol i ddefnyddio’r llyfrau, yng nghyd-destun gweithio ar thema neu bwnc a’r angen i gywain gwybodaeth.

Enghrailft o weithgareddau grwp

Testun ‘Yr India’

1.  Pledu ffeithiau a syniadau am yr India mewn sesiwn drafod agored. (Beth wyddom ni am yr India?)

2. Rhagdybio cynnwys y llyfr o ystyried y teitl ac astudio cliwiau y clawr neu’r siaced lwch

3. Rhagdybio’r eirfa/termau y disgwylir eu gweld yn y llyfr

4. Rhoi sylw i sut mae’r llyfr yn gweithio o safbwynt:

Cynnwys Penodau
Mynegai Geirfa
Cyflwyno’r ffeithiau

5. Edrych ar berthynas lluniau a thraethiad, diagramau a labelau a chapsiynau

6. Rhoi sylw manwl i sut y cyfleir gwybodaeth drwy edrych yn feirniadol ar un bennod neu dudalen.

Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar beth wyr y plant cyn penderfynu pa wybodaeth i’w cheisio.

_____________________________________________________ 
Pa Wybodaeth?                                                                                   

Penderfynu trwy drafodaeth o bosib, pa wybodaeth/ffeithiau a geisir o’r llyfr/llyfrau

Llunio cwestiynau penodol i’w "gofyn" i’r llyfr

Bydd y math o gwestiynau a lunir, a’u nifer, yn dibynnu ar:

oedran y plant
dull y gweithredu (unigol, grwp, dosbarth)
y testun neu’r maes dan sylw
gwybodaeth flaenorol y plant

Gall y cwestiynau fod yn gofyn am gadarnhad yn hytrach nag am wybodaeth newydd.

Nid yw’r broses bob amser yn gorffen ar ôl casglu’r wybodaeth. Fe fydd yna o bosib:

adrodd yn llafar
ymateb trwy luniau
gyfleu gwybodaeth trwy ddiagramau, siartiau, rhestrau etc.
weithredu’n ymarferol ar sail yr wybodaeth
gofnodi’r wybodaeth
godi cwestiynau eraill ac ymchwilio ymhellach

 

ADRAN 2
_____________________________________________________ 
Beth Wedyn? Cofnodi a Chreu                                                        

Mae’n bwysig pwysleisio nad proses unffurf yw dod at lyfrau gwybodaeth a’u defnyddio i bwrpas. Nid yr un yw’r dull bob tro, nid yr un yw’r amcan bob tro, ac nid yr un yw dull yr ymateb neu’r cyfiwyno a geir yn dilyn cael yr wybodaeth.

Ond ar ôl dweud hyn, fe ddylai defnyddio llyfrau gwybodaeth yn llwyddiannus gynnwys y gallu i:

ofyn y cwestiynau priodol, neu fod yn ymwybodol o ba wybodaeth a geisir

lunio atebion ar ffurf geiriau unigol neu nodiadau

gyflwyno’r wybodaeth yn y dull y gofynnir amdano yn unol a’r sefyllfa:

Traethiad, paragraff, diagramau, lluniau, siartiau, rhestru etc.
e.e. Yr Haul

Cwestiynau

1. Beth yw’r haul?

2. Beth yw ei effaith ar fywyd?

3. Faint yw’r pellter rhyngddo a’r ddaear?

4.    Ym mha ffyrdd y mae’n beryglus?

Nodiadau

1. pelen o dân / nwyon / ffrwydradau

2. goleuni I gwres / ynni

3. dros 93 miliwn o ffilltiroedd

4. pelydrau wltra-fioled I twll yn haen yr ozone

Traethiad

Pelen o dân yw’r haul ac y mae dros 93 miliwn o filltiroedd o’r ddaear Ar rai adegau ceir ffrwydriadau

_____________________________________________________ 
Cip Ddarllen a Bras Ddarllen                                                             

Dyma ddau fath o ddarllen hwylus iawn ar gyfer ymwneud â llyfrau sy’n cyfiwyno gwybodaeth.

   
Cip ddarllen

chwilio ar dudalen neu mewn paragraff am un peth penodol

e.e. chwilio am rif ffôn
chwilio am air mewn geiriadur

Bras ddarllen

edrych dros lyfr neu ran o lyfr yn gyflym i gael gwybod yn fras am beth y mae’n sôn amdano

e.e. a yw erthygl ar y gwenyn yn y gwyddoniadur yn debyg o gynnwys yr wybodaeth y mae’r darllenydd ei hangen?

 

Y mae’r ddau fath o ddarllen yn debyg iawn i’w gilydd ac y mae’r pwyslais ar gyflymder.

Mae’n bwysig cynnal gweithgareddau neu gêmau meithrin cyflymder.

 

1. Dod o hyd i’r llyfr perthnasol yn y llyfrgell.

2. Dewis y llyfr iawn ar gyfer gweithgarwch arbennig allan o nifer o lyfrau.

3. Chwilio am bennod neu dudalen benodol mewn llyfr.

4. Gofyn am atebion i gwestiynau penodol, efallai ar ffurf cystadleuaeth neu ras.

5. Chwilio am wybodaeth, mewn parau neu grwpiau bychain, gan ddefnyddio adnoddau megis dalennau o lyfr ffôn a geiriadur.

6. Dyfeisio gêmau meithrin cyflymder, chwilio a darllen.

_____________________________________________________ 
Y Dasg Estynedig                                                                                 

Mae gosod tasg bersonol, estynedig i blentyn yn rhan hanfodol o drefniadaeth dosbarth, - ac yn gyfle i ddatblygu sgiliau chwilio am wybodaeth a’i gyflwyno’n briodol. Gwneir hyn trwy roi cyfarwyddiadau manwl i’r plentyn.

e.e. gwaith seiliedig ar un llyfr

CEFFYLAU A MERLOD
(Cyfres Sylfeini)

1. Beth wyddoch chi am geffylau? Nodwch nifer o bethau.

2. Pe bai chi yn mynd ati i sgrifennu llyfr "Ceffylau a Merlod" -beth fyddai teitl y penodau? Pa luniau fyddai ynddo?

3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ceffylau a merlod? Rhestrwch y gwahaniaethau y gwyddoch chi amdanynt.

4. Pa eiriau/termau fyddech chi’n disgwyl eu gweld mewn llyfr o’r fath? Rhestrwch.

5. Lluniwch gwestiynau i nodi beth hoffech chi ei wybod am y testun.

6. Ewch i edrych yn y llyfr er mwyn:

i) cymharu’r penodau (Cwestiwn2)

ii) cymharu’r lluniau (Cwestiwn 2)

iii) cymharu’r lluniau (Cwestiwn 4)

7. Chwilio am atebion i’r cwestiynau yn y llyfr gan wneud nodiadau o’r atebion.

Os nad yw’r atebion i gyd yn y llyfr bydd yn rhaid chwilio amdanynt mewn llyfrau eraill.

8. Creu llyfr/llyfryn yn cynnwys 1 -7 gan ddefnyddio cynllun dylunio o’r llyfr "Ceffylau a Merlod" - neu o lyfr arall tebyg.

_____________________________________________________ 
Dewis a Dethol Llyfrau Cyfeirio                                                        

Y mae llyfrau cyfeirio yn amrywio cymaint mewn safon ac ansawdd â llyfrau ffuglen, ond yn aml nid yw athrawon a phlant mor ymwybodol o’r amrywiaeth yn y maes hwn am mai llyfrau i droi atyn nhw fel bo’r angen ydynt.

Y mae’n bwysig fodd bynnag geisio meithrin agwedd feirniadol yn y plant at y llyfrau gwybodaeth hyn, ac y mae yna rai ystyriaethau y dylid cymryd sylw ohonynt:

1. Sut y cyflwynir yr wybodaeth.

2. Y mynegiant. A yw’n gytbwys drwy’r llyfr neu’n amrywio? A ddefnyddir y termau priodol?

3.     Y cyswllt rhwng gair a diagram neu lun - y dylunjo, a yw’r tudalennau’n ddiddorol ac yn fywiog neu oes yna ormod o wybodaeth ac o luniau nes dallu’r darllenydd a’i ddrysu?
   
4. A yw’n llyfr hawdd cael yr wybodaeth ohono?

5. A yw’n cyflwyno gwybodaeth yn glir a diwastraff?

6. A yw’n rhydd o ragfarnau - hiliol/rhywiol. A yw agweddau neu ragfamau’r awdur yn cael eu mynegi - oes yna ddoctrineiddio mewn ffordd gyfrwys anymwybodol bron i’r darllenydd?