Bydd llawer o athrawon wrth weithio ar strategaeth codi safonau llythrennedd yn
rhoddi ystyriaeth i ychwanegu at stoc llyfrau mawr yr ysgol. Gan eu bod yn adnoddau costus
fe ddylid ystyried a fydd y llyfrau yn cyflawni y gofynion addysgol/ymarferol canlynol.
Dylent :
- apelio at blant ac athrawon
- gynnwys testun o faintioli digon mawr ir dosbarth cyfan ei weld
- gynrychioli ystod o "genre" - yn ffuglennol, yn ffeithiol, yn farddonol......
- gynnwys lluniau syn ddigon mawr ir dosbarth cyfan eu gweld
- gynnwys elfennau ieithyddol digonol o safbwynt anghenion addysgu / dysgu
- fod âr potensial ar gyfer eu defnyddio ar adegau gwahanol ac mewn ffyrdd
gwahanol.
Nid llyfr bach wedi ei chwyddo yw llyfr mawr!
Mae llyfrau mawr yn ddrud - dylent, felly, dalu am eu lle.
Prif bwrpas llyfrau mawr - a rhai bach - yw meithrin pleser a
diddordeb plant yn y gair printiedig.
(addaswyd o nodiadau gan Wendy Body)