Gweithgareddau
Sut i ddefnyddio'r ffan atalnodi/llythrennau/berfau?Mae defnyddio ffaniau yn arbennig o boblogaidd wrth ddysgu strategaethau
rhifedd. Fe ellir eu defnyddio hefyd ar gyfer miniogi sgiliau llythrennedd. Dyma i chi
ambell syniad hwylus.
Gweithgareddau ffan wedi eu graddoli:
- trin testun heb ei atalnodi, defnyddio'r ffan ar
gyfer dangos beth sydd ar goll.
- defnyddio'r ffan ar gyfer hunan-gywiro gwaith e.e
"Pa un o'r rhain sydd ar goll yn fan hyn? Dangos i mi'r ateb cywir gyda dy
ffan""Edrych ar yr ebychnod ar dy ffan. Wyt ti'n gallu ychwanegu hwn yn dy waith
yn rhywle?" a.y.y.b.
- defnyddio'r ffan ar gyfer ateb cwis (gweithgaredd
dosbarth cyfan) e.e.
Rydw i yn ymddangos ar gychwyn brawddeg. Pwy
ydwyf i ?
Rydw i yn ymddangos ar gychwyn enw. Pwy ydwyf i ?
Rydw i yn ymddangos yn aml iawn mewn holiadur. Pwy ydwyf i ?
Rydw i'n tynnu sylw at eiriau pwysig? Pwy ydwyf i ?
- yr athro/athrawes i ddangos cardiau fesul un gydag
enghreifftiau o gamgymeriadau e.e.
Cerddodd huw i'r dref.
Paid, dywedodd Siān.
Wyt ti'n hoffi'r ysgol?
Beth yw dy enw a.y.y.b.
y plant i ddangos yr ateb gyda'r ffan.
Ffan llythrennau:
- defnyddio'r ffan ar gyfer plant sy'n cymysgu rhwng d/b,
ch/ll, f/ff, y/u a.y.y.b.
- yr athro/athrawes i ddangos cardiau geiriau sydd ā llythrennau ar goll e.e
-wilota.
Ffan berfau:
- defnyddio'r ffan wrth ysgrifennu e.e. ysgrifennu dyddiadur
- defnyddio'r ais wrth weithio a.y.y.b.
- creu gweithgaredd dosbarth cyfan ar gyfer cyfnodau drilio byr:
"Roeddwn i wedi cerdded i'r dref." Y plant i ddangos ais a
dweud
"Cerddais i'r dref" a.y.y.b.
"Roedd John wedi cerdded i'r dref."
Y plant i ddangos odd a dweud " Cerddodd John i'r dref."
|