COFIWCH: Ni fydd pob plentyn angen ysgerbydau canllawiau dros dro ydynt i hybu ysgrifennu annibynnol . Nid taflen waith yw ysgerbwd, ac ni ddylid byth ei roi i blentyn yn oer. Wrth gyflwyno ffrâm, maen bwysig cyd-drafod , a modelu/dangos. Dylair plant gael croesi allan, newid ac ychwanegu at y ysgerbwd. Dylent gael eu defnyddio ar y cyd gyda profiadau ysgrifennu diddorol eraill. Mannau cychwyn ydynt.
I gyflwyno math anghyfarwydd o ysgrifennu. Os oes rheswm a phwrpas ir gwaith. Os ywr plant yn methu ysgrifennu mewn modd arbennig. Os ywr plant yn cymysgu mathau o ysgrifennu. Os yw ffurf eu hysgrifennu gwreiddiol yn anaddas I bwrpas y gwaith.
Gallant ymestyn ysgrifennu plant trwy ganiatáu iddynt roi cynnig ar ysgrifennu anghyfarwydd. Gallant helpu plant syn cael anhawster i ysgrifennu Gallant sbarduno ac ysgogir ysgrifennwr dihyder. Gallant gynorthwyo plant o bob oed a gallu, gan gynnwys plant sydd ag anghenion arbennig. Gallant arwain plant at wahanol fathau o ysgrifennu. Adnoddau Perthnasol : Ysgerbydau Sgwennu Eirwen Jones - cyhoeddwyd gan Sir Ddinbych Writing Frames Maureen Lewis a David Wray cyh. RALIC (ISBN 0-704-91064-0) Writing Across the Curriculum Lewis a Wray RALIC 1998 (ISBN 0-704-91266-X) |