Trafod Testun
_______________________________ ![]()
Gweithgareddau ieithyddol yn seiliedig ar ffuglen gyfoes ar
gyfer disgyblion Blwyddyn 3 mewn ardaloedd Seisnigedig.
Lluniwyd y gweithgareddau hyn gan weithgor bychan o athrawon o ysgolion cynradd Môn a Gwynedd, dan arweiniad Ymgynghorydd y Gymraeg ac Athrawon Ymgynghorol. Y bwriad oedd creu deunyddiau heriol a symbylus a fyddai yn gymorth i feithrin medrau llenyddol plant yn ogystal âu medrau ieithyddol, gan ystyried yn arbennig ddisgyblion o gefndiroedd mwy Seisnigedig.
Anelir yn fwyaf arbennig at ddisgyblion Blwyddyn 3, ond gellir defnyddior gweithgareddau hefyd gyda disgyblion hyn, pe gwelir eu bod yn addas, gan y darparwyd rhai ar lyfrau ychydig mwy ymestynnol yn ogystal.
Er mwyn datblygu dealltwriaeth y disgyblion or deunydd llenyddol, ac er mwyn meithrin eu sgiliau ieithyddol, dylid sicrhau digon o gyfleoedd iddynt ymwneud â gweithgareddau llafar. Cynhwyswyd amrywiaeth o weithgareddau yma fydd yn hybu defnydd or iaith mewn gwahanol sefyllfaoedd, lle gall y disgyblion weithio yn unigol, parau, grwpiau a dosbarth cyfan. Gellir hefyd ganolbwyntio ar rai elfennau ieithyddol penodol lle gwelir yr angen, wrth gwrs.
Ystyriwyd y dogfennau canlynol wrth baratoir deunydd, ac awgrymir y dylid gwneud defnydd cyson ohonynt wrth ymarfer yr iaith :
Cynhwyswyd enghreifftiau o daflenni hunan-asesu y gellir eu defnyddio gan y disgyblion, yn ogystal â chrynodeb o brif nodweddion rhai or ffurfiau ysgrifenedig y disgwylir ir disgyblion eu hysgrifennu.
Dymunwn ddiolch yn gyntaf ir athrawon fun paratoir deunyddiau:Alison Edwards, Ysgol Pentraeth
Manon Jones, Ysgol y Traeth
Iola Jones, Ysgol y Faenol
Helen Owen, Ysgol Glancegin
Elen Walters, Ysgol Glanadda
Ruth Williams, Ysgol Rhoscolyn
Haf Llewelyn, Ysgol Beuno Sant
Luned Francis, Len Jones, Anwen Roberts - Athrawon Ymgynghorol
Gloria Davies - Ymgynghorydd y Gymraeg
Dymunwn gydnabod y caniatad parod a roddwyd i ni gan y gweisg canlynol i ddefnyddio
llyfrau a gyhoeddwyd ganddynt :
Gomer
Y Dref Wen
Y Ddraig Fach ( Drake )
Y Gamfa
Derbyniwyd caniatad pellach gan Transworld Publishers, Random House Childrens Books, a Longmans i ddefnyddio llyfrau a addaswyd or Saesneg.
Diolchir hefyd am ganiatad yr arlunydd ar awdur Jac Jones, yr arlunydd John Ireland, yr awdur Tony Bradman, ACCAC a CBAC.
Paratowyd y defnyddiau hyn gyda chefnogaeth
Grant Cynnal Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Awdurdod Mon a Gwynedd.
Hawlfraint Cwmni Cynnal
Person Cyswllt : Gloria Davies (
Ymgynghorydd y Gymraeg )
|
![]() |
|
|
|
| Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 Gweithgareddau 3 Gweithgareddau 4 |
Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
|
| _____________________________________________________________________________ | |||
![]() |
![]() |
|
|
| Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
Nodiadau
Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 Gweithgareddau 3 |
Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
|
| _____________________________________________________________________________ | |||
![]() |
|
![]() |
|
| Nodiadau Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
Nodiadau
Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
Nodiadau
Athrawon Gweithgareddau 1 Gweithgareddau 2 |
|
|
Cliciwch ar y pecyn o'ch dewis |