logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Fferm Ffoli

    
Ymateb i ddeunydd ffeithiol

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    e.e. cyfarfod, weithredol Gymraeg, uchafbwynt, ymweliad, arddangosfa, amgueddfa, gorffennol, gwibgartio.
     
  • Cynnwys:
       
    Am beth mae'r darn yn sôn?
    Pwy sy'n siarad gyda chi?
    Beth yw enwau'r teulu sydd biau'r fferm?
    Beth mae'r frawddeg 'Mae'r fferm yn un weithredol Gymreig' yn ei feddwl?
    Beth yw uchafbwynt y dydd?
                   
  • Arddull:

    Pwy sy'n siarad gyda chi?
    Ydy'r erthygl wedi'i hysgrifennu mewn paragraffau?
    Pam mae'r erthygl yn gofyn nifer o gwestiynau?
           
Cyfoethogi iaith
     
  • Cyflythrennu:
      
    Tynnu sylw at yr enwau sydd wedi eu cyflythrennu e.e. Olwen Oen, Llio Llo, Gwyn Gafr, Fferm Ffoli.
    Meddwl am fwy o enghreifftiau.
        
  • Geirfa:
        
    Tynnu sylw at eiriau sydd â dwy 'n' yn y darn.
    e.e. arbennig, cynnal, gorffennol, peiriannau, honno.
            
  • Amser presennol:
         
    Tynnu sylw at y ffaith fod y darn wedi'i ysgrifennu yn y presennol drwy ddefnyddio MAE yn lle ROEDD.
    e.e.
    Mae hi'n braf heddiw.
    Roedd hi'n bwrw glaw ddoe.
    Meddwl am fwy o enghreifftiau.
          
Deunydd Ffeithiol:
Fferm Ffoli

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • 'Beth welaist ti yn Fferm Ffoli:
       
    Pob plentyn yn ychwanegu un peth at y frawddeg fel hyn:
    Rhaid cofio beth mae eu ffrindiau wedi dweud.  Os bydd y plentyn yn anghofio bydd allan o'r gêm.
    e.e. Gwelais Olwen Oen yn Fferm Ffoli.
    Gwelaid Olwen Oen a Llio Llo yn Fferm Ffoli.
(Gw 1)
Darllen
  • Dyblu'r 'n':
                       
    Chwilio am eiriau sydd â dwy 'n' yn yr erthygl.
    Defnyddio geiriadur neu eu llyfr darllen i chwilio am ragor o eiriau sydd â dwbl 'n'.
    Rhoi pump ohonynt mewn brawddeg.
(Gw 2)
  • Cyflythrennu:
                     
    Creu enwau sy'n cyflythrennu.
(Gw 3)
  • Geiriau coll:
               
    Darllen y darn er mwyn darganfod y geiriau sydd ar goll.
(Gw 4)
  • Chwilio am wybodaeth:
                       
    Gwneud rhestr o'r pethau a welir yn Fferm Ffoli.
(Gw 5)
  • Taith llaeth o'r fuwch i'r cartref:
                                 
    Gosod brawddegau yn y drefn gywir.
(Gw 6)
  • Y Ffair:
                                 
    Darllen a deall.
(Gw 7a)
  • Ffair ddoe a heddiw:
                         
    Trefnu'r gosodiadau am ffair ddoe a ffair heddiw gan ddefnyddio 'roedd' a 'mae'.
(Gw 7b)
Ysgrifennu
  • Taflen ymwelwyr:
                   
    Cynllunio taflen i ddenu ymwelwyr i Fferm Ffoli.
(Gw 8)
  • Taith llaeth o'r fuwch i'r cartref:
     
    Rhoi lluniau'r daith llaeth yn eu trefn ac ysgrifennu brawddegau.
(Gw 9)
  • Llunio adroddiad:
      
    Dychmygu eu bod wedi ymweld â Fferm Ffoli gyda'r ysgol.  Ysgrifennu adroddiad am eu taith..
(Gw 10)