Ysgrifennu
YMATEB I WAITH YSGRIFENNU PLANT
______________________________________

Oherwydd fod plant yn treulio cyfran helaeth o'u hamser yn yr ysgol
yn ysgrifennu, a hynny fel arfer er mwyn i ni fel athrawon ymateb iddo, fe ddylem ystyried
beth yn union sy'n llywio'n dulliau ni o ymateb.
Ydym ni, er enghraifft, yn ymateb trwy farcio, trwy gywiro, trwy
awgrymu gwelliannau, ynteu trwy wneud pob un o'r rhain?
Oes yna gysondeb yn y ffordd y mae holl athrawon yr ysgol yn ymateb?
Canllawiau
1. Dylai'r ffordd yr ydym yn ymateb ddibynnu ar:
(a) natur y dasg a osodwyd
Os mai ysgrifennu stori oedd y dasg dyla'i ymateb cyntaf fod i lwyddiant y stori ac nid i
sillafu ac atalnodi!
(b) cyrhaeddiad y plentyn
Os oes llawer iawn o wallau yng ngwaith y plentyn dylem ymatal rhag tynnu sylw at y rhan
fwyaf ohonynt
2. Dylai'r ymateb fod yn bositif, yn gweld gwerth yn ymdrechion y
plentyn, ac yn ceisio adeiladu arnynt.
3. Ambell dro bydd sylw llafar yn ddigonol, dro arall bydd angen
sylw ysgrifenedig, - a hwnnw yn sylw sy'n dangos fod yr athro/athrawes wedi darllen y darn
yn hytrach nag wedi canfod y gwallau!
4. Mae rhoi marc e.e. 6/10 yn annigonol os nad oes hefyd sylw gydag
ef sy'n awgrymu pam 6/10, a sut y gellir ennill 8/10. Wrth gofnodi sylw fel hyn gellir
gwerthfawrogi'r ymdrech ac awgrymu sut i wella'r darn.
e.e
Byddai'r darn yn llawer mwy llwyddiannus pe byddai llai o oedi i
ddisgrifio'r hen ddyn.
Darn addawol iawn. Efallai y byddai brawddegau cryfach i agor a
chloi yn ei wneud yn fwy effeithiol?
Go dda ti. Ond mae 2 air yn yr 8fed llinell a 2 air yn yr 12fed
llinell wedi'u camsillafu. Pa rai, tybed?
5. Mae rhai gwallau yn fwy difrifol na rhai eraill. Er enghraifft,
gellir dadlau fod cystrawen anghywir (e.e. am bod mae hi'n braf) yn llawer mwy difrifol na
methu dyblu 'n' neu gam-sillafiad arall. Dylid ystyried pa wallau i dynnu sylw'r plentyn
atynt, felly, yn arbennig os yw'n blentyn sy'n wallus iawn ei fynegiant.
Mathau o wallau/wendidau
| 1. Cam-dreiglo 2. Gwallau
atalnodi
3. Cystrawennau gwallus
4. Llawysgrifen flêr
5. Cam-sillafu |
Pa rai sydd angen
sylw yng ngwaith y plentyn unigol? |
|