Gellir gweld godidowgrwydd yr arfordir ar ei orau drwy gerdded Llwybr yr Arfordir, a agorwyd yn 1970 ac sy'n 299km (186 milltir) o ran hyd.

Fel gyda phob tirwedd greigiog fel hyn rhaid i gerddwyr fod wedi gwneud paratoadau gofalus os am fwynhau'r llwybr hwn yn ddiogel.

Mae'n ymestyn o draeth Poppit yn y gogledd i Amroth yn y de, ac fe gynhelir y llwybr gan Awdurdod y Parc, ynghyd â rhyw 725km (453 milltir) o lwybrau cyswllt, llwybrau mewndirol a llwybrau ceffyl. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhoi grant ar gyfer cynnal a chadw llwybr yr arfordir, sydd wedi'i ddynodi'n Llwybr Cenedlaethol, sef arwydd o'r amlygrwydd a roddir yn genedlaethol i'w safon a'i arwyddocâd.