Llafaredd
LLAFAREDD LLWYDDIANNUS

______________________________________ Yn ôl..

GALLWN ROI STATWS I WAITH LLAFAR DRWY:

* ddarganfod ffyrdd i'w arddangos
* roi digon o amser iddo
* siarad hefo'r plant am siarad
* lunio polisi ysgol-gyfan

GALLWN GREU'R AWYRGYLCH IAWN DRWY:

* arddangos lliwgar, symbylus
* ddarparu adnoddau sydd ar gael yn hwylus
* greu 'bwrdd siarad' ar gyfer syniadau'r disgyblion
* greu 'cornel' siarad lle gallant drafod/siarad yn ddistaw

GALLWN HWYLUSO DYSGU DRWY SIARAD DRWY:

* gynllunio gofalus
* osod amcanion clir
* beidio â bod ofn gollwng yr awenau
* ofyn cwestiynau pen-agored
* roi gwerth i bob cyfraniad
* sicrhau amser i adfyfyrio

GALLWN DDYFEISIO TASGAU:

* sy'n annog y disgyblion i gyd-weithio fel grwp
* lle bydd cyfle i ddefnyddio gwahanol fathau o siarad
* fydd yn eu galluogi i weithio heb gymorth
* sydd â chanlyniadau naturiol, realistig
* sydd â pherthnasedd i'r disgyblion

GALLWN ROI CYFLE I'R DISGYBLION I:

* gynllunio hefo'r athrawes
* adolygu/adfyfyrio ar eu gwaith
* wneud penderfyniadau fel aelod o'r grwp
* gymryd gwahanol fathau o rôl mewn trafodaeth

GALLWN GREU GRWPIAU HYBLYG YN ÔL:

* tasg * oed
* canlyniad * diddordebau
* anghenion unigolion * gallu
* rhyw * dewis y disgyblion eu hunain