Gwrando ar Blant yn Darllen
______________________________________ Yn ôl..

Gellir manteisio ar amser a brwdfrydedd nifer o bobl i wrando ar blant yn darllen. Gall oedolion o’r gymuned ymweld ag ysgol i gynnal "gweithdai darllen", ac fe all rhieni gynnal a chefnogi cynllun darllen gartref. Yn ogystal â hyn, gall cyfoedion yn yr ysgol wrando ar gyd-ddisgyblion yn darllen. Gellir trefnu grwpiau o blant o’r un oedran, gweithio mewn parau, neu ffurfio "teuluoedd darllen" gyda’r plant hynaf yn cynnig arweiniad i ddisgyblion iau. (gweler y daflen Darllen - yn yr ysgol a’r cartref)

Teimlir bod dau brif ddull i athrawes/athro wrando ar blant yn darllen sef:

1. dull anffurfiol
2. dull ffurfiol

Dull anffurfiol

Gyda’r dull hwn, manteisir ar sefyllfaoedd sydd yn digwydd o ddydd i ddydd yn yr ysgol i wrando ar blant yn darllen e.e.

paratoi at wasanaeth boreol
drama Nadolig
darllen cyfarwyddiadau
rysait coginio

Gall y dull anffurfiol o wrando ar blant yn darllen ddigwydd heb i’r darllenwr fod yn orymwybodol o’r broses. Gellir "cuddio" dibenion athrawon o geisio gwrando ar unigolyn, drwy wrando ar grwp neu gan roi cyfle i’r darllenwr gwan ymdoddi gyda’i gyfoedion mwy abl. Gellir gwrando ar blant ifanc iawn hefyd yn darllen, neu "gogio darllen" mewn sefyllfa chwarae rôl yn y ty bach twt. Teimlir mai dim ond yr arwyddocaol y dylid ei gofnodi.

Dull ffurfiol

Gyda’r dull hwn, manteisir ar adegau cyfleus i wrando ar unigolion yn darllen. Gelwir y math yma o ddull yn gyfweliad darllen ar-y-cyd (shared reading interview) gan Helen Arnold a phwysleisir cydraddoldeb y berthynas rhwng y darllenwr a’r gwrandawr. Teimlir mai darllen efo plant a wneir gyda’r dull ffurfiol. Tanlinellir hyn gan Sue Davidson pan ddywed "Come and read with me, not to me, or at me, or even for me". Gellir ymneilltuo i gilfach dawel, lle gall yr athrawes weld gweddill y dosbarth yn gweithio er mwyn atgyfnerthu cydraddoldeb y berthynas. Teimlir y dylai’r athrawes/ athro gymryd rôl "hyrwyddwr"yn hytrach na "gwrthwynebydd", gan eistedd wrth ochr y plentyn, ac nid gyferbyn iddo.

Rôl hyrwyddwr

* Eistedd ochr yn ochr o’r plentyn
* Taldra cymharol gydradd
* Cyswllt llygaid
* Rhannu llyfr

Rôl gwrthwynebydd

* Eistedd gyferbyn
* Dim eisiau bod wrth ochr, nac yn "agos" i’r plentyn
* Cadair uchel
* Diffyg cyswllt llygaid

Ni ellir gwrando ar bob plentyn bob diwrnod ond pan mae cyfle i wrando yn codi, gellir amcanu at 5-10 munud o "gyd-weithio" gwerth chweil, a’i wneud yn achlysur rheolaidd.

  
Gellir rhannu’r dull ffurfiol o wrando ar blant yn darllen yn dri cam pendant sef:

1. Trafod
2. Darllen
3. Cofnodi

      
1. Trafod

Gellir dechrau’r "cyd weithio" drwy drafod y llyfr, y cynnwys a’r diwyg gan annog y plentyn i ragweld digwyddiadau yn y stori.

    
2. Darllen

Symudir ymlaen i ddarllen y testun, gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau cywiro, pan fo angen. Un dull cydnabyddedig yw -

oedi - promtio - canmol
(pause - prompt - praise)

    
Teimlir mai natur ac ansawdd yr annog sydd yn bwysig. Drwy gydol y darllen gellir defnyddio adborth cadarnhaol i’r broses, gan gefnogi y darllenwr gyda geiriau byr fel "da", "mm", "iawn". Dylid ymdrechu i wneud y gweithgaredd yn un hapus, ac yn achlysur i edrych ymlaen ato, yn hytrach na’i gasau. Teimlir mai cyfle i gyd weithio gyda’r athrawes/athro, ac nid cyfnod o arddangos methiant yw hwn.

      
3. Cofnodi

Bydd y broses yn cael ei dwyn i ben drwy gyd-gofnodi. Gall y darllenwr a’r gwrandawr gytuno ar osodiad sydd yn gwerthuso sgiliau darllen y plentyn. Gellir nodi ymddygiad o’r munud y gofynnwyd i’r plentyn ddarllen.

Cofnodir y datganiad yn llyfr yr athrawes/ athro, a gofynnir i’r plentyn ei arwyddo. Teimlir bod y broses hon o gofnod a llofnod yn meithrin balchder a phwysigrwydd yn yr achlysur. Er na chymer hyn ond ychydig o eiliadau, gellir cyfleu cydraddoldeb y berthynas rhwng y darllenwr a’r gwrandawr. Dylid trafod, a phenderfynu ar gynnwys y cofnod gan wneud yn siwr ei fod yn un cadarnhaol e.e

Cofnod

Llofnod

Mae Caryl wedi
darllen yn dda
heddiw, yn enwedig
yn Saesneg
__________________________________
           
Darllen difyr heddiw,
a chofio amrywio llais
__________________________________
     

Gellir cofnodi datblygiad darllen mewn amryw o ffyrdd eraill e.e. ar ffurf proffeil o ddatganiadau i’w lliwio, neu taflen hunan-asesu i’w llenwi gan y plentyn (gweler y daflen Asesu a chofnodi)

Pwysleisir mai proses gydweithredol yw y dull ffurfiol o wrando ar blant yn darllen, proses a fydd yn y pen draw yn magu annibyniaeth.

‘Yfory, gall plentyn wneud, ar ei ben ei hun, yr hyn yr oedd ddoe ddoe yn ei wneud gyda chynhaliaeth’

Vygotsky

_____________________________________________________

Hunan Gywiro                                                                                        

Dyma’r nodwedd gyntaf sy’n dangos meistrolaeth o ddarllen.

Os yw’r hunan-gywiro yn effeithiol, mae’n dangos arferion darllen da. Os yw’n bresennol ond heb fod yn effeithiol, mae’n arwydd addawol sydd angen ei feithrin. Os yw’n absennol, yna mae’n sefyllfa beryglus. Mae lle pendant i’r athro/awes ymyrryd, a chynnig strategaethau fel a ganlyn. Dylid annog y plentyn i:

i) edrych ar y llun - beth mae’n feddwl sy’n digwydd?

ii) roi cynnig arall arni

iii) feddwl os yw’n gwneud synnwyr

iv) ddarllen llythyren gyntaf y gair.

     
Os yw popeth arall yn methu, dylai’r athro/ awes ddweud y gair wrth y plentyn. Mae Cliff Moon, wrth drafod dadansoddi llithriadau, yn manylu ymhellach:

1. A yw’r llyfr yn rhy anodd? - Awgrymu darn haws.

2. A ydi’r gair yn un arbennig, fel enw person neu le? - Dweud y gair wrth y plentyn.

3. A yw’r gair tu allan i broflad y plentyn? Gofyn beth mae’r plentyn yn fed dwl y dylai fod - beth sy’n cyd-fynd a’r stori a’r synnwyr. Os oes cyfnewidiad ystyrlon yn cael ei gynnig, dylid ei dderbyn, gan hefyd, efallai, ddweud y gair cywir, ond gan gadarnhau fod yr ystyr yn debyg.

4. A yw’r gair yn anodd i’w ddadansoddi, ond o fewn profiad y plentyn? Gellid felly:

a) Darllen i ddiwedd y frawddeg/llinell (beth bynnag sydd orau i ddealltwriaeth y plentyn). Mynd yn ôl i ddechrau’r frawddeg a cheisio ffitio’r gair yn ei gyd-destun.

NEU Dechrau’r frawddeg eto i gael ei rhediad. Tynnu sylw at y lluniau. Yr athro/awes yn darllen hyd at y gair problemus, gan orliwio’r darlleniad i gyfleu’r ystyr.

b) Gofyn i’r plentyn beth ddylai’r gair fod, gan ddibynnu ar y cyd-destun, yna fel yn rhif 3.

c) Tynnu sylw at y cytseiniad cyntaf, yna cyplysu â b. uchod.

ch) Tynnu sylw at sillafu a geiiau adnabyddus o fewn y gair e.e. cata maran, a chysylltu â c. a b, uchod.

d) Os yw popeth arall yn methu, dweud y gair wrth y plentyn.

 

Dadansoddi Darllen y Plentyn a Datblygu Strategaeth i’w Helpu

Dangosodd ymchwil fod plant yn defnyddio nifer o wahanol strategaethau wrth ddarllen.

i) Ydi’r plentyn yn defnyddio ystyr?

(Semantig) Os yw’r plentyn yn darllen yn ystyrlon, ond heb fod yn gywir, yna mae’n defnyddio ei wybodaeth o iaith wrth ddarllen. Mae hon yn strategaeth gadarnhaol, ac i’w meithrin, e.e. y plentyn yn darllen ‘mynd yn ôl i’r ty’ yn lle ‘mynd yn ôl adref’.

ii) Ydi’r hyn mae’n ei ddweud yn gystrawennol?
   
(Syntactig) Os ydyw, mae el iaith lafar yn ddylanwadu ar ei ddarllen. Os nad ydyw, gall fod oherwydd nad yw ei ‘gystrawen’ bersonol yn cynnwys yr un strwythurau â’i lyfr darllen.

iii) Ydi o’n defnyddio cliwiau gweledol o’r llythrennau a’r geiriau?
    
(Graffig, gweladwy). Mae hon yn strategaeth gadarnhaol wrth ddechrau darllen, ond nid yw yn ddigonol wrth ddod at destunau mwy cymhleth.

 

Mae’n bwysig edrych ar bob llithriad, a’r mathau o strategaethau mae’r plentyn yn eu defnyddio, er mwyn creu darlun cyflawn.

Gellir rhannu’r mathau o lithriadau i 2 gategori:

i. rhai cadarnhaol, e.e. cyfnewid deallus, sy’n dangos fod y plentyn yn darllen yn synhwyrol.

ii. rhai negyddol sy’n llyffethair i ddealltwriaeth y plentyn, pan nad yw’n darllen yn synhwyrol e.e. gadael allan rhai geiriau allweddol; peidio ceisio hunan-gywiro with gyfnewid geiriau yn ddiystyr; gor-ddibyniaeth ar giwiau graffig/gweladwy.

Y llithriadau mwyaf difrifol yw: gwrthod rhoi cynnig, pan mae’r athro/awes yn gorfod ymyrryd; a’r cyfnewid gair heb ystyr. Yn ôl ymchwil Cliff Moon, mae gwahanol raddfeydd o ddifrifoldeb, e.e. gair ar y dudalen yw "CARTREF’, yn cael ei ddarllen fel:

ADREF

Gair gwahanol
Edrych yn debyg
Gyda’r un ystyr

TY

Gair gwahanol
Edrych yn wahanol ond yr un ystyr

ADRODD

Gair gwahanol
Edrych yn debyg
Ystyr gwahanol

CASTELL

Gair gwahanol
Edrych yn wahanol ac ystyr gwahanol

Llai difrifol

Strategaeth gadarnhaol ac mae’r plentyn yn gallu cadw’r ystyr, er nad yw’n hollol gywir

Efallai na ddylai’r athro/awes ymrryd. Pan mae’r gair ya newydiwyd yn debyg iaen i ystyr y gair gwreiddiol, efallai na fydd y plentyn yn teimlo’r angen i hunan-gywiro

Mwy difrifol

Strategaeth negyddol ac mae’r plentyn yn colli ystyr yr hyn mae’n ei ddarllen

Mae angen ymyrraeth yr athro/awes