Nodweddion Datblygol Sillafu
______________________________________ Yn ôl..

Sillafu , mae’n debyg, yw’r wedd fwyaf cyhoeddus sydd i’r grefft o ysgrifennu. Dyna’r rheswm dros i gynifer o bobl, yn wleidyddion ac yn aelodau cyffredin o’r cyhoedd, ystyried mai sillafu yw’r wedd bwysicaf o’r grefft. O’r herwydd mae tuedd i athrawon roi llai o sylw i hanfodion eraill fel atalnodi, cyfanrwydd y darn, dewis priodol o gystrawen a gair a chydlynnedd brawddegol

Gwelir yn gyson mewn ysgolion fod cryn sylw yn cael ei roi i sillafu yn y weithred o ymateb i waith plant. Yn wir, y mae dangos i blant fod gwallau sillafu yn britho eu gwaith ysgrifennu yn un o’r nodweddion mwyaf cyffredin o’r broses farcio. Yn ogystal â hyn fe fuddsoddir arian mewn cynlluniau masnachol sydd yn ymwneud yn benodol â sillafu ac fe dreulir cyfnodau dysgu cyson yn ymarfer sillafiadau, gan amlaf trwy weinyddu profion sillafu wythnosol.

Yn wyneb hyn, mae’n rhyfedd fod anallu plant i sillafu yn dal i beri pryder i athrawon, ond felly y mae hi.

Beth yn fwy sydd ei angen, felly?

RHAN 1

Graddau o Gywirdeb

Un ffactor a anwybyddir yn aml yw’r dadansoddiad o natur gwendidau plant wrth sillafu.

Dosbarthwyd datblygiad mewn meistrolaeth plant ar sillafu i wahanol gategoriau gan Gentry a Newman ac er na ddylid eu hystyried yn gategoriau ecscliwsif mewn unrhyw fodd y maen nhw yn cynnig darlun o raddau’r feistrolaeth:

Cyfatbrebu Cynnar: yma mae’r plentyn yn cyfathrebu trwy ysgrifennu rhai llythrennau , neu fath o lythrennau mewn rhes, neu’n wir yma ac acw ar y papur, ond heb iddynt fod yn cynrychioli swn penodol nac yn cael eu rhannu i eiriau.  Mae ei ysgrifennu yn gyfyngedig i’r ychydig o ‘lythrennau’ sy’n gyfarwydd iddo.

Sillafu Cyn-ffonetig: yma mae’r plentyn yn arddangos mwy o gyfatebiaeth rhwng swn a symbol (llythyren) ac mae yn ymwybodol o gyfeiriadedd print ac o’r egwyddorion ‘chwith-de’ a ‘top-i’r-gwaelod’ wrth ysgrifennu. Yn aml fe fydd llafariaid ar goll o fewn sillafiadau geiriau e.e. mnd (mynd) gnd(gwneud).

Sillafu Ffonetig: dyma’r cyfnod pan fydd dylanwad ‘y swn yn y glust’ yn drwm ar sillafiadau, a llawer o’r geiriau a ddefnyddir yn cael eu sillafu yn union fel y maen nhw yn cael eu dweud. Yn y cyfnod hwn bydd llawer o drefn resymegol yn nodweddu’r sillafu a sylw yn cael ei roi i sillafau o fewn geiriau (tynu, hwul, rhedag, chwarau , cyrnud. ..).

Sillafu Lled-gywir: erbyn hyn mae cam pwysig wedi ei gyrraedd a’r plentyn yn sylweddoli fod mwy i’r broses na chynhyrchu cyfatebiaeth ‘swn-i-symbol’ yn unig. O’r herwydd fe fydd yn sylweddoli fod y llythyren ‘y’ yn gallu cyfleu dau swn posib ac nad yw rhoi un ‘n’ yn ddigon yn aml (er bod y glust yn cael ei bodloni gan un ‘n’). Yr hyn sy’n digwydd yw fod mwy o ddibyniaeth ar y llygad yn amlygu ei hun a bod ymwybyddiaeth y plentyn o batrymau sillafu, ( e.e. deuseiniaid fel ae/oe/wy…) yn datblygu.  Lle’r oedd yn sillafu ‘traud’a ‘hwul’ mae bellach yn sillafu ‘traed’ a‘hwyl’. Gall y plentyn ddysgu cyffredinoli ynglyn â phatrymau a rheolau, a bod ystyron geiriau yn gallu cynnig help i’w sillafu.

Sillafu Confensiynol: bellach mae’r plentyn wedi meistroli sillafu i raddau helaeth ac mae ganddo stôr o eiriau cywir-eu-sillafiad yn ei ben. Mae’n ymwybodol o dueddiadau a phatrymau ac yn gallu defnyddio gwahanol strategaethau i gynorthwyo ei sillafu. Mae’n gwybod pan fydd gair yn ‘edrych yn iawn’ - mae’rllygad yr un mor bwysig â’r glust iddo.
      

     
Mae’n bwysig cofio mai categoriau bras yw’r cyfnodau neu’r camau hyn; gall plentyn fod yn arddangos tystiolaeth o fwy nag un ohonyn nhw yn ei feistrolaeth ar sillafu.  Nid oes iddynt ffiniau pendant.  Mae sillafwyr gwan yn tueddu i aros yn y cyfnod ffonetig, gan fethu manteisio ar gof gweledol da i atgynhyrchu geiriau ar bapur.  Mae sillafwyr da yn hyderus wrth roi cynnig ar eiriau dieithr, yn meddu ar gof gweledol da ac yn hyfedr wrth ddefnyddio geiriaduron.  Yn aml, mae ganddynt ddiddordeb mewn geiriau - eu tarddiad, eu cyfystyron a’u posibiliadau...

Bydd sillafwyr da yn brasgamu trwy’r cyfnodau ac wedi cyrraedd y cyfnod olaf ymhell cyn iddynt adael yr ysgol gynradd.  Yn wir, mae’r plant hyn yn dangos aeddfedrwydd sillafu cyn bod yn 7 oednid trwy fod yn berffaith gywir eu sillafiadau yn ddi-feth, ond trwy ddangos cysondeb cynyddol yn eu hymdrechion a thrwy arddangos ymwybyddiaeth gynnar o batrymau sillafu.

Rhai Trafferthion Penodol

Cam-ynganu:

Gwelir nifer o blant (nifer cynyddol y dyddiau hyn, mae’n debyg ) sy’n anaeddfed iawn yn eu meistrolaeth o’r iaith lafar; mae eu cystrawennau’n gloff, eu patrymau brawddegol yn gyfyngedig a’u hynganiad yn ddiffygiol.  O’r herwydd nid oes ganddynt sylfaen dda i adeiladu eu strwythur sillafu arno.  (Nid yw hyn yn gyfystyr â dweud mai dibynnu ar iaith lafar dda sy’n bwysig i sillafwyr da; yn wir, nid yw’r Gymraeg yn iaith mor ffonetig ag y mynn llawer ohonom gredu, fel y dangosir yn nes ymlaen.)

Ond mae yna nifer o blant sy’n sillafu ffurfiau fel ‘gweiffio', 'gorddaf', 'castech', 'chais'.  Nid camsillafu y mae’r plant hyn, wrth gwrs, ond sillafu yn gywir yr hyn y mae’n nhw yn ei ddweud.  Felly, dylai’r sylw sydd ei angen arnynt gael ei anelu at helpu’r ynganiad a’r lleferydd e.e.

a)  torri'r gair yn rhannu llai 'dydd-iad-ur', 'gwy-bod-aeth'

b)  creu pwyslais annaturiol wrth ymarfer dweud geiriau - gwneud, dweud, castell

Dylanwad Dwyieithrwydd:

Pan fydd plant yn ymdopi â chyfathrebu mewn dwy iaith, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig, mae yn naturiol i ddylanwad cryfach, neu feistrolaeth lwyrach, o un o’r ieithoedd hynny effeithio ar y llallYn wir, mae hyn yn duedd gydnabyddedig yn y modd y mae oedolion yn cymysgu elfennau dwy iaith ; sonnir yn fynych am gystrawennau Seisnig yn dylanwadu ar Gymraeg llafar pobl.

Wrth sylwi ar drafferthion sillafu rhai plant, felly, fe welir eu bod yn trosglwyddo egwyddorion a ddysgwyd mewn un iaith i’w mynegiant yn y llall.  Un enghraifft amlwg o hyn yw’r duedd i sillafu geirau fel ‘ffordd’, ‘ffair’ a ‘ffermwr’ gydag un ‘f".  Un ‘f’ a geir yn ddieithriad ar gychwyn geiriau Saesneg (fair, farm ,four...). Eithriadau yw geiriau ag ‘ff’ ynddynt yn y Saesneg, tra mae hi’n llythyren gyda’i swn penodol ei hun yn y Gymraeg.   Ond mae’r glust 'ddwyieithog'  yn ei hadnabod fel yr un llythyren, wrth gwrs, ac felly'n twyllo'r sillafwr ansicr.

Yn yr un modd mae tebygrwydd swn 'dd' Gymraeg a 'th' Saesneg (weithiau) yn peri i blant ysgrifennu 'ddy', 'ddem', 'ddey', 'widd', etc.  Ac os yw 'w' yn gwneud y tro i sillafu 'hwn' pam na wnaiff y tro i sillafu 'look' neu 'should'?

Gorddibyniaeth ar yr laith Lafar

‘Isda‘n fana‘n ddisdaw a g‘na fel dwi‘n deud!’ yw’r hyn a glyw’r glust ac y mae ynganiad o’r fath yn hollol dderbyniol. Ond mae’r iaith lafar, yn arbennig yn y Gymraeg, yn talfyrru geirau, yn ‘meddalu’ llythrennau (t – d) ac yn newid llafariaid (e – a yn y gogledd yn arbennig).  Golyga hyn fod cryn wahaniaeth yn aml rhwng ffurfiau sy’n dderbyniol yn yr iaith lafar a ffurfiau sillafu confensiynol.  Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng

isda ac eistedd
casdall a castell
isho ac eisiau

Mae gan y plentyn sy’n darllen yn hyderus a rhugl, ac sy’n gweld ffurfiau ysgrifenedig y geiriau, gryn fantais ar y plentyn sy’n meddu ar drafferthion darllen. Nid yw hyn yn gyfystyr â dweud fod pob darllennwr da yn datblygu i fod yn sillafwr da.  Fel y dywed Frank Smith, nid yw’n angenrheidiol i ddarllennwr da sylwi’n ofalus ar y geiriau unigol; rhyw lithro drostynt y mae ei lygaid.  Ond gan mai gweledol yw sillafu y mae’n dilyn fod plentyn sy’n gweld geiriau yn aml (h.y. plentyn sy’n darllen) yn fwy tebygol o fewnoli ffurf eu sillafiad nag yw’r plentyn sy’n amharod neu’n analluog i ddarllen.

Dyslecsia:

Canllawiau i athrawon

  • Dylid sicrhau fod y disgybl yn gallu adnabod swn (sain) ac enw pob llythyren cyn symud ymlaen i ddysgu sillafu.
  • Wrth ddysgu sain a'i gysylltu â gair i ddisgyblion dyslecsig dylid dweud afal - a yn hytrach nag a am afal.
  • Mae'n holl bwysig o'r dechrau i gysylltu sain a llythrennedd.
  • Mae'n hanfodol cadw at strwythur pendant.
  • Wrth gyflwyno gair newydd i ddisgybl ei sillafu mae'n bwysig eu bod yn defnyddio'r dull amlsynhwyraidd o ddysgu sillafu.
  • Dylid gwneud yn siwr ei fod yn deall fod ar bob gair angen llafariad.
  • Dylid sicrhau fod ganddo lyfr sillafu - problemau i gofio trefn yr wyddor i chwilio mewn geiriadur.
  • Ni ddylid rhoi rhestrau maith o eiriau i'w dysgu iddo.

Dyma'r cymysgu llythrennau a welir amlaf gan ddisgybl Dyslecsia Cymraeg:

  • b a d neu p a b
  • th a dd neu ll a ch
  • wy ac yw
  • tebi-der yn lle tedi ber
  • cetiall yn lle teciall

Peidiwch â

  • rhoi rhestrau o sillafau i'w dysgu - mae dau neu dri gair yn gymaint ag y gallent ei gyflawni ar y tro.
  • cywiro'r sillafu bob tro gan fod hynny'n tanseilio eu hyder.
  • gwneud i'r disgyblion ysgrifennu'r geiriau hyn a hyn o weithiau.   Anogwch yn hytrach y dull - Edrych, Gorchuddio, Ysgrifennu, Gwirio.

Yn hytrach gwnewch hyn:

  • Ysgrifenwch eiriau allweddol ar y bwrdd du.
  • Cynorthwywch y disgybl i gasglu geirfa thema / pwnc.  Gellir eu cadw mewn waled geirfa bersonol.

Cofiwch

  • Ni fydd disgybl Dyslecsig byth yn gallu sillafu'n berffaith - mae disgwyl perffeithrwydd yn afrealistig ac yn annheg.
  • Rhaid defnyddio dulliau perthnasol i gynnal y cof gweledol a'r cof clywedol.

gweler llyfrynnau canlynol gan Annette Evans a'i gweithgor :

'Dewch i Sillafu'

'Hwb Ymlaen'

'Helpu Disgyblion ag anawsterau dysgu penodol - Dyslecsia'

'Plant ag Anawsterau Lleferydd'

'Anawsterau Meddygol - gobygliadau Addysgol'

'Gwahaniaethau ar gyfer plant yn y dosbarth'

RHAN 2

Polisi

Dylai pob ysgol lunio polisi sillafu, sy'n amlinellu eu bwriadau ynglþn â hyfedredd plant erbyn B2, B4 a B6; dylai, hefyd, grynhoi y dulliau a ddefnyddir yn yr ysgol i roi sylw i sillafu. Yn amlwg bydd cytundeb staff-gyfan yn greiddiol os am sicrhau cysondeb a dilyniant yn y dulliau addysgu.

Amcanion a disgwyliadau ynglyn â medrau sillafu'r plant.

erbyn diwedd B2

  • bydd geiriau syml wedi eu sillafu'n gywir fel arfer (disgrifiad Lefel 2 CC)
  • bydd y plant yn gallu sillafu'n gywir y geiriau cyffredin, aml eu defnydd (roedd / mae / cael / mynd / ysgol / wedyn....)
  • byddant yn sylwi fod patrymau mewn rhai geiriau, a'r rheiny yn helpu eu sillafu (hwyl, mwy, pwyso / cael, mae, daeth....)
  • byddant yn gweld fod ystyr geiriau yn cynnig help at eu sillafu
  • byddant yn gallu creu stôr o eiriau aml-eu-defnydd sy'n gyfanrwydd eu sillafiad

erbyn diwedd B4

  • byddant yn sylweddoli fod geiriau tebyg eu sôn yn gallu amrywio yn eu sillafiad (torri / pori)
  • byddant yn cynyddu eu dealltwriaeth o batrymau o fewn geiriau (swyddfa, dwylo, mwynhau, llwybrau....)
  • byddant yn cynyddu eu dibyniaeth ar y llygad fel modd i 'weld' geiriau a'u patrymau
  • byddant yn sylweddol fod ystyron geiriau a tharddiad geiriau yn cynnig help efo'r sillafu (trwyddo)
  • byddant yn cynyddu eu meistrolaeth ar fwyfwy o eiriau cywir eu sillafiad
  • byddant yn gallu ail-ddarllen eu gwaith i ganfod rhai camsillafiadau.

erbyn diwedd B6

  • byddant yn lled annibynnol fel sillafwyr
  • byddant yn gyfarwydd â chlym lythrennau / deuseiniau penodol (si-op / dieithr) a nifer o eiriau sy'n dyblu 'n' ac 'r'
  • byddant yn adnabod gair sydd heb fod yn ymddangos yn gywir ei sillafiad
  • byddant yn gyfarwydd â rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid (anfodlon, diddiwedd, gwyddonol, colledig)
  • byddant yn gallu ymchwilio i eiriau, eu casglu a'u dosbarthu yn ôl patrymau sillafu cyffredin
  • byddant yn sylweddol fod sillafu cywir yn bwysig o safbwynt parchu'r darllenydd.

 

METHODOLEG

Egwyddorion sy'n hybu Addysgu Effeithiol

  • Dylai sylw i sillafu golygu rhai cyfnodau dysgu penodol sy’n annog plant i sylwi ar eiriau yn ofalus ac i ymwneud â thasgau sy’n gyson â strategaeth sillafu yr ysgol.  Bydd y strategaeth honno yn amlinellu amcanion, dulliau a disgwyliadau’r ysgol mewn perthynas â sillafu yn B1/2, B3/4 a B5/6.
  • Dylid amcanu i greu yn y plant ddiddordeb iach mewn geiriau, fel y byddant yn synio amdanynt fel ffrindiau yn hytrach nag fel rhwystrau. Gorau oll os oes elfen o hwyl yn y gweithgareddau a gyflwynir, fel y gellir cyfuno’r dysgu â phleser.
  • Dylid ystyried anghenion y sillafwr gwan a’r sillafwr aeddfed. Nid yr un yw’r gweithgareddau sy’n mynd i gynnig her a mwynhad i blant y ddau begwn gallu e.e. gweithgareddau torri-geiriau-i-fyny, adnabod llythrennau dwbl.
  • Gyda golwg ar natur problemau sillafu llawer o blant, mae’n bwysig fod gweld ac ail-weld geiriau yn cael blaenoriaeth. Cael plant i weld a sylwi wrth ymwneud â gemau sillafu oedd un o brif amcanion y ‘Project Sillafu 1997/98’ a arweiniodd at greu’r gweithgareddau gweledol hynny. (Mae copi o’r llyfryn a luniwyd ar gael ymhob ysgol yng Ngwynedd a Môn ac mae rhestr o'r gemau i'w gweld yn yr Atodiad ar ddiwedd y ddogfen hon.)
  • Tystiolaeth llawer o athrawon yw fod plant yn llwyddo i ddysgu rhestr o eiriau ar gyfer ‘prawf sillafu’ wythnosol ond eu bod yn methu a sillafu’r geiriau hynny wrth eu gwaith arferol yr wythnos ganlynol. Cyfyngedig, felly, yw gwerth profion sillafu a dylid ystyried rhai materion wrth eu gweinyddu, e.e.:

    sut y dewisir y geiriau?

    ydyn nhw yn berthnasol i brofiadau ysgrifennu beunyddiol y plant?

oes yna elfen o wahaniaethu yn y rhestrau geiriau?

a ystyrir patrymau neu deuluoedd sillafu?

a ystyrir anawsterau penodol rhai unigolion?

beth a wneir wedi’r prawf sillafu?

Dylid sicrhau fod plant yn cael eu helpu i ddysgu’r geiriau ‘trafferthus’.

  • Cyfyngedig, hefyd, yw gwerth yr ymarferion arddweud a weinyddir yn aml. Treulir cyfnodau maith yn ysgrifennu darnau ffug neu amherthnasol o waith sydd heb iddynt werth gwirioneddol fel darnau o ysgrifennu. Unwaith eto, mae’r elfen o wahaniaethu yn brin pan fo pawb yn y dosbarth yn ‘gwneud‘ yr un darn.
  • Mae’r dechneg adnabyddus o ‘edrych, cuddio, ysgrifennu, gwirio’ yn un bwysig.  Rhy hawdd, yn aml, pan fo plentyn yn gofyn am sillafiad gair, yw i’r athro ysgrifennu’r gair iddo ac i’r plentyn gopïo’r gair yn ei frawddeg.  Dylid pwyllo i sicrhau fod gafael y plentyn ar y sillafiad wedi gwella, a hynny trwy gamau’r dechneg uchod.  Pan wneir hyn mae’n fwy tebygol na fydd y plentyn yn ail-ofyn am yr un geiriau byth a hefyd.
  • Rhan o arfogaeth sillafu plant yw eu geirlyfrau personol eu hunain.  Bydd dalennau’r rhain yn dilyn trefn yr wyddor a’r plentyn yn eu defnyddio i gofnodi geiriau sy’n peri anhawster iddynt.  Un dechneg yw rhannu pob dalen yn ddwy golofn fel y gall y plentyn roi cynnig ar y sillafiad yn y golofn chwith cyn cael cadarnhad o’i gywirdeb neu’r fersiwn cywir ar y dde.  Mae hyn yn caniatau i’r athrawes weld yn union beth yw anhawster y plentyn unigol.
  • Dylai pob dosbarth feddu ar gasgliad o eiriaduron a thesawri; yn ddelfrydol dau neu dri o eiriaduron gwahanol sy’n caniatau i blant ymwneud â gweithgareddau geiriadurol addas i’w cyrhaeddiad.  Mae geiriaduron yn cymell diddordeb mewn geiriau, yn ogystal â bod yn ffynhonnell gwybodaeth.  Bellach mae’r ddarpariaeth o eiriaduron Cymraeg i blant wedi gwella (e.e. Geiriadur 1 a 2, CBAC), er bod diffygion o hyd yn y ddarpariaeth ar gyfer plant CA2.   Dylai fod o leiaf un copi o ‘Geiriadur Gomer i’r Ifanc’ wrth law yn B5 a 6. 
  • Yn anad dim, dylid annog plant i fod yn hyderus, i weld eu hunain fel rhai sy’n gallu sillafu llawer o eiriau yn gywir, ac y byddant yn datblygu ymhellach eto o feistroli rhai patrymau a sylwi ar deuluoedd o eiriau sy’n gyffredin eu sillafiadau.
  • Rhai o'r patrymau / geiriau mwyaf trafferthus. Os y gall plant feistroli nifer da o'r rhain bydd eu gwaith ysgrifennu yn gwella yn sylweddol:
wy st 'i' - cytsain - 'y'
hwyl estyn gilydd
mwynhau castell llinyn
dwylo eistedd dilyn
Gwynedd testun disgyn
mastiau
  • Ansicr os mai 'i' ynteu 'u' sydd ar ddiwedd berf?  Os mai 'o' sydd yng nghanol y gair neu os mai 'w' sydd tua diwedd y gair, yna 'i' fydd yr olaf un.
  • Geiriau 'wy' ynteu 'wu' :

Cychwyn efo wy a'i chwyddo'n fwy

 

ATODIAD A - Sampl Darren

ATODIAD B - Rhestr o'r gemau a ddisgrifir yn llyfryn y Prosiect Sillafu



Ar yr olwg gyntaf mae gwendidau sillafu’r ysgrifennwr uchod yn niferus iawn – yn dorcalonnus o niferus efallai.

Ond o ddadansoddi’r math o wallau a geir yn y darn mae’n bosib gweld y ffodd ymlaen:

a)     claedu ‘g’ yn ‘c’ (gegin / ysgol / cysgu)

b)     meddalu ‘t’ yn ‘d’ (gwallt)

c)     cymysgu ‘y’ ac ‘u’ (helynt / mynd / hwyr)

Mae’r tri chategori uchod yn gyfrifol a 16 o wallau sillafu’r darn. 

Byddai gwaith llafar / gweledol ar y mathau hyn yn sïwr o helpu.  Mewn geiriau eraill mae’n ofynnol blaenoriaethau rhai gwallau, efallai gyda grwp penodol o blant.

 

Atodiad B

Prosiect 'Gwella Sgiliau Sillafu yn y Gymraeg', 1996-1997

Mae llyfryn bellach ymhob ysgol sy'n amlinellu rhai o'r gweithgareddau sillafu a dreialwyd yn ystod y prosiect hwn.  Roedd athrawon o dair ysgol - Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, Ysgol Bro Cynfal, Ffestiniog ac Ysgol Edmwnd Prys, Gellilydan, - yn ymwneud â'r gwaith.  Canolbwyntiwyd ar lunio gweithgareddau fyddai'n gymorth i ddileu rhai gwendidau sillafu penodol, rhai a ganfyddwyd wrth ddadansoddi samplau ysgrifennu plant o'r ysgolion hyn.

Mae'r gweithgareddau yn seiliedig ar y ddamcaniaeth mai gweledol yn hytrach na chlywedol, yw sillafu. Felly anelir at gryfhau neu atgyfnerthu'r 'cof gweledol'.   Wedi'r cyfan nid yw plant sy'n clywed geiriau fel 'ista', 'ishio', 'dilin' (yn hollol gywir!) yn debygol o sillafu'r ffurfiau cywir o'r geiriau.  Na, maen rhaid iddyn nhw weld (trwy eu darllen) ac ail weld (trwy weithgareddau fel y rhain).

Wele'r gweithgareddau a gynhwysir yn y llyfryn:

a) Mwy nag wy: gweithgaredd sy'n canolbwyntio ar greu brawddegau'n cynnwys nifer o eiriau 'wy'.
b) Lotto Llythrennau Dwbl: gweithgaredd sy'n anelu at greu cyfatebiaeth rhwng symbol o'r llythyren ddwbl a lluniau gwrthrychau ar gerdyn.
c) Llwybr llithrig: sylw eto i adnabod a sillafu geiriau sy'n cynnwys llythrennau dwbl, y tro hwn ar ffurf gêm fwrdd.
ch) Be 'ydy'r patrwm?: gêm sy'n cyfuno ysgrifennu geiriau'n gywir a chystadlu rhwng dau dîm o blant.
d) Rymi 'Wy': eto gweithgaredd / gêm gardiau sy'n seiliedig ar batrwm 'wy'.