Syniadau ar gyfer gwella Sillafu
______________________________________ Yn ôl..

Dyma ychydig o syniadau ar gyfer gwella sillafu digyblion:

 

  1. Annog plentyn i roi cynnig ar y sillafiad cyn iddo orfod gofyn am y sillafiad cywir. Ambell waith mae ei ymdrech o yn gywir. Os nad ydyw, o leiaf fe wêl yr athro/athrawes yn union ble mae o’n methu.
         
  2. Llyfr Geiriau personol - lle mae’r plentyn yn rhoi cynnig ar sillafiad mewn colofn ar y chwith, cyn cael cadarnhad o’r sillafiad cywir ar y dde.
             
  3. Meithrin yn y plant yr arfer o olygu neu ail-edrych ar y gwaith cyn ei ystyried yn orffenedig. Diofalwch yw achos ambell wall sillafu!
              
  4. Darparu geiriaduron sydd yn rhan o arfogaeth ysgrifennu’r plentyn. Yn ddelfrydol bydd mwy nag un math ar gael yn y dosbarth. Rhan o’r addysg yw eu cael i ddefnyddio geiriaduron, fel bod ‘yr wyddor ar waith’.
               
  5. Llyfr Geiriau Dosbarth - lle mae’r athro /athrawes yn ysgrifennu geiriau yn ôl angen y plant, pan maen’ nhw yn ysgrifennu. Bydd hwn ar gael, a gall y plant droi ato i ‘chwilio gair’. Yn fuan bydd ynddo stoc o’r geiriau amlaf eu defnydd.

 

Llyfryddiaeth

Writing and the Writer - Frank Smith

Teaching Spelling - Mike Torbe

Spelling : Caught or Taught? - Margaret L Peters

Len Jones