Darllen Deunydd Ffeithiol
______________________________________ Yn ôl..

Gall deunydd darllen ffeithiol fod yn anodd i ddisgyblion ifanc. Dyma ystyriaethau a fydd yn amlygu’r anawsterau ac yn hyrwyddo’r broses o ddefnyddio testun a llyfrau ffeithiol :

1. Mae plant yn dysgu darllen gyda deunydd storïol, lle mae’r naratif yn annog darllen ymlaen a’r plentyn yn awyddus i wybod be sy’n digwydd nesa’.

Mae testunau ffeithiol yn wahanol, gan bod angen oedi, ail-ddarllen, cadarnhau gwybodaeth newydd ...

Mae strwythur neu drefn geiriau mewn testun ffeithiol, ynghyd â therminoleg ‘anodd’, yn gallu creu anawsterau i’r darllenydd

e.e. ‘Rhedodd Siôn ar draws y cae pan welodd y tarw yn sefyll ger y goeden ...’

‘Cynhyrchir llawer o nwyddau yn y ffatrïoedd hyn a chânt eu hallforio i wledydd ar draws y byd ...’

2. Mae fformat a chyflwyniad testun yn wahanol. Rhaid i’r darllenydd ‘symud’ o destun i lun neu ddiagram yn gyson. Yn aml rhaid iddo droi yn ôl i’r dudalen flaenorol i gyfatebu llun a thestun.

3. Mae amrywiaeth eang o luniau i’w ‘meistroli’ - yn ddiagramau, ffotograffau, symbolau.

4. Yn arferol fe ddarllenir ffuglen o’r dechrau i’r diwedd. Gyda deunydd ffeithiol efallai mai chwilio am wybodaeth benodol a wneir, neu wirio ffeithiau a gyflwynwyd eisoes; golyga hyn fod angen trafod mwy nag un llyfr, meistroli’r defnydd o dechnegau hwyluso neu’n gwir ymwneud â rhai tudalennau yn unig.


Manteision darllen-grwp wrth ymwneud â thestun ffeithiol

1. Ceir amser i gynefino’r plant â chonfensiynau deunydd ffeithiol e.e. lleoliad a            phwrpas tudalennau cynnwys a mynegai, geirfa arbenigol, cyfeirnodau ...

2. Ceir amser i drafod lle a gwerth y gwahanol fathau o wybodaeth a gyflwynir mewn ffurfiau gwahanol, e.e. diagramau, siartiau, ffotograffau, cartwnau ...

3. Gellir modelu y math o ddarllen ‘gwibio rhwng testun a llun ac yn ôl’ sy’n angenrheidiol os am ddeall yn iawn.

4. Gellir trafod rhywfaint cyn cychwyn y darlleniad; trwy hyn mae’r plant yn datgelu’r hyn a wyddant eisoes fel eu bod yn fwy parod i fewnoli gwybodaeth newydd a’i berthnasu i’r hyn a wyddant.

5. Wrth drafod yn ystod ac ar ôl gorffen y darllen gellir ad-fyfyrio ar yr wybodaeth newydd a’i ddosbarthu yn y meddwl. Wrth drafod mae’r plentyn yn dyfnhau’r wybodaeth, yn ei berchenogi a’i gael yn ystyrlon.


(addaswyd o bamffled Diana Bentley ac Anne Rowe)