Taflenni-Gwaith - potensial ynteu perygl?
______________________________________ Yn ôl..

Dros y blynyddoedd diwethaf daeth y defnydd o daflenni gwaith fel adnoddau dysgu yn y dosbarth yn ffasiynol. Yn wir, erbyn heddiw maen nhw’n nodwedd amlwg o ddulliau ac arferion gweithio y mwyafrif llethol o athrawon dosbarth, a hynny ar draws holl feysydd y cwricwlwm. Yr hyn sydd wedi poblogeiddio eu defnydd a hyrwyddo eu defnyddioldeb ydy’r peiriant llun-gopïo. Bellach, wedi inni giwio’n foreol am gael ei ddefnyddio, gallwn deimlo ein bod yn cychwyn pob diwrnod ar dir cadarn gan ein bod wedi paratoi’n briodol – bydd trefniadaeth yn ei lle a bydd plant, yn ddiwyd a distaw, yn ymateb i ofynion y daflen-waith.

Mae taflenni-gwaith yn rhannu, mae’n debyg,i ddau gategori sylfaenol:

  1. y rhai sy’n llungopïau o dudalennu o adnoddau masnachol, wedi eu hatgynhyrchu gyda’r bwriad o ymarfer a chadarnhau sgiliau neu wybodaeth newydd a gyflwynwyd i’r plant
  2. y rhai sydd wedi eu llunio yn benodol gan yr athro/athrawes, ond gyda’r un bwriadau â’r uchod. Oherwydd ein hyfedredd gyda’r dechnoleg gyfoes mae diwyg y rhain cystal, yn aml, â’r rhai masnachol

Ar eu gorau mae taflenni pwrpasol yn adnodd effeithiol ar gyfer addysgu a chadarnhau’r hyn a ddysgwyd. Maen nhw, hefyd, yn gallu hwyluso pethau o safbwynt rheolaeth dosbarth, trwy gynnig gweithgareddau y gall carfan o blant ymwneud â nhw tra bod athro / athrawes yn rhoi sylw mwy dwys i garfan arall.

Ond – ac mae’r ond yn un sylweddol – gellir honni bod defnyddio taflenni gwaith yn helaeth fel hyn yn llesteirio yn hytrach nag yn hybu datblygiad plant. Gallwn yn hawdd ein twyllo ein hunain fod plant sy’n dawel a diwyd yn dysgu’n effeithiol.

Tawel am ba reswm?’ a ‘Diwyd yn gwneud beth?’ ydy’r cwestiynau pwysig.

  • Mae llawer iawn o daflenni gwaith yn cyfyngu ar gyfle i blant ymestyn eu hymatebion; maen nhw’n cyfyngu ar fedrau ysgrifennu sy’n annog cydlynedd brawddeg-wrth-frawddeg.
  • Prin iawn, iawn yw’r taflenni gwaith sy’n gofyn i blant gyd-drafod, rhesymu, gwyntyllu a dod i farn. Prin iawn yw’r taflenni gwaith sy’n ‘agor’ yn hytrach na ‘chau.’
  • Prin, hefyd, yw taflenni gwaith sy’n herio ymchwil ac yn caniatau ymatebion sy’n wahanol, ond eto’n dderbyniol, gan nifer o blant.

Y gwir, yn gyffredinol, yw fod y daflen-waith yn unffurfioli’r dysgu, yn distewi’r dysgu ac yn ein symud yn ôl i sefyllfa lle nad yw addysg yn ddim ond set o sgiliau i’w meistroli, ac yn gynyddol mae’r sgiliau hynny yn cael eu dysgu heb i ryngweithio ystyrlon ddigwydd.

Mae’r nodweddion cyfyngus hyn i’w gweld ar draws y meysydd cwriciwlaidd, ond yn aml maent ar eu gwaethaf mewn pwnc fel hanes. Mae i hyn oblygiadau difrifol. Pan fydd plant yn ymateb i gysyniadau hanes trwy lenwi taflen-waith fe gollir y potensial i fynd ‘dan groen’ pethau, neu i gael y plant i uniaethu efo cymeriadau, i ddeall cymhellion dros weithredoedd neu i ddirnad amodau byw cyfnod penodol.

Yn ogystal, pan fo llyfrau thema pob plentyn yn y dosbarth yr un fath yn union, mae yna golli cyfle gwirioneddol i wrando ar lais y plentyn, i’w gael i ymateb i’r testun yn ei ffordd eu hun ac i gofnodi’r ymateb hwnnw mewn amrywiol ddulliau. Mae gormod o daflenni-gwaith yn mygu’r creadigrwydd a’r defnydd pwrpasol o iaith i gofnodi mewn gwahanol ffurfiau ac i gyfathrebu ag eraill. Hynny ydy, gormod o daflenni-gwaith sy’n mygu, yn cau ac yn cyfyngu Canlyniad hyn ydi fod gwaith dosbarth o blant ar thema neu destun penodol yn cynnwys yr un elfennau, yn yr un modd ac yn yr un drefn.

Deisyfaf eto weld llyfrau thema dosbarth o blant heb yr un daflen waith wedi ei gludo ynddynt. Yn hytrach bydd y dalennau yn gofnod o ymateb y plentyn ac yn dystiolaeth i’w allu i ymchwilio ac i’w ddiddordebau. Felly, os mai’r Môr yw thema gyfredol y dosbarth, bydd amrywiaeth iach yn y mathau o lyfrynnau a gynhyrchir gan unigolion, o safbwynt eu diwyg ac o safbwynt yr union gynnwys. Ambell un wedi olrhain bywyd glan y môr, un arall wedi cynnwys hanesyn am fôr-ladron, eraill eto wedi ei llunio cerdd am ogof, a charfan arall wedi olrhain peth o hanes teithio’r moroedd. Bydd gan rai fapiau yn eu llyfrau, o foroedd y byd, efallai, neu eraill o Ynys y Trysor; bydd rhai yn cynnwys graff, rhai yn cynnwys lluniad manwl o gragen …

Mewn gair, bydd tudalen-gynnwys pob llyfr rywfaint yn wahanol. A bydd y medrau a’r wybodaeth y gobeithiwn eu datblygu yn y plant yn parhau i gael eu gweld ar lefel cyrhaeddiad y plentyn unigol.

Os yw’ch taflenni-gwaith yn cael eu defnyddio fel anogaeth, fel canllawiau ac fel arweiniad, popeth yn dda. Os mai moddion i gadw plant yn dawel ac heb ofyn iddynt roi eu meddwl ar waith ydynt, rhaid ail-ystyried.

Holed pawb ei hun!

Afrealistig? Go brin!

Len Jones