Meithrin Llafaredd
______________________________________ Yn ôl..

Bydd datblygu sgiliau llafar plant yn gyfrwng i hyrwyddo eu datblygiad ym maes llythrennedd. Er mwyn bod yn llwyddiannus wrth y gwaith yma bydd angen i’r athro/athrawes fod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu a chyflwyno iaith ym mhob gwers.

Nodir yma rai syniadau a strategaethau a fydd hyrwyddo’r gwaith:

1. Dylai llafaredd fod yn ganolog i brofiadau cwricwlaidd y plant.

2. Ar dro dylid darparu cyfleoedd i blant

a) siarad am eu profiadau

b) drafod agweddau o’r cwricwlwm

c) drafod pwnc llosg e.e. hela/adeiladu ffordd osgoi/maes chwarae’r pentref (CA2)

3. Mae grwpiau bychain yn caniatau i fwy o blant gyfrannu i drafodaeth, o’i gymharu â threfniadaeth dosbarth cyfan.

4. Un elfen o arfer dda yw crynhoi gweithgareddau’r bore neu’r prynhawn trwy i blant adrodd am yr hyn a wnaethant.

5. Mae meysydd fel Hanes yn cynnig cyfleoedd i blentyn chwarae rôl neu osod eu hun yn y sefyllfa cymeriad arbennig, gan ateb cwestiynau’r plant eraill.

6. Dylai’r dosbarth sy’n ymwneud â Llafaredd fod yn fwrlwm o swn - siarad ond nid o weiddi na thaeru!

7. Gellir strwythuro tasgau trafod fel eu bod yn peri i’r plant ymarfer:

a) ffurfiau berfol amrywiol        

gorffennol dyfodol
roedden ni... Mi fydda’i yn...
mi gawson ni... Gobeithio y caf i ...
Llenwodd Mrs Miller y jwg... Pryd fydd o’n barod?

b) ffurfiau cystrawennol amrywiol:

e.e. Os bydd hi’n braf mi gawn ni...
        Pan ddaeth o’n ôl roedd pawb wedi synnu
        Taswn i’n un o’r Rhufeiniaid, mi faswn i ...
        Dwi’n meddwl ei fod o’n...
        Geith o fynd allan ran?

Ffurfiau llafar yw’r rhain ond maent yn berthnasol i ysgrifennu hefyd.

8. Gall yr athrawes ‘brocio’ sgwrs neu ofyn am ymateb ymestynnol trwy ofyn cwestiynau perthnasol, fel arfer cwestiynau agored sy’n gofyn am atebion ‘llawn’

e.e  Sut...? yn hytrach na       Pwy...?
       Pam...?                               Ble...?

9. Mae presenoldeb yr athrawes mewn grwp yn help i gadw’r plant ‘ar dasg’ ac yn help i gynnal y drafodaeth.

10. Gofaler fod cyfleoedd mewn sgwrs/trafodaeth i:

a) fynegi barn (gan roi rhesymau)
b) adrodd ffeithiau
c) holi ymhellach
ch) ymateb trwy gyfeirio at sylw a wnaed y siaradwr blaenorol

11. Cofier am dasgau sy’n gofyn i’r plant ddatrys problem/rhesymu ynghylch digwyddiad/rhagfynegi...

12. Hanfod llafaredd - grwp yw fod yr aelodau yn cydgyfarfod a rhesymu ynghylch un pwnc h.y. yn gweithio fel grwp yn ogystal ag yn eistedd mewn grwp.

Len Jones