Ysgrifennu
SILLAFU

______________________________________ Yn ôl..

Y mae'n bwysig

*creu hinsawdd lle mae'r plant yn gwybod y cânt eu canmol am ymdrech i sillafu'n gywir, nid eu condemio am eu gwallau.

*codi statws sillafu yn y dosbarth gan wneud geiriau, a'u perthynas â'i gilydd, yn destun trafod rheolaidd

*dysgu plant sut i weld gair ar gyfer cofio ei sillafu

e.e. classroom = class + room, unhelpful = un + help + ful


"Mr. Jones sut mae sillafu ...?"

Mae'n bwysig, pan fyddwn yn rhoi cymorth i sillafu gair, ein bod yn adeiladu ar yr hyn a wyr y plant yn barod. Dylent orfod gweithio am y sillafiad - gwneud ymgais ar bapur yn gyntaf, meddwl am eiriau sy'n debyg a.y.b.

e.e. Plentyn: How do you spell "heart"?

Athro: What do you think it looks like:

Plentyn yn ysgrifennu "hart"

Athro: Can you spell "ear" (pl. yn ysgrifennu "ear")

What about "hear"? Write it down ...

Can you hear your heart?

Plentyn yn sylweddoli'r tric, cael y neges, a'i ysgrifennu'n gywir. Ar ôl cael gwers sydyn o fewn ei allu - dylai aros yn ei gof ... Bydd angen ymarfer cyson iawn hefo rhai plant e.e. gemau sillafu pwrpasol.

Mae yno berygl nad ydi "rhoi" gair i blentyn yn ei symud ymlaen o gwbl, gan nad yw'n ei gofio wedyn - byddai wedi'i gofio cyn hyn os oedd mor syml â hynny! Os ydyw yn gwybod y gair yn barod hwyrach mai problem arall sydd ganddo e.e. ofn mentro, gor-ddibyniaeth ar athro/athrawes.

Gall athro/athrawes ryddhau amser i helpu'r plant sydd â gwir angen cymorth, drwy sicrhau bod digon o eiriaduron ar gael i'r dosbarth fel y gallant weithio'n fwy annibynnol. Rhagdybir bod plant wedi cael eu dysgu i ddefnyddio'r sgiliau angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn.

Bydd llunio polisi ysgol gyfan ar sut i ddysgu sgiliau geiriadur - e.e. rhoi tair llythyren gyntaf gair i blant â phroblemau, fel bod ganddynt siawns o ddarganfod y gair ar eu pennau eu hunain a theimlo rhywfaint o annibyniaeth a llwyddiant. Cofier bod angen amrywiaeth o eiriaduron a thesawrws ar gael bob amser. Dylai'r plant gael amser i bori ynddynt.

 
Ymchwilio a mwynhau geiriau

Dylid codi ymwybyddiaeth y plant o eiriau e.e.

- gwneud ymchwil i darddiad geiriau (photographs < photos Gr.)

- chwilio am deuluoedd geiriau (e.e. definite/finite)

Bydd hyn yn creu'r arfer o sylwi ar eiriau yn fanwl.

 
Cychwyn o waith plant

Dylid defnyddio camgymeriadau'r plant fel man cychwyn i ddysgu sillafu. Bydd ceisio darganfod pam eu bod yn cael y trafferthion yn gymorth i'w helpu. Efallai mai cof gweledol sâl, diffyg clywed y synau'n gywir neu gam-ynganu ydi'r broblem. Bydd angen gwaith ar ôl-ddodiaid ar rai, eraill yn drysu patrymau sy'n swnio'n debyg e.e. "enuff" yn lle "enough".


Rhai strategaethau i ddatblygu'r cof

Defnyddio'r synhwyrau:

Golwg -           SACAWAC - Study and Cover and Write and Check

Clyw -             gemau fel "Chinese Whispers" i ddatblygu'r sgil o wrando

Teimladau -   olrhain siâp gair hefo'r bys yn yr awyr/mewn tywod, ymarfer llawysgrifen glwm gyda phatrwm  sillafu arbennig

Bydd hyn yn ymarfer llif y gair ac yn serio'r patrwm yn y cof.

Mnemonics: unrhyw ddywediad neu stori sy'n helpu'r cof. Gallai'r plant wneud rhai i fyny am eiriau, neu ran o air sy'n anodd ei gofio iddynt hwy.

e.e. BEAUtiful "Because Eliphants Aren't Ugly"
       mynydd - mae'n haws dringo mynydd hefo dwy goes (yy)

Gemau: megis Shannon' game ('Teaching Spelling' Mike Torbe) - gêm debyg i Hangman, ond bod angen darganfod y llythrennau yn ôl eu trefn yn y gair. Datblyga hyn gof am ddilyniant llythrennau mewn geiriau.

Mae nifer fawr o gemau yn y llyfr "Bright Ideas: Spelling" (Scholastic)

e.e. gemau rhag-ddodiad ac ôl-ddodiad
       gemau Bingo o batrymau arbennig

Mae'r llyfr yn annog defnyddio gemau sy'n addas ar gyfer camau datlbygiad sillafu'r plant - mae pob un wedi'i nodi yn ôl camau Richard Gentry:

semi phonetic > phonetic > transitional > correct

e.e. "MSR" "MONSTR" "MONSTUR" "MONSTER"

fel bod modd dewis gêm i helpu datblygu'r sgiliau arbennig mae plentyn/grwp bach ei angen.


Teledu

Gall defnyddio rhaglen fel "Look and Read" fod yn gymorth i lawer o blant sydd yn cael trafferthion gyda'u sillafu. Yn ystod y rhaglen, byddant yn ymarfer patrymau sillafu ar gân ac yn weledol, ac yn dadelfennu geiriau yn ôl eu patrwm e.e. ôl-ddodiaid arbennig:

       play              cry               hid(e)
             ing              ing                   ing

Disgwylir i'r plant gyd-ganu a darllen yn uchel drwy'r rhaglen.


Cyfrifiadur

Dylid defnyddio "Spellcheck" ar y cyfrifiadur fel bod rhywfaint o gyfrifoldeb ar i'r plant ddarganfod y gair cywir o nifer o rai gwahanol. Nid oes fawr o bwrpas gadael i'r cyfrifiadur wneud y gwaith i gyd drostynt!


Profion Sillafu

Os am ddefnyddio profion sillafu dylid sicrhau:

bod geiriau a osodir yn dod yn uniongyrchol a anghenion y plant h.y. bod profion gwahanol yn cael eu gosod yn ôl anghenion sillafu yr unigolion/grwpiau bach, gan ganolbwyntio ar eiriau a ddefnyddiant yn aml a/neu eiriau sy'n perthyn i thema arbennig. Gwell fyddai i blant ddewis eu geiriau eu hunain i'w dysgu.

bod y dasg a osodir o fewn gallu bob plentyn er yn eu hymestyn rhywfaint.

bod y prawf yn cael ei ystyried yn sialens yn hytrach nag yn fygythiad gan bob plentyn, yn fwy o gêm nag arholiad!

bod y plant yn ceisio gwella ar eu canlyniadau nhw eu hunain yn unig. Ni ddylid eu wneud yn gystadleuaeth gan gymharu â chanlyniadau plant eraill gan fod hyn yn cadarnhau methiant rhai plant - onibai eu bod yn gweithio mewn parau efo plant sydd o'r un gallu sillafu â hwy.

Nid ydyw profion yn cael eu cymeradwyo yn gyffredinol, gan fod gweithgareddau mwy buddiol ar gael. Bydd y plant fel arfer yn tueddu i anghofio'r sillafiad yn union ar ôl eu prawf, ac yn sicr, y tro nesaf y byddant yn ysgrifennu!


Syniadau gwell

(a) gallai'r plant osod prawf i'r athro/athrawes. Rhydd hyn gyfle i drafod sillafu.

(b) byddai "gêm darganfod sawl gair a welwch mew gair hir" yn fuddiol gan eu bod yn gorfod meddwl yn fwy dychmygol e.e.

dinosaur

ran   said       ruin     our    iron      sin     rain     sad      run ...

(c) gêm o chwilio am gymaint o eiriau ag y gallant eu darganfod sy'n cynnwys rhyw batrwm, o fewn amser penodol e.e.

our

course    pour    flour     fourteen     hour      journey     your ...

(ch) gêm geiriadur: darganfod gair sy'n dechrau hefo llythyren arbennig ac sy'n golygu ... neu sy'n cynnwys y patrwm ...


RHAI LLYFRAU DEFNYDDIOL:

Bright Ideas: Spelling (Scolastic)
M. L. Peters - Spelling: Cauthgt or Taught - a New Look (Routledge 1985)
C. Cripps - Catchwords (Harcourt Brace Javanovich)
Mike Torbe - Teaching Spelling (Ward Lock 1977)
Richard Gentry - Spel is a Four Letter Word (Scholastic 1987)
Michael Graves - A Word is a Word ... or is it? (Scholastic 1985)