Ysgrifennu
Y BROSES DDRAFFTIO

______________________________________ Yn ôl..

A. Egwyddorion Sylfaenol

Pan fydd plant yn ysgrifennu fe ddylent gael yr un cyfle ag a gaiff oedolion.

Mae hyn yn golygu fod:

(a) gwahanol ffurfiau yn ateb i wahanol ddibenion, e.e. llythyr i gwyno, stori i ddiddanu, adroddiad i gofnodi.

(b) modd ail-drefnu, newid rhannau, ychwanegu at rannau cyn "ei adael o'r llaw".

(c) cael y "neges" yn iawn, lawn cyn bwysiced â sillafu'n gywir.

Mae'n bwysig, felly, i ni fel athrawon annog y plant i chwilio am y ffordd orau i ddweud rhywbeth, ac i "roi eu hunain yn esgidiau'r darllenydd".

Golyga hyn fod y plant yn gorfod bod yn ymwybodol pwy fydd y darllenydd

- ai'r athro/athrawes?

- plant eraill y dosbarth?

- darllenwyr papur-bro?

- neu berchennog y ffatri leol?

Wrth sicrhau rheswm dros i'r plant ysgrifennu rydym yn rhoi rheswm dros iddyn nhw ei wneud mor raenus ag sydd bosib.

B. Mae model fel y canlynol yn un ffordd bosibl o edrych ar y broses ysgrifennu:

Cyn-ysgrifennu

Cyfansoddi

Rhannu

Datblygu

Cyhoeddi