Ymateb i Lenyddiaeth
_________________________________ Yn ôl..

Mae’n bwysig i blant sy’n darllen yn unigol gan amlaf gael cyfle i rannu profiadau sy’n deillio o lyfrau o fewn eu grwpiau neu’n ddosbarth cyfan. Gall ymatebion godi allan o lyfrau mae’r plant wedi eu darllen eu hunain, neu allan o lyfrau mae’r athrawes/athro yn eu darllen i’r plant.

Mae nifer o awgrymiadau yma ar sut i ysgogi ymateb i lyfrau yn llafar ac yn ysgrifenedig. Mae yma hefyd nifer o awgrymiadau am weithgareddau ar draws y meysydd cwricwlaidd. Ond rhaid cofio bob amser bod ar blant angen amser preifat i ymateb i’w darllen, i’w hoffi, i adfyfyrio trosto, i’w gasau hyd yn oed, i ddatblygu chwaeth bersonol, ac i ail-ddarllen hoff lyfrau. Mae gofyn i athrawes/athro ddangos sensitifrwydd wrth lunio gweithgareddau’n seiliedig ar lenyddiaeth rhag i’r pleser a geir o lyfrau droi’n ddiflastod i’r plant. Unwaith mae ymateb i lyfrau’n mynd yn fwrn, yna mae’n wrth-gynhyrchiol. Rhaid dewis gweithgareddau’n gynnil, yn ystyrlon, ac yn sensitif.

_____________________________________________________ 
Ymateb yn Llafar                                                                                   

Wrth ddarllen stori neu farddoniaeth i blant, bydd cyfleoedd yn codi’n naturiol i aros ennyd i drafod ystyr, i roi ymateb personol, neu i ragfynegi yr hyn all ddigwydd nesaf. Ond dylid bod yn ofalus rhag i hyn amharu ar rediad a mwynhad stori dda. Felly mae’n fanteisiol cael cyfnod trafod llyfr ar wahan i’r cyfnod darllen.

Trafod gyda’r athrawes/athro

Gellir dewis trafod gyda’r dosbarth cyfan, gyda grwp neu gydag unigolyn.

Dosbarth cyfan

Manteision

  1. Cael bwrlwm bywiog o syniadau
  2. Plant yn ysgogi ei gilydd
  3. Magu hyder oddi wrth ei gilydd
  4. Sefyllfa warchodol i’r swil

Anfanteision

  1. Dim cyfle i bawb roi barn
  2. Rhai plant yn ‘cuddio’
  3. Plant yn ymwthiol
  4. Yn hawlio’r sylw
  5. Gallu bod yn anodd ei reoli

Grwp

Manteision

  1. Haws rheoli’r sefyllfa
  2. Cyfle i bob plentyn gyfrannu
  3. Hawl cael plant i ymateb yn sensitif i’w gilydd
  4. Hawl cael plant i ymestyn eu sylwadau/syniadau
  5. Cyswllt llygad i lygad yn haws i’w gynnal

Anfanteision

  1. Athrawes/athro yn ormod o rym
  2. Rhoi pwysau ar blant tawel
  3. Llai o fwrlwm naturiol
  4. Llai o fewnbwn i ehangu ar drafodaeth
  5. Gall fod yn drwm ar amser os yw pob grwp i gael cyfle

Unigolyn

Mae mantesion ac anfanteision trafod fel grwp yn dwysau pan mae athrawes/athro yn trafod â’r plentyn unigol.

Trafod heb athrawes/athro

Mae ar blant angen llawer o brofiad i allu gwneud hyn yn llwyddiannus, ond mae’n ffordd dda iddynt fagu annibyniaeth. Dyma rai canllawiau ar gyfer cychwyn plant i drafod yn annibynnol.

  1. Eu cyfyngu i amser pendant (e.e. 10 munud)
  2. Rhoi nifer o syniadau/gwestiynnau iddynt i’w trafod
  3. Egluro iddynt beth a ddisgwylir o’r drafodaeth, h.y. ateb yn ol i’r athrawes/athro, i grwp arall, neu i’r dosbarth cyfan.
  4. Eu cynorthwyo i ymateb yn briodol i aelodau eraill y grwp – dysgu sut i gynorthwyo, i gynnal, i ymateb yn wahanol heb amharchu safbwynt eraill, i fagu’r hyder i fod a safbwynt gwahanol.

Gellir cael gwahanol grwpiau i drafod gwahanol agweddau ar lyfr, ac adrodd yn ol i’w gilydd. Mae recordydd tap yn adnodd defnyddiol yn y cyswllt yma, ac yn gyfle i adfyfyrio ar ansawdd ac effeitholrwydd y drafodaeth. Gellir recordio’r drafodaeth ar ffurf rhaglen radio ar lyfrau.

      
Cwestiynau

Mae’r mathau o gwestiynau a ofynnir yn holl bwysig ar gyfer llwyddiant trafodaeth. Gall cwestiynu effeithiol ddyfnhau profiad plentyn o lyfr, a’i ganfyddiad o’i fywyd a’i fyd ei hyn. Wrth lunio trafodaeth rhaid ystyried pa fathau o gwestiynau a ofynnir, ac i ba ddiben.

Caeedig –

Yn gofyn am un ateb ‘cywir’. Mae’n ymholi i ddealltwriaeth arwynebol plentyn o’r hyn mae wedi ei ddarllen e.e. Pwy aeth i ffonio’r heddlu?

Penagored –

Yn gofyn i’r plentyn resymu, mynegi barn a datgan safbwynt. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth dan yr wyneb o ystyron cudd mewn llyfr e.e. Oedd hynny’n deg? Ni ellir sicrhau atebion dwfn ac ystyrlon gan blant ar y dechrau, ond dylid dyfalbarhau fel bod plant yn dod yn fwy profiadol.

Ymestynnol –

Yn gofyn i blant egluro’u hunain ymhellach, neu gyfiawnhau safbwynt neu arfarnu eu syniadau e.e. Pam wyt ti’n dweud hynny?

       
Awgrymiadau eraill ar gyfer ymateb llafar

  1. Cyflwyno llyfr drwy ddarllen darn o’r canol gyntaf. Cael y plant i ddyfalu beth oedd y digwyddiadau/sefyllfaoedd blaenorol, i ragfynegi beth sy’n digwydd nesaf.
  2. Cael grwpaiu trafod i lunio eu cwestiynau eu hunain am ddarn o’r testun – cwestiynau sy’n mynd i arwain y plant i feddwl yn ddyfnach am yr hyn mae’n nhw wedi ei ddarllen. Gall fod ar eu cyfer hwy eu hunain neu ar gyfer grwp trafod arall.
  3. Rhagfynegi. Rhannu darn o’r testun yn adrannau, a chael grwpiau i ragfynegi beth sy’n mynd i ddigwydd yn yr adran nesaf drwy gyd-destun yr hyn sydd ganddynt. Dod â phawb ynghyd ar y diwedd i roi’r darnau yn ôl at ei gilydd yn y drefn briodol.
  4. Trefnu ymweliad awdur.

_____________________________________________________ 
Ymateb Ysgrifenedig                                                                           

Rhaid pwysleisio eto y gall gofyn am ymateb ysgrifenedig yn barhaol droi darllen yn hunllef i rai plant. Ni awgrymir y dylid ymateb i bob llyfr, na phob agwedd o lyfr.

Dyma rai awgrymiadau:

  1. Cadw cofnod o ymateb personol, fel dyddiadur darllen, i’w ddarllen gan y plentyn yn unig, nid gan yr athrawes/athro.
  2. Cadw cofnod cyhoeddus o lyfr a ddarlllenywd ar ffurf taflenni arfarnu. Gellir gwneud banc o sylwadau ar gyfer defnydd y dosbarth fel sail i drafodaeth.
  3. Ysgrifennu at awdur (drwy’r cyhoeddwyr) yn rhoi sylwadau, cwesitynau, a barn.
  4. Ysgrifennu at blant mewn dosbarth neu ysgol arall i drafod llyfr.
  5. Ysgrifennu diweddglo gwahanol i lyfr.
  6. Ysgrifennu dyddiadur neu lythyr i berson y tu allan i’r stori yn rôl un o gymeriadau’r llyfr, neu llythyr i gymeriad yn y stori.
  7. Ysgrifennu darn o’r stori o safbwynt cymeriad arall, e.e. sut fuasai’r gwrth-arwr yn gweld pethau? Neu fel cymeraid ymylol.
  8. Creu deialog o ran o’r stori ar gyfer ei pherfformio un ai fel drama neu fel sioe bypedau.
  9. Ysgrifennu adroddiad papur newydd o ddigwyddiad yn y stori.
  10. Ysgrifennu, neu drafod, penodau ‘ychwanegol’ a fuasai’n ymhelaethu ar y gwreiddiol, neu’n esbonio.
  11. Creu ‘ymson fewnol’ i gymeriad pan mewn sefyllfaoedd o greisis, neu os yw’n siarad a chymeriad arall sy’n meddwl yn wahanol i’r ffordd mae’n meddwl, e.e. plentyn yn ymateb i gerydd athro/rhiant.
  12. Canfod agweddau neu ogwydd cymdeithasol/diwyllianol o fewn stori neu gymeriad. Ymhelaethu ar hyn drwy greu cefndir i’r digwyddiadau/cymeriadau.
          

_____________________________________________________ 
Ymateb Trawsgwricwlaidd            
                                                   

Gellir defnyddio llyfr addas fel arweiniad i thema drawsgwricwlaidd, neu gellir defnyddio llyfr i ganolbwyntio ar agwedd arbennig o thema. Weithiau gellir seilio thema ar lyfr arbennig. Dyma awgrymiadau ar gyfer rhai meysydd cwricwlaidd.

Drama

  1. Mewn grwpiau neu’n unigol, cymryd rôl cymeriad o’r llyfr i ateb cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan weddill y grwp/dosbrarth, sydd hefyd mewn rôl e.e. pobl papur newydd, holwyr teledu, heddlu etc.
  2. Ail greu, yn fyr-fyfyr, prif ddigwyddiadau/sefyllfaoedd er mwyn delio â materion pwysig mewn stori e.e. llys barn.
  3. Creu tableaux, neu gerfluniau, sy’n cyfleu ymateb cymeriad, perthynas rhwng cymeriadau, neu fynegi digwyddiad. Gwaith unigol neu grwp. Gall y plant eraill ddyfalu beth sy’n cael ei bortreadu.
  4. Gwenud sioe bypedau o ran o lyfr. Gellir creu gwahanol fathau o bypedau gan ddefnyddio technegau amrywiol.

Addysg Gyfryngol

  1. Grwpiau i drafod, fel cyfarwyddwyr/cynhyrchwyr ffilm, beth yw nodweddion corfforol y prif gymeriadau; sut i’w cyfleu’n effeithiol pa fath o actorion fyddai’n portreadu’r cymeriadau orau, etc. Trafod ‘stereotype’, neu nodweddion unigryw.
  2. Gwneud rhaglen radio ‘Vox pops’ o ymateb pobl gyffredin i sefyllfa/digwyddiad/cymeriad yn y stori.
  3. Creu tâp synnau/cerddoriaeth i gyd-fynd â rhan o’r stori. Gellir cyfuno hyn â darlleniad o ran o’r stori fel drama radio.
  4. Gwneud llinell stori (cyfres o luniau) ar gyfer ffilm/teledu, sy’n cynrychioli sut y buasai camera yn trosglwyddo rhan o lyfr i sgrin deledu, h.y. ‘gweld’ y stori.
  5. Ysgrifennu capsiynau hysbysebion i werthu llyfr. Rhaid meddwl am gynulleidfa a modd effeithiol o drosglwyddo neges.

       
Arlunio, Celf, Technoleg

  1. Llunio siaced lwch/clawr newydd.
  2. Gwneud collage o ran o lyfr, neu furlun sy’n mynd i ymgorffori lleoliad a chymeriadau’r stori.
  3. Gweithio fel arlunwyr proffesiynol i greu lluniau i gyd fynd â’r testun.
  4. Cynllunio posteri i hysbysebu llyfr.
  5. Dehongli darn o stori trwy gyfrwng llun. Weithiau gellir cyfleu darn dyrys o lyfr yn fwy effeithiol drwy lun.
  6. Dylunio dillad ar gyfer cymeriadau y stori (megis ar gyfer gwneud rhaglen deledu). Mae gofyn meddwl yn fanwl am holl agweddau a sefyllfa cymeriad, a chofio am y ‘props’ personol.
  7. Dylunio set deledu/llwyfan ar gyfer y stori.

       
Dyniaethau

  1. Creu map – ar gyfer wal ddosbarth, efallai – sy’n dangos amgylchedd y stori, neu siwrnai o fewn y stori.
  2. Coeden deulu. Lle mae nifer helaeth o gymeriadau, sy’n gallu bod yn ddryswch i blant, gellir gwneud coeden deulu, yn ddau neu’n dri dimensiwn.
  3. Llinell amser i ddangos perthynas amser rhwng digwyddiadau, lleoedd, neu gymeriadau, neu hyd yn oed ddigwyddiadau o fewn bywyd cymeriad.
  4. Deiagram ‘copyn’ i esbonio sefyllfaoedd/perthnasau cymhleth, neu ffactorau sy’n effeithio ar ddigywddiad/penderfyniad.