Gwaith Pâr
______________________________________ Yn ôl..

Dyma syniad hwylus ar gyfer hyrwyddo gwaith pâr. Fe fydd y gweithgaredd yn hyrwyddo trafodaeth ynglyn â strwythur stori a chonfensiynau ieithyddol. Fe allwch argraffu’r dudalen yma ar gyfer ei defnyddio gyda’r plant. Byddwch yn siwr o fod eisiau dewis testun eich hyn er mwyn ymestyn yr arfer. (Gallwch edrych yn y llyfr i wirio eich ateb).

   
Mae’r brawddegau isod i fod i ffurfio dau baragraff. Maen nhw, hefyd, wedi eu cymysgu.

Fedrwch chi roi trefn arnyn nhw trwy osod rhif cyferbyn â’r brawddegau?

Pa frawddeg sy’n cychwyn yr ail baragraff tybed?

        
Aeth y Gwyddelod ati i gynnau tân o dan y Pair Dadeni a thaflu eu milwyr oedd wedi cael eu lladd iddo.

Torrodd y Pair yn bedwar darn ac fe laddwyd Efnisien wrth wneud hyn.

Dychrynodd Branwen yn ofnadwy, a cheisiodd neidio i’r tân i achub ei mab, ond gafaelodd Efnisien yn dynn ynddi.

Cyn gynted ag yr oedd y tu mewn iddo gwthiodd yn erbyn ei ochrau gyda’i freichiau a’i goesau.

Wedyn dechreuodd pawb yn y ty ymladd.

Pan welodd Efnisien hyn, gorweddodd yng nghanol cyrff y Gwyddelod er mwyn cael ei daflu i mewn i’r Pair.

Gyda hyn, dechreuodd pawb dyrru i’r ty ar gyfer gwledd fawr.

Yn fuan wedyn, cafodd Bendigeidfran ei glwyfo yn ei droed gyda gwaywffon wenwynig, a dim ond saith o wyr Ynys Cedyrn oedd yn fyw ar ôl y frwydr.

Fore trannoeth roedd pob un ohonynt yn fyw, ond nid oeddynt yn gallu siarad.

Yna, ar amrantiad, gafaelodd Efnisien yn Gwern, mab Branwen, gerfydd ei draed, a’i daflu i’r tân.

(allan o Branwen; Diane Williams, CA1, 1993)

 Len Jones