Cymorth ar sut i lawr lwytho dogfennau Word oddi ar y Rhyngrwyd
________________________________________ Yn ôl..

Fersiwn Word 97

1. Cliciwch ar y ddogfen o'ch dewis.
2.
Bydd yr amserydd (a fydd yn ymddangos ar y sgrîn) yn dangos bod y ddogfen yn cael ei danfon i’ch cyfrifiadur.
3. Bydd Word 97 yn agor yn awtomatig ar eich sgrîn gan ddangos tudalennau’r ddogfen.
(Os yn defnyddio Internet Explorer, bydd Word yn agor yn awtomatig o fewn y ffrâm)
4. Cliciwch ar icon yr argraffydd (ar y bar icon yn ffenest Word) ac fe gaiff ei argraffu yn syth.

Fersiwn Word 6.0

1. Cliciwch ar y ddogfen o'ch dewis. Fe fydd bocs yn ymddangos ac arno bedwar dewis.
2. Dewiswch "Save File".  Cofiwch gymryd sylw o enw'r ffeil a dewis ble fydd y cyfrifiadur yn ei chadw.
3. Bydd yr amserydd (a fydd yn ymddangos ar y sgrîn) yn dangos bod y ddogfen yn cael ei danfon i’ch cyfrifiadur.
4. Bydd yn rhaid i chi gychwyn Word 6 ar eich peiriant ac agor y ffeil er mwyn gweld y ddogfen.

5. Cliciwch ar icon yr argraffydd (ar y bar icon yn ffenest Word) ac fe gaiff ei argraffu yn syth.