Helô mawr a chroeso i Folly Farm, lle grêt i ddod am dro gyda dy fam, dy dad, dy chwaer, dy frawd neu dy athrawon a dy ffrindiau ysgol. Moi Mochyn ydw i, a dwi am fynd â ti am dro o amgylch y fferm i gyfarfod gweddill fy ffrindiau.

Pan ddoi di draw i Folly Farm, mi gei di'r cyfle i helpu'r teulu Williams i'n bwydo ni a gofalu amdanom ni. Mae'r fferm yn un wreiddiol Gymreig, felly mae'n rhaid godro a bwydo'r gwartheg bob dydd fel ar unrhyw fferm arall.