|
Ganwyd Alexander Graham Bell ar y trydydd o Fawrth, 1847 yng Nghaeredin, Yr Alban. Roedd cefndir y teulu ym myd y byddar a'r llafar. Roedd ei dad yn darlithio yn y gelfyddyd o siarad ym Mhrifysgol Caeredin ac roedd nam ar glyw ei fam. |
Fe wyddost bod yr Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni, ond beth arall ddigwyddodd 'nôl yn 1922? Wel, dyma'r flwyddyn y bu farw Alexander Graham Bell, y gwr enwog ddyfeisiodd y ffôn. Darllena ymlaen i gael mwy o'i hanes.. | ||
|
Cafodd Bell ei swydd gyntaf yn 16 oed, yn dysgu yn Elgin, Yr Alban. Pan yn 17 oed, aeth yn ôl i'r coleg i ddysgu Lladin a Groeg. Yma y dechreuodd ei ddiddordeb mewn llais a'r ffordd roedd y llais yn gweithio. Dechreuodd ddarllen am arbrofi swn, gwaith arbenigwr o'r Almaen. Syniad Bell oedd bod posib siarad drwy donnau trydanol ar wifren. |
|||
|
Yn 1870, a Bell yn 23 oed, symudodd y teulu i Ganada yn dilyn marwolaeth ei ddau frawd o salwch difrifol. Yna yn 1871, aeth Bell i Boston yn America i ddysgu iaith roedd ei dad wedi ei chreu, sef iaith weledol ar gyfer dysgu pobl fyddar i ynganu'n glir. Drwy ddefnyddio ei lais ei hun roedd Bell yn gallu dysgu pobl eraill i siarad yn glir. Roedd yn rhoi eu dwylo ar ei wddf neu ei geg ei hun ac yn dweud rhyw air arbennig. Wedyn, wrth i'r disgybl geisio dweud yr un gair, roedd y disgybl yn rhoi ei ddwylo ar ei wddf ei hun, ac yn ceisio creu yr un teimlad yn ei wddf. Erbyn hyn roedd Bell yn gweithio yn ystod y dydd ac yn arbrofi yn ystod y nos.
|
|||
|
|
1871 - |
Bell yn cael ei wneud yn Athro mewn Seicoleg Lleisiol | |
|
1875 - |
Bell yn dyweddïo â Mabel Hubbard, merch fyddar. | ||
|
1875 - |
Tad Mabel a gwr o'r enw Thomas Sanders yn rhoi cefnogaeth ariannol i Bell er mwyn creu gweithdy a chael cynorthwydd rhan amser o'r enw Thomas Watson i'w helpu. | ||
|
1875 - |
Darganfod ffordd o wneud i swn droi'n drydan ac yna troi yn ôl yn swn - hynny yw, dyfeisio'r ffôn! | ||
|
1876- |
Tad Mabel yn mynd i roi patent ar ffôn Bell yn Swyddfa Patent America (sef cofrestru a hawlio mai Bell oedd y gwr cyntaf erioed i ddyfeisio'r ffôn). | ||
|
1876- |
3ydd o Fawrth Patent Bell yn cael ei dderbyn ar ei ben-blwydd yn 29 oed. Ef oedd patent rhif 174,465 yn America. Am flynyddoedd wedyn cafodd Bell ei lusgo drwy'r llys gan Elisha Gray, dyn oedd yn honni mai ef oedd y cyntaf i ddyfeisio'r ffôn. Enillodd Bell ei achos yn y diwedd! | ||
|
1876- |
10fed o Fawrth Watson yn clywed Bell yn gweiddi am help drwy'r ffôn am y tro cyntaf erioed. Diwrnod darganfod swn llais ar y ffôn! | ||
|
1877 - |
Bell, Watson, Hubbard a Sanders yn sefydlu Cwmni Ffôn Bell. | ||
|
1878 - |
Bell a Mabel Hubbard yn priodi. | ||
|
1880 - |
Bell wedi syrffedu ar y ffôn. Gadawodd y cwmni ffôn a'r byd ffôn yn gyfan gwbl. Er hyn, fe'i gwnaed yn ddyn cyfoethog iawn drwy ddyfeisio'r ffôn. | ||
|
O 1880 hyd ddiwedd ei oes, parhaodd Bell i ddyfeisio pob math o bethau. Yn eu mysg creodd awyren arbennig a'r hydrofoil (sef cwch efo sgis sy'n symud ar wyneb y dwr). Bu farw Bell yn 1922, yn 75 oed. Felly'r tro nesaf rwyt ti'n siarad ar y ffôn am oriau gyda dy ffrind, dy nain, dy dad, dy gath …. cofia am Alexander Graham Bell! |
|||