Ysgrifennu
Plant yn Ymateb

______________________________________ Yn ôl..

Mae'n bosib annog y plant i ymateb i waith ei gilydd. Ar wahân i ysgafnhau baich yr athro/athrawes mae hyn yn meithrin synnwyr o gyfrifoldeb yn y plant. O gael eu meithrin i fod yn sensitif ac adeiladol e.e.

"Canmolwch ddau beth cyn awgrymu beth sy'n wallus"

fe all plant ddatblygu'r sgîl o fod yn wrandawr, a bod yn 'glust' i waith ysgrifennu y naill a'r llall.

Syniad arall yw cael 'Cardiau Ymateb' sy'n nodi math o gwestiynau y gellid eu gofyn mewn perthynas â darn o waith ysgrifenedig.

e.e.

Gwaith Pâr

Cerdyn 1

Dewiswch bartner i weithio efo fo/hi.

Eich tasg: Darllen y gwaith i'ch partner

Tasg y partner:  Gwrando yn ofalus ar y darlleniad a chynnig gwelliannau.

                   
Efallai fod y cwestiynau yma'n gymorth i chi.

1. Ydi'r darn ysgrifennu yn ddiddorol?
2. Oes yna rhywbeth ar goll yn y darn?
3. Oes yna unrhyw ran o'r gwaith yn aneglur i'r darllenydd?
4. Fedrwch chi awgrymu gwelliannau? Beth am y dechrau? Neu'r diwedd? Ydi'r frawddeg glo yn un dda?
5. Oes yno ffordd well o ddisgrifio, neu o egluro?
6. Ydi'r darn yn rhy fyr, tybed? Neu rhy hir efallai?
7. Ydi'r ysgrifennu wedi llywddo i ddweud yr hyn oedd ganddo/ganddi i'w ddweud?

Gadewch i'r awdur wybod beth ydi'ch barn chi.

BYDDWCH BOB AMSER YN GAREDIG!

             

Gwaith Par

Cerdyn 2

Newidiwch waith efo'ch partner

Darllenwch waith eich partner yn ofalus

1. Oes yna wallau sillafu yn y darn? Tanlinellwch nhw yn ysgafn efo pensel
2. Oes yno wallau treiglo? Rhowch gylch o gwmpas y gwallau yma (os oes rhai!)
3. Beth am yr atalnodi? Efallai fod yr awdur wedi bod yn ddi-ofal wrth ysgrifennu!
4. Oes yna baragraffau yn y gwaith? Efallai nad oes angen paragraffau?

Os oes, allech chi awgrymu ble dylen nhw fod?