| Trefnu
ac Arddangos Llyfrau _______________________________ Maen ofynnol i ysgol ddatblygu system drefnu llyfrau addas syn cwrdd ai hangen ac sydd yn cyd-fynd â ffordd yr athrawon o weithio. Dylai plant mewn ysgol gael cynnig amrywiaeth eang o adnoddau darllen, e.e. Ffuglen Trwy sicrhau bod toreth o ddefnyddiau darllen apelgar ar gael gobeithir annog y plant i ddarllen i wahanol anghenion a phwrpas. Dylid anelu at arddangos y llyfrau yn atyniadol ac apelgar. Lle mae hynnyn bosibl dylid eu gosod gydau cloriau yn wynebu tuag at y plant. Gellid buddsoddi mewn dodrefn addas ir diben hwn. Dylair fan ller arddangosir llyfrau fod yn lle hwylus a chyfforddus. Dylair awyrgylch fod yn un lliwgar a symbylus, boed hynny yn y dosbarth, llyfrgell, ystafell adnoddau, neu hyd yn oed mewn coridor. Gall clustogau, carped, cadeiriau esmwyth, a hyd yn oed soffa ail-law fod o gymorth i greu yr awyrgylch hwn. Y nôd yw annog y plentyn i ystyried y lle hwn fel lle defnyddiol, gwerthfawr a chroesawus; lle sydd yn cynnig mwy o adnoddau na llyfrau yn unig, e.e. offer clywedol megis: radio/chwaraewr casetiau Mae canolfan wrando yn galluogi mwy nag un plentyn i wrando ar stori ar y tro, a thrwy sicrhau bod mwy nag un copi o lyfr ar gael, gall plant gyd-ddilyn a chyd-wrando gydai gilydd. Gellid defnyddio peiriant e.e. Walkman er mwyn ir plentyn fedru gwrando ar stori/gerdd yn annibynnol ambell waith.
Llyfr yr Wythnos neu Fy hoff awdur Er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb mewn llyfrau, gellid defnyddio un rhan or fan ller arddangosir llyfrau fel lle i roddi bri ar un llyfr penodol o ddewis y plant e.e. "Llyfr yr Wythnos". Gellid annog y plant i ddefnyddiou dychymyg i wneud tâp, darluniau, modelau a llyfrau eu hunain yn deillio or llyfr â ddewiswyd. Yn yr un modd, gellid creu arddangosfa - "Fy hoff awdur, awdures".
Llyfrgell ganolog ynteu llyfrgell ddosbarth? Mae angen i bob ysgol benderfynu sut y mae llyfrau igael eu trefnu oi mewn. Bydd angen ateb cwestiynau sylfaenol, megis: i. a oes angen sefydlu llyfrgell ganolog yn yr ysgol hon? ii. a fyddain well i lyfrau gael eu gwasgaru fel eu bod ar gael ymhob dosbarth? iii. os penderfynir ar gyfuniad o i. a ii. uchod, sut y mae hynny iw drefnu?
Bydd maint yr ysgol a natur ei hadeiladau, yn ystyriaethau pwysig wrth wneud penderfyniadau ynghylch i. uchod. Mae modd honni bod llyfrgell ganolog yn sicrhau bod yr holl lyfrau ar gael ir plant y rhan fwyaf or amser tra bod llyfrgell ddosbarth yn sicrhau bod rhai llyfrau ar gael ir plant y rhan fwyaf or amser. Yn yr ysgolion hynny lle y defnyddir y llyfrgell ganolog fel lle i arddangos yr holl lyfrau, fe all y llyfrau gael eu benthyg gan unigolion neu fesul casgliad dosbarth. Mae ysgolion eraill yn dosbarthu llyfrau e.e. ffuglen a llyfrau barddoniaeth i r llyfrgelloedd dosbarth gan gadwr llyfrgell ganolog fel man i gategoreiddlo llyfrau ffeithiol. * * * Dylid ceisio sicrhau bod plant yn gallu gweld ac ymgyrraedd at y llyfrau yn hwylus au bod yn gybyddus ar gwahanol ddefnyddiau darllen sydd ar gael. Dywed Elizabeth King yn ei llyfr "The school library", "The process of learning to read is by no means complete, unless children know how to obtain books". Dylai plant allu dod o hyd i lyfrau trwy ddefnyddio trefn ddosbarthu, catalogau neu gronfa ddata, yn effeithiol. Pa system bynnag y mae ysgol yn dewis ei mabwysiadu dywed Peggy Heeks yn ei llyfr "Choosing and Using Books in the First School" na ddylair system a ddefnyddir i gategoreiddio llyfrau fod yn un gymhleth nac yn llyffethair ir plant mewn unrhyw ffordd. Gellid dewis arddangos llyfrau e.e. mewn tair ffordd. i. Categoreiddio llyfrau syn ymdrin â meysydd penodol. (llyfrau ffeithiol) ii. Categoreiddlo llyfrau yn ôl trefn enwaur awduron. (llyfrau ffuglen) iii. Categoreiddio llyfrau syn debyg o ran lefel eu darllenadrwydd.
Gellid mabwysiadu system fwy manwl e.e. a) System Dewey System yw hon syn dosbarthu llyfrau i gategoriau pendantyn 6lrhifau, e.e. 000 - 100 Llyfrau Cyfeiriol. b) System sticeri-lliw Gellid rhoddi sticeri lliw ar wahanol gategoriau o lyfrau e.e. Llyfrau Barddoniaeth -
sticeri brown. _____________________________________________________ Gellir archebu labeli lliw gan NOR Systems, Harwich, Essex, CO12 4RR, (01255) 503131.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||