| Rhestr Llyfrau Plant i hybu amcanion AbaCh
yn CA1 a CA2 _______________________________ Paratowyd y rhestr yma gan Adran Hybu Iechyd Gwynedd mewn cydweithrediad â Cynnal i Ysgolion Cynradd. Penderfynwyd rhannur llyfrau ir agweddau o ABaCh syn ganolog i iechyd sef:
Wrth gwrs, mae rhai llyfrau yn hybu mwy nag un elfen o ABaCh. Rhestrir llyfrau ffuglen a llyfrau ffeithiol y gallai plant eu darllen o glawr i glawr. Nid yw llyfrau i athrawon wedi eu cynnwys ond ceir rhestr or rhain yng Nghatalog Adnoddau'r Adran Hybu Iechyd. Cedwir cyfres o flychau o lyfrau yn yr Adran wedi eu rhannu ir agweddau hyn. Mae croeso i unrhyw ysgol i wneud cais i fenthyg un neu fwy or blychau am gyfnod o hanner tymor i gyd fynd â gwaith themâu neu i weld pa lyfrau syn apelio at y plant cyn penderfynu beth i brynu. Nid yw'r rhestr yma yn orffenedig ac fe groesawir unrhyw sylwadau pellach am lyfrau addas. |
||||