Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw prif ddiwydiannau Sir Benfro. Mae tywydd mwyn a phridd ffrwythlon glannau'r arfordir yn addas ar gyfer ffermio tir âr, gan gynnwys tatws newydd, tra bo'r mwyafrif o'r ffermydd mewndirol yn cadw gwartheg godro. Ar fynydd-dir y gogledd y traddodiad yw cadw defaid, ynghyd â'r diwydiant coedwigaeth mwy diweddar.

Y trefi glan-y-môr yn ne'r sir sydd yn denu'r nifer fwyaf o ymwelwyr i Sir Benfro, gyda Dinbych y pysgod a Saundersfoot a'r pentrefi cyfagos yn arbennig o boblogaidd. Ar arfordir y gorllewin, mae pentrefi fel Aber Llydan a Solfach yn denu llawer o ymwelwyr tra yn y gogledd, mae pentref dinesig Tyddewi, gydag Eglwys Gadeiriol fendigedig, a Nanhyfer gyda'r Groes Geltaidd enwog, yn fannau holl bwysig i ymweld â hwy.

Yn fwy diweddar mae'r angorfa naturiol, gysgodol a gynigir gan Ddyfrffordd Aberdaugleddau wedi datblygu yn un o brif borthladdoedd olew y byd. Cymaint yw graddfa a godidowgrwydd yr harbwr naturiol hwn nad yw'r datblygiadau hyn, hyd yn oed, wedi dinistrio ei brydferthwch naturiol.