Brithir arfordir Sir Benfro gan ynysoedd - Skomer, Skokholm, Grassholm, Ynys Dewi ac Ynys Byr - a enwyd gan oresgynwyr o wledydd Llychlyn. Mae Ynys Byr yn gartref i Fynachdy Sistersaidd, tra mae'r ynysoedd eraill yn enwog am eu hadar, am garpedi o flodau gwyllt yn y gwanwyn ac am eu morloi llwyd. Mae'r arfordir o gwmpas Ynys Skomer a phentir Marloes yn un o'r unig ddwy Warchodfa Fôr ym Mhrydain ac mae ynysoedd arfordir y gorllewin oll yn enwog trwy'r byd am eu bywyd gwyllt.