Medrau Llythrennedd Deuol
______________________________________
Bydd
mesur ac hyrwyddo hyfedredd mewn dwy iaith yn ddibynnol ar ddealltwriaeth or
prosesau ymenyddol sydd yn nodweddu dwyieithrwydd. Isod fe grynhoir yr
elfennau hyn o ran llafaredd, darllen ac ysgrifennu.
- Defnyddio geirfa a therminoleg arbenigol mewn dwy iaith - ar lafar
- Defnyddio geirfa a therminoleg arbenigol mewn dwy iaith - yn
ysgrifenedig
- Y gallu i drosglwyddo o'r naill iaith i'r llall wrth gyfathrebu ar
lafar i wahanol bwrpasau
- Y gallu i wrando ar neges mewn un iaith a'i throslglwyddo ar lafar
mewn iaith arall
- Y gallu i drosi'n gyflym ar lafar
- Y gallu i wrando ar neges mewn un iaith a'i throsglwyddo yn
ysgrifenedig mewn un iaith arall
- Y gallu i ysgrifennu yn y ddwy iaith yn ôl y galw
- Y gallu i ddarllen yn Saesneg a chyflwyno pwyntiau am y darn darllen
yn Gymraeg - ar lafar
- Y gallu i ddarllen yn Gymraeg a chyflwyno prif bwyntiau yn Saesneg -
ar lafar
- Y gallu i ddarllen yn Saesneg a chyflwyno prif bwyntiau yn Gymraeg -
yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddarllen yn Gymraeg a chyflwyno prif bwyntiau yn Saesneg -
yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddarllen yr un testun mewn dwy iaith a chymharu arddull,
cynnwys a nodweddion ieithyddol y testunau
- Y gallu i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth mewn dwy iaith a
chyflwyno crynodeb, prif bwyntiauu neu farn amdanynt yn y naill iaith neu'r llall yn ôl y
galw
- Y gallu i gyfieithu a thrawsieithu
Cyswllt i Brosiect Llythrennewdd Deuol
Penfro |