Ysgrifennu
YSGOGI PLANT I YSGRIFENNU
______________________________________
"The easiest place for any writer to begin writing, including
you, is in writing about something you know". Donald H. Graves (allan o
"Writing: Children and Teachers at Work").
Bydd plant yn ysgrifennu orau pan fydd ganddynt rywbeth i'w ddweud.
Cyn cychwyn yn yr ysgol mae'r rhan fwyaf ohonynt yn credu eu bod yn gallu ysgrifennu, ac
yn awyddus iawn i wneud hynny ... boed ar wal, ar lyfr neu ar unrhyw beth arall! Yn
anffodus, yn aml iawn yn ystod y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol, bydd y rhelyw yn colli'r
hyder cyntaf hwnnw, ac yn anfodlon ysgrifennu.
CYFRIFOLDEB YR ATHRO/ATHRAWES WRTH YSGOGI PLANT I YSGRIFENNU
Trefniadaeth Dosbarth:
*creu awyrgylch diogel, cydnaws i roi geiriau ar bapur
*sicrhau cyflenwad o adnoddau amrywiol (papur ac offer ysgrifennu)
*trefnu cyfnodau distaw o ysgrifennu annibynnol
*annog y plant i ddarllen eu gwaith i eraill (gall hyn fod yn
ysgogiad ynddo'i hun)
*bod yn gynulleidfa/chwilio am gynulleidfa fel bod y plant yn cael
ymateb (ar lafar ac ar bapur) i'w gwaith ysgrifenedig
*paratoi cynhaliaeth addas (geiriaduron, llyfr geiriau personol,
llyfrau at themâu, thesawrws a.y.b.)
Modelau Ysgrifennu
Bydd gweld yr athrawes/athro yn ysgrifennu - yn enwedig ar fwrdd du
neu sgrîn e.e. gan siarad drwy'r gwaith - yn eu helpu i weld y broses. Bydd gweld bod
oedolion hefyd, yn gorfod gwneud yr un dewisiadau â hwy ynglyn â chynnwys, ffurf,
cystrawen, geiriau unigol, teitl a.y.b. yn gallu bod yn ysgogiad gwerthfawr i blant. Dylid
hefyd:
drefnu i athrawon ymweld, i ysgrfiennu hefo'r plant ac i drafod sut
y maent hwy'n ysgrifennu
defnyddio gwaith plant a phobl eraill fel modelau
dangos a thrafod esiamplau o ffurfiau ysgrifenedig
Trafod Ysgrifennu
Bydd angen cyfle i siarad cyn, yn ystod a/neu ar ôl yr ysgrifennu
hefo oedolyn yn unigol, fesul pâr, mewn grwp, a'r plant heb oedolyn. Dylai'r cwestiynau a
godir hogi'r meddwl ac annog y plant i ganolbwyntio mwy ar eu hysgrifennu.
Ar adegau bydd angen siarad cyn dechrau ysgrifennu, dro arall, gall
gormod o siarad rwystro'r ysgrifennu. Da o beth ydi cael toriad rhwng y siarad a'r
ysgrifennu (e.e. amser chwarae neu dros nos).
Bydd symbyliad da yn dwyn i gof lawer o bethau eraill. Wrth ymdrin
â gwrthrychau, bydd beirdd yn aml yn gofyn i blant:
"beth mae hwn yn gwneud i chi feddwl amdano?"
"pe bai hwn yn fyw, beth/pwy fyddai?"
"sut fath o berson/anifail fyddai?"
"pa gwestiwn y hoffech chi ofyn iddo/iddi?"
gyda'r bwriad o symbylu dychymyg y plant.
Manteisio ar/trefnu profiadau a allai eu hysbrydoli
Bydd y gwaith ysgrifennu gorau yn aml yn deillio o brofiad, boed
hynny o fewn dosbarth, e.e. arbrawf wyddonol, gwrando ar stori, edrych ar ddarlun neu o'r
tu allan i'r ysgol e.e. brawd bach newydd, ceffyl a.y.b. Bydd rhoi gormod o deitlau parod
a chychwyn storïau yn tueddu i'w llyffetheirio fel ysgrifenwyr, felly dylid ceisio
cychwyn o brofiadau byw mor aml ag sy'n bosibl, lle gallant ddefnyddio'u synhwyrau i'r
eithaf a holi a thrafod yn naturiol e.e.
gwahodd ymwelydd i mewn i'r dosbarth e.e. hen chwarelwr
mynd allan e.e. i goedwig/swn traffig/edrych ar y môr
ymweliad ag adeilad (gwag) fel eglwys/adfail (prysur) fel
ffatri/siop/garej
gwylio neu wrando ar raglen e.e. ar gadwraeth
edrych ar wrthrych drwy chwydd-wydr e.e. pluen eira
gwylio effaith gwres ar rew/tân ar ganwyll
arolgi rhywbeth e.e. persawr/planhigyn fel rhosmari
gwrando ar: gerddoriaeth glasurol e.e. Fingal's Cave, Scheherazade
darn o lenyddiaeth trawiadol/barddoniaeth
hen wrthrych fel esgid, het, ffrog briodas, siôl
hen albwm lluniau, hen lyfr ymwelwyr/cerdyn post
darn o lês/melfed/defnydd sidan
Cychwyn rhestr yn unig ydi hon. Bydd gan y plant lawer mwy o
syniadau na'u hathrawon fel arfer!
Gwelir bod yma bosibiliadau dyniaethol, gwyddonol, cerddorol,
celfyddydol a.y.b.
Bydd rhai plant yn mwynhau personoli'r gwynt, gwled y byd drwy "lygaid" carreg,
ceisio deall beth sy'n cymell peiriant i droi; eraill yn hapusach yn mesur a chroniclo
cryfder y gwynt, disgrifio carreg a dadansoddi pwerau ynni sy'n peri i'r peiriant weithio.
Bydd y cyfan yn sbardun i feddyliau'r plant, ond bydd eu hymateb yn wahanol. Ar adegau
bydd symbyliad sydd wedi gweithio'n arbennig o dda gydag un grwp o blant yn fethiant llwyr
efo grwp arall! Bydd gan bawb ei ffefrynnau!
Bydd cyfnod o edrych yn ôl, ac adfyfyrio yn rheolaidd ar eu gwaith
hefo'r plant yn fuddiol, i weld beth a'u hysgogodd orau i ysgrifennu. Bydd hefyd yn
adeiladol er mwyn cynllunio i'r dyfodol. |