logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Yr Enfys

    
Ymateb i gerdd

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    mhont y glaw, friwsion, gwrych, gwych, yng nghanol, ffeind
     
  • Cynnwys:
       
    Beth yw testun y gerdd?
    Sawl lliw sydd yn cael ei enwi?
    A oes mwy o liwiau yn yr enfys?
    Gyda beth mae'r bardd yn cymharu'r lliwiau?
    Pa un yw eich hoff bennill?  Pam?
    Sut allai bardd fod wedi disgrifio'r 2 lliw coll - indigo a fioled?
                   
  • Arddull:

    Sawl pennill sydd i'r gerdd?
    A oes odl ynddi?
    Pa eiriau sy'n odli?
    Sawl sillaf sydd ym mhob llinell?
    Pwy yw'r bardd?
           
Cyfoethogi iaith
     
  • Atalnodi :
      
    Priflythyren, atalnod llawn, atalnod, collnod, marc cwestiwn, to bach.
        
  • Geiriau â'r un ystyr:
        
    Tynnu sylw at ddefnydd y bardd o'r enw 'enfys' a 'pont y glaw'.
    Ychwanegu un arall 'bwa'r arch'.
    Enghreifftiau eraill, e.e. llaeth, llefrith, rhew, iâ, porfa, glaswellt.
            
  • Acen grom:
                   
    Tynnu sylw at eiriau sydd â tho bach, e.e. mân, dân.  Egluro sut mae'r swn yn newid oherwydd y to bach - y llafariad yn hirach.
                  
    Engrhreifftiau eraill, e.e. trên, swn, môr.
  • Enwau priod:
             
    Tynnu sylw at y geiriau yng nghanol y gerdd sy'n dechrau â phrif lythyren, e.e. Robin, Urdd, Ngorffennaf.
    Egluro mai enwau priod ydynt fel eu henwau nhw, e.e. Steffan, Anwen.
Y Gerdd:
Yr Enfys

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • Trafod y gerdd:
       
    Ateb  cwestiynau ar y garden waith mewn grwp.
    Cyfle i dapio.
(Gw 1)
Darllen
  • Enwau priod:
       
    Chwilio am yr enwau priod yn y gerdd.
    Cywiro'r geiriau ar y daflen a'u rhannu yn enwau priod ac enwau cyffredin.
(Gw 2)
  • Cywiro'r gerdd:
      
    Edrych ar gopi anghywir o'r gerdd a chwilio am y camgymeriadau a'u cywiro.
(Gw 3)
  • Geiriau â'r un ystyr:
      
    Cyfateb y geiriau â'r un ystyr gan edrych mewn geiriadur i'w cynorthwyo.
(Gw 4)
Ysgrifennu
  • Gorffen y gerdd:
      
    Rhestru pethau gellid eu defnyddio i ddisgrifio'r ddau liw coll - indigo a fioled.
    Ceisio creu 2 bennill ychwanegol.
(Gw 5)