Clychau
Bell |
Ymateb i ddeunydd ffeithiol |
Amcanion Addysgol
|
- Geiriau anghyfarwydd:
e.e. byddar, arbrofi, tonnau, trydanol, gwifren, ynganu, cynorthwydd, dyfeisio, cofrestru,
patent, syrffedu
- Cynnwys:
Pa wybodaeth mae'r paragraff cyntaf yn ei roi i chi?
Roedd Bell yn athro yn 16 oed; ydy pobl heddiw yn medru bod yn athrawon yn 16 oed?
Eglurwch.
Darllenwch y frawddeg sy'n cyfleu y syniad a gafodd Bell ynglyn â llais yn cario.
Pam symudodd y teulu i Ganada yn 1870?
Eglurwch sut roedd Bell yn gallu dysgu pobl eraill i siarad.
- Arddull:
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y testun yn tud 14 a 15?
Pa gyfrwng sy'n rhoi mwyaf o wybodaeth?
Pa gyfrwng ydych chi'n hoffi ei ddarllen?
Beth allwch chi ei ddweud am y darn glas ar ddechrau'r erthygl?
|
Cyfoethogi
iaith
|
- Trefn y wyddor:
Dewis geiriau anodd o'r darn gan eu rhoi yn nhrefn yr wyddor. (Gellir gwneud hyn ar
y bwrdd du)
- Geiriau yn dechrau gyda 'ar':
Chwilio a thanlinellu geiriau yn dechrau gydag 'ar' (arbrofi, arbenigwr, arbennig,
ariannol). Meddwl am fwy o eiriau yn dechrau gydag 'ar'.
- Treiglad trwynol:
Mae enw lle sy'n dechrau gyda p, t, c, b, d, g yn newid o flaen 'yn'
e.e. Caeredin > yng Nghaeredin.
Ymarfer treiglo ar lafar gydag enwau llefydd lleol.
|