Syniadau
Wedi'r Stori
______________________________________
Bydd pob athro/athrawes yn darllen storiau iw
disgyblion. Dyma rai syniadau ar gyfer ymestyn y profiad trwy ei ddefnyddio i symbylu
gwaith pellach :
1. Creu deialog o ran or stori.
2. Creu stribed gomic or stori : lluniau a
llinell neu ddwy o destun o dan bob un (8 llun.....12 llun.....20 llun.....?)
3. Cymryd safbwynt gwahanol gymeriadau i adrodd
digwyddiad or stori.
4. Hel meddyliau : dychmygur hyn oedd ym meddwl y
cymeriad tra roedd yn gweithredu fel y gwnaeth.
5. Y sedd boeth : bod yn un
or cymeriadau a chael eich holi gan eraill am eich cymhellion neu eich
bwriadau.................
6. Ysgrifennu llythyr fyddai wedi cael ei ysgrifennu gan
gymeriad yn y stori.
7. Trafod rhesymau cymeriadau dros weithredu fel y
gwnaethant.
8. Llunio adroddiad papur newydd ar ddigwyddiad or
stori : cywair / pennawd.
9. Tag gyfannu ar unrhyw ddarn or stori : gwaith
pâr!!
10. Llunio poster (e.e. Yn Eisiau !) i
ddarlunio cymeriad, ynghyd â disgrifiad ohono.
11. Ysgrifennu llythyr at yr awdur : mynegi barn. (holi.....gwerthfawrogi.....beirniadu.....awgrymu)
12. Llunio adroddiad papur-newydd i gofnodi
digwyddiad or stori
13. Grwp o blant yn llunio cyfres o gwestiynau i brofi
dealltwriaeth plant eraill. (trafod / llunio / trafod / blaenoriaethu / trefn / amrywiaeth.....)
14. Cofnodi brawddegau neu ddarn hwy or testun
ar siart-fflip er mwyn tynnu sylw at nodweddion (arddull / atalnodi.....)
YN DDELFRYDOL RHAI PLANT
FYDDAIN GWNEUD RHAI OR UCHOD.
Len Jones |