Polisi Cywiro (ynteu Polisi Ymateb?)
______________________________________ Yn ôl..

Dyma ystyriaethau wrth fynd ati i lunio neu adolygu polisi cywiro.

 
Amcanion

  • Cynorthwyo’r plentyn i wella yr hyn a ysgrifennodd
  • Cynorthwyo’r plentyn i fod yn well ysgrifennwr
  • Cynorthwyo’r plentyn i fod yn hunan-feirniadol yngln â’i waith.

Bod yn ‘ddarllenwr’ i waith y plentyn trwy ymateb i’w ymdrech i drosglwyddo gwybodaeth/mynegi ei deimladau/creu darn dychmygus/cofnodi proses a.y.y.b..

  
Canllawiau

  • Cynnig sylwadau positif (nid yw ‘Da’ yn ddigon da!)
  • Cynnig awgrymiadau ar sut i wella rhan/rhannau o’r gwaith
  • Tynnu sylw at wallau trwy ddefnydd o symbolau marcio.
  • Blaenoriaethu pa wallau i ymwneud â hwy.
  • Os mai ‘tic’ yn unig mae’r gwaith yn ei haeddu mae’n debyg nad oedd pwrpas digonol iddo, neu nad ydym fel athrawon yn rhoi gwerth ar gynnwys y darn, neu nad oedd y gwaith yn ddigon heriol i’r plentyn.

Os yw’r plentyn yn gwybod pa bethau (nodweddion/meini prawf/dangosyddion llwyddiant .....) sy’n ofynnol iddo roi sylw iddynt cyn cychwyn y darn ysgrifennu mae’n rhesymol ystyried mai’r rhain fydd yn cael ein sylw wrth ymateb i’r darn.

Ystyrier yr hyn sy’n rhesymol o safbwynt gallu’r plentyn.

Mae’n hawdd inni ‘gywiro’ 30 o wallau ar y tro. Ydy’r plentyn yn ‘gywirach’ pan fydd o’n ysgrifennu nesaf?

Len Jones